
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Fynwy (Newidiadau Etholiadaol) 2002
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym:
(a) at ddibenion achosion sy'n arwain at unrhyw etholiad neu'n ymwneud ag unrhyw etholiad, sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2004, ar 9 Hydref 2003; ac
(b) at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “adran etholiadol” (“electoral division”) yw un o adrannau etholiadol Sir Fynwy fel y'i sefydlwyd gan Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Fynwy1994;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;
 ystyr “map” (“map”) yw'r map a farciwyd “map Gorchymyn Sir Fynwy (Newidadau Etholiadol) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau Newidadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976.
2 

(1) Mae adrannau etholiadol presennol Sir Fynwy a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Fynwy 1994 wedi'u diddymu.
(2) At ddibenion ethol cynghorwyr ar gyfer Sir Fynwy, rhennir y Sir honno yn 42 o adrannau etholiadol yn dwyn yr enwau a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a bydd pob adran etholiadol o'r fath yn ffurfio'r ardal a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno, fel y'i dynodir ar y map ac fel y'i diffinnir â llinellau coch.
(3) Y nifer a bennir mewn perthynas â'r adran yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn fydd y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob adran etholiadol o'r fath.
3 
Rhaid i'r swyddog cofrestru wneud unrhyw ad-drefniadau neu addasiadau i'r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol sy'n angenrheidiol am fod y Gorchymyn hwn yn dod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
E. Hart
Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Chymunedau
6 Rhagyfr 2002
YR ATODLEN
Erthygl 2


(1) (2) (3)
Enw'r Adran Etholiadol Ardal yr Adran Etholiadol Y Nifer o Gynghorwyr
Caer-went Cymuned Caer-went 1
Castell Caldicot Ward Castell Caldicot yng Nghymuned Caldicot 1
Cantref Ward Cantref yng Nghymuned y Fenni 1
Y Castell Ward Castell y Fenni 1
Croesonnen Wardiau Dwyrain Croesonnen a Gorllewin Croesonnen yng Nghymuned Llandeilo Bertholau 1
Crucornau Fawr Cymunedau Crucornau Fawr a'r Grysmwnt 1
Devauden Cymunedau Devauden a Llan-gwm 1
Llanddewi Ward Llanddewi yng Nghymuned Caldicot 1
Dixton gydag Osbaston Ward Dixton gydag Osbaston yng Nghymuned Trefynwy 1
Drybridge Ward Drybridge a ward y Dref yng Nghymuned Trefynwy 1
Goetre Fawr Cymuned Goetre Fawr 1
Green Lane Ward Green Lane yng Nghymuned Caldicot 1
Grofield Ward Grofield yng Nghymuned y Fenni 1
Lansdown Ward Lansdown Yng Nghymuned y Fenni 1
Larkfield Ward Larkfield yng Nghymuned Cas-gwent 1
Llanbadog Cymunedau Gwehelog Fawr a Llanbadog 1
Bryn Llanelli Cymuned Llanelli 2
Llan-ffwyst Fawr Wardiau Llanelen, Llan-ffwyst a Llanwenarth Citra yng Nghymuned Llan-ffwyst Fawr 1
Llangybi Fawr Cymunedau Llangybi, Llanhenwg a Llantrisaint Fawr 1
Llanofer Cymunedau Llan-arth a Llanofer 1
Llandeilo Gresynni Cymunedau Llangatwg Feibion Afel a Llandeilo Gresynni 1
Llanwenarth Tu Draw Ward Llanwenarth Tu Draw yng Nghymuned Llan-ffwyst Fawr 1
Y Maerdy Wardiau'r Maerdy, Pantygelli, Dwyrain Ysgyryd a Gorllewin Ysgyryd yng Nghymuned Llandeilo Bertholau 1
Mill Wardiau The Mill, Denny a Salisbury yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy 1
Llanfihangel Troddi Cymuned Llanfihangel Troddi 1
Overmonnow Ward Overmonnow yng Nghymuned Trefynwy 1
Porth Sgiwed Cymuned Porth Sgiwed 1
Y Priordy Ward y Priordy yng Nghymuned y Fenni 1
Rhaglan Cymuned Rhaglan 1
Rogiet Cymuned Rogiet 1
Hafren Ward Hafren yng Nghymuned Caldicot 1
Drenewydd Gelli-farch Cymunedau Matharn a Drenewydd Gelli-farch 1
St. Arvans Cymunedau St. Arvans a Thyndyrn 1
St. Christopher's Ward St. Christopher’s yng Nghymuned Cas-gwent 1
St. Kingsmark Ward St. Kingsmark yng Nghymuned Cas-gwent 1
St. Mary's Ward St. Mary’s yng Nghymuned Cas-gwent 1
The Elms Ward The Elms yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy 1
Thornwell Ward Thornwell yng Cymuned Cas-gwent 1
Tryleg Unedig Cymuned Tryleg Unedig 1
Brynbuga Cymuned Brynbuga 1
West End Ward West End yng Nghymuned Caldicot 1
Wyesham Ward Wyesham yng Cymuned Trefynwy 1