
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2002, deuant i rym ar 1 Mawrth 2002 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995.
2 

(1) Caiff y prif Reoliadau eu diwygio, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â pharagraffau (2) a (3) isod.
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)—
(a) yn y diffiniad o “Directive 95/31/EC” caiff y geiriau “and by Directive 2001/52/EC” eu hychwanegu ar y diwedd; a
(b) yn lle'r diffiniad “permitted sweetener” rhoddir y diffiniad canlynol—“
 “permitted sweetener” means any sweetener specified in column 2 of Schedule 1 which satisfies the specific purity criteria for that sweetener set out—
(a) in the case of any sweetener other than sucralose, in the Annex to Directive 95/31/EC; and
(b) in the case of sucralose, at pages 119 to 124 of the Food and Agriculture Organisation’s Compendium of Food Additives Specifications Addendum 2 (1993) FAO Food and Nutrition Paper 52 Addendum 2;”.
(3) Yn Atodlen 1 (melysyddion a ganiateir a'r bwydydd y gellir eu defnyddio arnynt neu ynddynt), caiff y darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn eu hychwanegu ar ddiwedd colofnau 2 i 4.
3 

(1) Bydd paragraff (2) o reoliad 4 (diwygiadau canlyniadol) o Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001 yn peidio â bod yn effeithiol.
(2) Yn y darpariaethau a bennir ym mharagraff (3) isod, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, rhaid dehongli cyfeiriadau at y prif Reoliadau fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'u diwygiwyd hyd at a chan gynnwys y diwygiadau a weithredir gan y Rheoliadau hyn.
(3) Dyma'r darpariaethau y mae paraagraff (2) uchod yn cyfeirio atynt—
(a) y diffiniad o “permitted sweetener” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (interpretation) o Reoliadau Jam a Chynnyrch Tebyg 1981;
(b) y diffiniad o “additive” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod y gellir eu Taenu 1984);
(c) y diffiniad o “sweetener” yn Rhan II o Atodlen 1 (categorïau o ychwanegion bwyd) i Reoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992;
(ch) y diffiniad o “sweetener” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995; a
(d) yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996—
(i) paragraff (1) o reoliad 34 (bwydydd sy'n cynnwys melysyddion, siwgr ychwanegol a melysyddion, aspartame neu polyols); a
(ii) yn Atodlen 8 (disgrifiadau camarweiniol) Rhan I (cyffredinol), yr amod yng ngholofn 2 gyferbyn â'r disgrifiad “ice cream” yng ngholofn 1.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998)
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Chwefror 2002
YR ATODLEN
Rheoliad 2(3)

Sucralose Non-alcoholic 
 Water-based flavoured drinks, energy-reduced or with no added sugar 300 mg/1
 Milk-and milk-derivative-based or fruit-juice-based drinks, energy-reduced or with no added sugar 300 mg/1
 Desserts and similar products 
 Water-based flavoured desserts, energy-reduced or with no added sugar 400 mg/kg
 Milk-and milk-derivative-based preparations, energy-reduced or with no added sugar 400 mg/kg
 Fruit-and vegetable-based desserts, energy-reduced or with no added sugar 400 mg/kg
 Egg-based desserts, energy-reduced or with no added sugar 400 mg/kg
 Cereal-based desserts, energy-reduced or with no added sugar 400 mg/kg
 Breakfast cereals with a fibre content of more than 15%, and containing at least 20% bran, energy-reduced or with no added sugar 400 mg/kg
 Fat-based desserts, energy-reduced or with no added sugar 400 mg/kg
 Confectionery 
 Confectionery with no added sugar 1000 mg/kg
 Breath-freshening micro-sweets, with no added sugar 2400 mg/kg
 Tablet-form confectionery, energy-reduced 200 mg/kg
 Cocoa-or dried-fruit-based confectionery, energy-reduced or with no added sugar 800 mg/kg
 Starch-based confectionery, energy-reduced or with no added sugar 1000 mg/kg
 Chewing gum with no added sugar 3000 mg/kg
 Strongly flavoured freshening throat pastilles with no added sugar 1000 mg/kg
 Miscellaneous 
 “Snacks”: certain flavours of ready to eat, prepacked, dry, savoury starch products and coated nuts 400mg/kg
 Cornets and wafers, for ice-cream, with no added sugar 800mg/kg
 Essoblaten 800mg/kg
 Cocoa-, milk-, dried-fruit- or fat-based sandwich spreads, engery- reduced or with no added sugar 400mg/kg
 Drinks consisting of a mixture of a non-alcoholic drink and beer, cider, perry, spirits or wine 250mg/l
 Cider and perry 250mg/l
 Alcohol-free beer or with an alcohol content not exceeding 1.2% vol 250mg/l
 “Bière de table/Tafelbier/Table beer” (original wort content less than 6%) except for “Obergäriges Einfachbier” 250mg/l
 Beers with a minimum acidity of 30 milli-equivalents expressed as NaOH 250mg/l
 Brown beers of the “oud bruin” type 250mg/l
 Energy-reduced beer 10mg/l
 Spirit drinks containing less than 15% alcohol by volume 250mg/l
 Edible ices, energy-reduced or with no added sugar 320mg/kg
 Canned or bottled fruit, energy-reduced or with no added sugar 400mg/kg
 Energy-reduced jams, jellies and marmalades 400mg/kg
 Energy-reduced fruit and vegetable preparations 400mg/kg
 Feinkostsalat 140mg/kg
 Sweet-sour preserves of fruit and vegetables 180mg/kg
 Sweet-sour preserves and semi-preserves of fish and marinades of fish, crustaceans and molluscs 120mg/kg
 Sauces 450mg/kg
 Energy-reduced soups 45mg/l
 Mustard 140mg/kg
 Fine bakery products: energy-reduced or with no added sugar 700mg/kg
 Complete formulae for weight control intended to replace total daily food intake or an individual meal 320mg/kg
 Complete formulae and nutritional supplements for use under medical supervision 400mg/kg
 Liquid food supplements/dietary integrators 240mg/kg
 Solid food supplements/dietary integrators 800mg/kg
 Food supplements/diet integrators based on vitamins and/or mineral elements, syrup-type or chewable 2400mg/kg