
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn effeithiol mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2002 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Yn lle is-adran (12) o adran 32 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 rhoddir—“
(12) In this section and in section 33 below, “relevant special grant” means the special grant payable in accordance with the special grant report (Special Grant Report (No 20) (Wales) 2001) approved by the National Assembly for Wales pursuant to section 88B of the 1988 Act on 24 January 2002.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Chwefror 2002