
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Ceredigion (Newidiadau Etholiadol) 2002.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym:
(a) at ddibenion achosion, sy'n arwain at unrhyw etholiad neu'n ymwneud ag unrhyw etholiad sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2004, ar 9 Hydref 2003, a
(b) at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.
(3) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “adran etholiadol” (“electoral division”) yw un o adrannau etholiadol Sir Ceredigion fel y'u sefydlwyd gan Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Aberteifi 1994;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;
 ystyr “map A” (“map A”) yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a farciwyd “map A Gorchymyn Adrannau Etholiadol Cymuned Aberystwyth 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 ;
 ystyr “map B” (“map B”) yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a farciwyd “map B Gorchymyn Adrannau Etholiadol Cymuned Aberteifi 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;
 ystyr “map C” (“map C”) yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a farciwyd “map C Gorchymyn Adrannau Etholiadol Cymuned Llanbadarn Fawr 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976.
2 

(1) Mae adrannau etholiadol presennol Sir Ceredigion a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Aberteifi 1994 wedi'u diddymu.
(2) At ddibenion ethol cynghorwyr ar gyfer Sir Ceredigion, rhennir y Sir honno yn 40 o adrannau etholiadol yn dwyn yr enwau a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a bydd pob adran etholiadol o'r fath yn ffurfio'r ardal a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno, fel y'i dynodir ar y mapiau ac fel y'i diffinnir â llinellau coch.
(3) Y nifer a bennir mewn perthynas â'r adran yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn fydd y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob adran etholiadol o'r fath.
3 
Rhaid i'r swyddog cofrestru wneud unrhyw ad-drefniadau neu addasiadau i'r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol sy'n angenrheidiol am fod y Gorchymyn hwn yn dod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
E.Hart
Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Chymunedau
3 Rhagfyr 2002
YR ATODLEN
Erthygl 2


(1) (2) (3)
Enw'r Adran Etholiadol Ardal yr Adran Etholiadol Y Nifer o Gynghorwyr
Aberaeron Cymuned Aberaeron 1
Aber-porth Cymuned Aber-porth 1
Aberteifi/ Cardigan — Mwldan Ward Mwldan yng Nghymuned Aberteifi 1
Aberteifi/ Cardigan — Rhyd-y-fuwch Ward Rhyd-y-fuwch yng Nghymuned Aberteifi 1
Aberteifi/ Cardigan — Teifi Ward Teifi yng Nghymuned Aberteifi 1
Aberystwyth Bronglais Ward Ddwyreiniol Cymuned Aberystwyth 1
Aberystwyth Canol/Central Ward Ganalog Cymuned Aberystwyth 1
Aberystwyth Gogledd/North Ward Ogleddol Cymuned Aberystwyth 1
Aberystwyth Penparcau Ward Ddeheuol Cymuned Aberystwyth 2
Aberystwyth Rheidol Ward Glanyrafon Cymuned Aberystwyth 1
Beulah Cymuned Beulah 1
Capel Dewi Wardiau Capel Dewi Pont-siân a Thre-groes yng Nghymuned Llandysul 1
Ceinewydd Cymuned Ceinewydd 1
Ceulan-a-Maesmor Cymunedau Ceulan a Maesmor Llangynfelyn ac Ysgubor-y-coed 1
Ciliau Aeron Cymunedau Ciliau Aeron a Henfynyw 1
Faenor Cymuned Faenor 1
Llanbadarn Fawr -Padarn Ward Padarn yng Nghymuned Llanbadarn Fawr 1
Llanbadarn Fawr -Sulien Ward Sulien yng Nghymuned Llanbadarn Fawr 1
Llanbedr Pont Steffan Cymuned Llanbedr Pont Steffan 2
Llandyfrïog Cymuned Llandyfrïog 1
Llandysiliogogo Cymunedau Llandysiliogogo a Llanllwchaiarn 1
Llanfarian Cymuned Llanfarian 1
Llanfihangel Ystrad Cymuned Llanfihangel Ystrad a wardiau Nantcwnlle a Threfilan yng Nghymuned Nantcwnlle 1
Llangeitho Cymunedau Llanddewibrefi a Llangeitho 1
Llangybi Cymunedau Llanfair Clydogau a Llangybi a ward Gartheli yng Nghymuned Nantcwnlle 1
Llannarth Cymuned Llannarth 1
Llanrhystud Cymunedau Llangwyryfon a Llanrhystud 1
Llansanffraid Cymunedau Dyffryn Arth a Llansanffraid 1
Llanwenog Cymunedau Llanwenog a Llanwnnen 1
Lledrod Cymunedau Lledrod, Ysbyty Ystwyth, Ystrad Fflur ac Ystrad Meurig 1
Melindwr Cymunedau Blaenrheidol, Melindwr a Phontarfynach 1
Penbryn Cymunedau Llangrannog a Phenbryn 1
Pen-parc Cymunedau Llangoedmor a'r Ferwig 1
Tirymynach Cymuned Tirymynach 1
Trefeurig Cymuned Trefeurig 1
Tref Llandysul Ward Trefol yng Nghymuned Llandysul 1
Tregaron Cymuned Tregaron 1
Troed-yr-aur Cymuned Troed-yr-aur 1
Y Borth Cymunedau'r Borth a Genau'r Glyn 1
Ystwyth Cymunedau Llanilar a Thrawsgoed 1