
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Tor-faen (Newidiadau Etholiadol) 2002.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym:
(a) at ddibenion achosion, sy'n arwain at unrhyw etholiad neu'n ymwneud ag unrhyw etholiad sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2004, ar 9 Hydref 2003, a
(b) at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.
(3) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;
 ystyr “adran etholiadol” (“electoral division”) yw un o adrannau etholiadol Bwrdeistref Sirol Tor-faen fel y'i sefydlwyd gan Orchymyn Trefniadau Etholiadol Bwrdeistref Sirol Tor-faen 1994;
2 

(1) Mae adrannau etholiadol presennol Bwrdeistref Sirol Tor-faen a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Trefniadau Etholiadol Bwrdeistref Sirol Tor-faen 1994 wedi'u diddymu.
(2) At ddibenion ethol cynghorwyr ar gyfer Bwrdeistref Sirol Tor-faen, rhennir y fwrdeistref sirol honno yn 24 o adrannau etholiadol yn dwyn yr enwau a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a bydd pob adran etholiadol o'r fath yn ffurfio'r ardal a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno.
(3) Y nifer a bennir mewn perthynas â'r adran yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn fydd y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob adran etholiadol o'r fath.
3 
Rhaid i'r swyddog cofrestru wneud unrhyw ad-drefniadau neu addasiadau i'r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol sy'n angenrheidiol am fod y Gorchymyn hwn yn dod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
E. Hart
Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Chymunedau
6 Rhagyfr 2002
YR ATODLEN
Erthygl 2


(1) (2) (3)
Enw'r Adran Etholiadol Ardal yr Adran Etholiadol Y nifer o gynghorwyr
Abersychan Cymuned Abersychan 3
Blaenafon Cymuned Blaenafon 3
Bryn-wern Ward Bryn-wern yng Nghymuned Llanfihangel Pont-y-moel 1
Coed Efa Ward Coed Efa yng Nghymuned Fairwater 1
Gogledd Croesyceiliog Ward Gogledd Croesyceiliog yng Nghymuned Croesyceiliog 2
De Croesyceiliog Ward De Croesyceiliog yng Nghymuned Croesyceiliog 1
Cwmynysgoi Ward Cwmynysgoi yng Nghymuned Llanfihangel Pont-y-moel 1
Fairwater Ward Fairwater ac Oaksford yng Nghymuned Fairwater 2
Greenmeadow Ward Greenmeadow yng Nghymuned Fairwater 2
Llantarnam Cymuned Llantarnam ac ward Southville yng Nghymuned Cwmbrân Canolog 2
Gogledd Llanyrafon Ward Gogledd Llanyrafon yng Nghymuned Llanyrafon 1
De Llanyrafon Cymuned Pont-hir ac ward De Llanyrafon yng Nghymuned Llanyrafon 1
New Inn Cymuned New Inn 3
Panteg Cymuned Panteg 3
Pontnewydd Cymuned Pontnewydd ac ward Northville yng Nghymuned Cwmbrân Canolog 3
Pontnewynydd Ward Pontnewynydd ng Nghymuned Pen Transh 1
Pont-y-pŵl Ward Pont-y- pŵl yng Nghymuned Llanfihangel Pont-y-moel 1
Snatchwood Ward Snatchwood yng Nghymuned Pen Transh 1
St Cadocs a Phen-y-garn Ward St Cadocs a Phen-y-garn yng Nghymuned Trefddyn 1
Llanfihangel Llantarnam Ward Llanfihangel Llantarnam yng Nghymuned Cwmbrân Canolog 2
Trefddyn Ward Trefddyn yng Nghymuned Trefddyn 2
Two Locks Ward Two Locks yng Nghymuned Cwmbrân Canolog ac yng Nghymuned Henllys 3
Cwmbrân Cymuned Cwmbrân Uchaf 3
Waunfelin Ward Waunfelin yng Nghymuned Pen Transh 1