
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg (Llanhari, Pont-y-clun, Penllyn, Llanddunwyd a Phendeulwyn) 2002.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Ebrill 2002, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau, ond at ddibenion pob achos sy'n arwain at etholiad neu'n ymwneud ag etholiad sydd i'w gynnal ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff ei wneud.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Bro Morgannwg” (“the Vale of Glamorgan”) yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg;
 ystyr “y map ffiniau” (“the boundary map”) yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a farciwyd “Map o Orchymyn Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg (Llanhari, Pont-y-clun, Penllyn, Llanddunwyd a Phendeulwyn) 2002” a sydd wedi'I hadneuo yn unol a Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 fel y'u diwygiwyd;
 ystyr “Rhondda Cynon Taf” (“Rhondda Cynon Taff”) yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
3 
Caiff y rhan honno o Rondda Cynon Taf sydd yng nghymuned Llanhari ac a ddangosir â llinellau croes du ar y map ffiniau ei gwahanu oddi wrth y fwrdeistref sirol a'r gymuned honno a bydd yn ffurfio rhan o gymuned Penllyn ym Mro Morgannwg.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Gyllid, Lywodraeth Leol a Chymunedau
5 Mawrth 2002

