
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Gwynedd (Newidiadau Etholiadol) 2002.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym—
(a) at ddibenion achosion, sy'n arwain at unrhyw etholiad neu'n ymwneud ag unrhyw etholiad sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2004, ar 9 Hydref 2003, a
(b) at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “adran etholiadol” (“electoral division”) yw un o adrannau etholiadol Sir Gwynedd fel y'i sefydlwyd gan Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd 1994;
 ystyr “y Ddeddf (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;
2 

(1) Mae adrannau etholiadol presennol Sir Gwynedd a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Gwynedd 1994 wedi'u diddymu.
(2) At ddibenion ethol cynghorwyr ar gyfer Sir Gwynedd, rhennir y Sir honno yn 71 o adrannau etholiadol yn dwyn yr enwau a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a bydd pob adran etholiadol o'r fath yn ffurfio'r ardal a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honNo. 
(3) Y nifer a bennir mewn perthynas â'r adran yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn fydd y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob adran etholiadol o'r fath.
3 
Rhaid i'r swyddog cofrestru wneud unrhyw ad-drefniadau neu addasiadau i'r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol sy'n angenrheidiol am fod y Gorchymyn hwn yn dod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
E. Hart
Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Chymunedau
6 Rhagfyr 2002
YR ATODLEN
Erthygl 2


(1) (2) (3)
Enw'r Adran Etholiadol Ardal yr Adran Etholiadol Y Nifer o Gynghorwyr
Aberdaron Cymuned Aberdaron 1
Aberdyfi Cymunedau Aberdyfi a Phennal 1
Abererch Wardiau Abererch a'r Ffôr yng Nghymuned Llannor 1
Abermaw Cymuned Abermo 1
Aber-soch Ward Aber-soch Cymuned Llanengan 1
Arllechwedd Cymuned Aber a Llanllechid a ward Llandygái Cymuned Llandygái 1
Y Bala Cymuned y Bala 1
Bethel Ward Bethel Cymuned Llanddeiniolen 1
Y Bontnewydd Cymuned y Bontnewydd 1
Botwnnog Cymuned Botwnnog 1
Bowydd a'r Rhiw Wardiau Bowydd a'r Rhiw a ward Tanygrisiau Cymuned Ffestiniog 1
Brithdir a Llanfachreth/Y Ganllwyd/ Llanelltud Cymunedau Brithdir a Llanfachreth, Y Ganllwyd a Llanelltud 1
Bryn-crug/ Llanfihangel Cymunedau Bryn-crug a Llanfihangel-y-Pennant 1
Cadnant Ward y Dwyrain yng Nghymuned Caernarfon 1
Clynnog Cymuned Clynnog 1
Corris/Mawddwy Cymunedau Corris a Mawddwy 1
Criccieth Cymuned Criccieth 1
Cwm-y-glo Wardiau Ceunant a Chwm-y-glo Cymuned Llanrug 1
Deiniol Ward Deiniol Cymuned Bangor 1
Deiniolen Wardiau Clwt-y-bont, Deiniolen a Dinorwig Cymuned Llanddeiniolen 1
Dewi Ward Dewi Cymuned Bangor 1
Diffwys a Maenofferen Ward Diffwys a Maenofferen Cymuned Ffestiniog 1
Dolbenmaen Wardiau Bryncir, Y Garn, Golan, Penmorfa a Threflys Cymuned Dolbenmaen 1
Gogledd Dolgellau Ward Ogleddol a Ward Wledig Cymuned Dolgellau 1
De Dolgellau Ward Ddeheuol Cymuned Dolgellau 1
Dyffryn Ardudwy Cymuned Dyffryn Ardudwy 1
Efailnewydd/Buan Cymuned Buan a wardiau Efailnewydd a Phentre-uchaf Cymuned Llannor 1
Garth Ward Garth Cymuned Bangor 1
Gerlan Wardiau Gerlan a Rachub Cymuned Bethesda 1
Glyder Ward Glyder Cymuned Bangor 1
Y Groeslon Wardiau Dinas Dinlle a'r Groeslon yng Nghymuned Llandwrog 1
Harlech Cymunedau Harlech a Thalsarnau 1
Hendre Ward Hendre Cymuned Bangor 1
Hirael Ward Hirael Cymuned Bangor 1
Llanaelhaearn Cymunedau Llanaelhaearn a Phistyll 1
Llanbedr Cymunedau Llanbedr a Llanfair 1
Llanbedrog Cymuned Llanbedrog 1
Llanberis Cymuned Llanberis 1
Llandderfel Cymunedau Llandderfel a Llanycil 1
Llanengan Wardiau Llanengan a Llangïan Cymuned Llanengan 1
Llangelynnin Cymunedau Arthog, Llanegryn a Llangelynnin 1
Llanllyfni Wardiau Llanllyfni, Nantlle a Nebo Cymuned Llanllyfni 1
Llanrug Ward Llanrug Cymuned Llanrug 1
Llanuwchllyn Cymunedau Llanuwchllyn a Llangywer 1
Llanwnda Cymuned Llanwnda 1
Llanystumdwy Cymuned Llanystumdwy 1
Marchog Ward Marchog Cymuned Bangor 2
Menai (Bangor) Ward Menai Cymuned Bangor 2
Menai (Caernarfon) Ward y Gogledd yng Nghymuned Caernarfon 1
Morfa Nefyn Wardiau Edern a Morfa Nefyn yng Nghymuned Nefyn 1
Nefyn Ward Nefyn Cymuned Nefyn 1
Ogwen Ward Ogwen Cymuned Bethesda 1
Peblig (Caernarfon) Ward Ddeheuol Cymuned Caernarfon 1
Penisa'r-waun Wardiau Bryn'refail, Penisa'r-waun a Rhiw las Cymuned Llanddeiniolen 1
Penrhyndeudraeth Cymunedau Llanfrothen a Phenrhyndeudraeth 1
Pentir Cymuned Pentir 1
Pen-y-groes Ward Pen-y-groes Cymuned Llanllyfni 1
Dwyrain Porthmadog Ward y Dwyrain a Ward Ynys Galch yng Nghymuned Porthmadog 1
Gorllewin Porthmadog Ward y Gest, Ward Morfa Bychan a Ward y Gorllewin yng Nghymuned Porthmadog 1
Porthmadog-Tremadog Cymuned Beddgelert, ward Pren-teg Cymuned Dolbenmaen a ward Tremadog Cymuned Porthmadog 1
Gogledd Pwllheli Ward y Gogledd yng Nghymuned Pwllheli 1
De Pwllheli Ward y De yng Nghymuned Pwllheli 1
Seiont Ward y Gorllewin yng Nghymuned Caernarfon 2
Tal-y-sarn Wardiau Carmel a Chesarea Cymuned Llandwrog a ward Tal-y-sarn Cymuned Llanllyfni 1
Teigl Wardiau Congl-y-wal a Chynfal a Theigl Cymuned Ffestiniog 1
Trawsfynydd Cymunedau Maentwrog a Thrawsfynydd 1
Tre-garth a Mynydd Llandygái Wardiau St Ann’s a Thre-garth Cymuned Llandygái 1
Tudweiliog Cymuned Tudweiliog 1
Tywyn Cymuned Tywyn 2
Waunfawr Cymunedau Betws Garmon a Waunfawr 1
Y Felinheli Cymuned y Felinheli 1