
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 2) (Diddymu) 2002 ac maent yn gymwys i Gymru.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 27 Chwefror 2002.
2 
Diddymir Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 2) 2002.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
Dyddiad 26 Chwefror 2002