
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Newidiadau Etholiadol) 2002.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym:
(a) at ddibenion achosion, sy'n rhagarweiniol i unrhyw etholiad neu'n ymwneud ag unrhyw etholiad sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2004, ar 9 Hydref 2003, a
(b) at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.
(3) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “adran etholiadol” (“electoral division”) yw un o adrannau etholiadol Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg a sefydlwyd gan Orchymyn Trefniadau Etholiadol Bro Morgannwg 1994;
 ystyr “y Ddeddf (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;
 ystyr “map” (“map”) yw'r map a farciwyd “map Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Newidadau Etholiadol) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau Newidadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976.
2 

(1) Mae adrannau etholiadol presennol Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Trefniadau Etholiadol Bro Morgannwg 1994 yn cael eu diddymu.
(2) At ddibenion ethol cynghorwyr ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, rhennir y Sir honno yn 23 o adrannau etholiadol yn dwyn yr enwau a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a bydd pob adran etholiadol o'r fath yn ffurfio'r ardal a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno, fel y'i dynodir ar y map ac fel y'i diffinnir â llinellau coch.
(3) Y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob adran etholiadol o'r fath fydd y nifer a bennir mewn perthynas â'r adran yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
3 
Bydd y swyddog cofrestru yn gwneud unrhyw ad-drefniadau neu addasiadau i'r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol sy'n angenrheidiol am fod y Gorchymyn hwn yn dod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
E. Hart
Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Chymunedau
6 Rhagfyr 2002
ATODLEN
Erthygl 2


(1) (2) (3)
Enw'r Adran Etholiadol Ardal yr Adran Etholiadol Y Nifer o Gynghorwyr
Baruc Ward Baruc Cymuned y Barri 2
Buttrills Ward Buttrills Cymuned y Barri 2
Cadog Ward Cadog Cymuned y Barri 3
Castleland Ward Castleland Cymuned y Barri 2
Cornerswell Ward Cornerswell Cymuned Penarth 2
Court Ward Court Cymuned y Barri 2
Y Bont-faen Cymunedau'r Bont-faen gyda Llanfleiddan, Llan-fair a Phen-llin 3
Dinas Powys Cymunedau Dinas Powys a Llanfihangel— ynys-Afan 4
Dyfan Ward Dyfan Cymuned y Barri 2
Gibbonsdown Ward Gibbonsdown Cymuned y Barri 2
Illtud Ward Illtud Cymuned y Barri 3
Llandoche Cymuned Llandoche 1
Llandŵ /Ewenni Cymunedau Tregolwyn, Ewenni, Llandw a Llan-gan 1
Llanilltud Fawr Cymunedau Llan-maes, Llanilltud Fawr a Sain Dunwyd 4
Llanbedr-y-fro Cymunedau Pendeulwyn, Llanbedr-y-fro, Sain Siorys a Llanddunwyd 1
Plymouth Ward Plymouth Cymuned Penarth 2
Y Rhws Cymunedau Llancarfan a'r Rhws 2
Sain Tathan Cymuned Sain Tathan 1
St Augustine's Ward St Augustine’s Cymuned Penarth 2
Saint-y-brid Cymunedau Saint-y-brid a'r Wig 1
Stanwell Ward Stanwell Cymuned Penarth 2
Sili Cymuned Sili 2
Gwenfô Cymunedau Sain Nicolas a Thresimwn a Gwenfô 1