
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Caerdydd a Bro Morganwg (Llanfihangel-ynys-Afan a Grangetown) 2002.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2003, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau, ond at ddibenion pob achos sy'n arwain at etholiad neu'n ymwneud ag etholiad sydd i'w gynnal ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff ei wneud.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 Ystyr “Bro Morgannwg” (“Vale of Glamorgan”) yw Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg;
 ystyr “Caerdydd” (“Cardiff”) yw Dinas a Sir Caerdydd;
 ystyr “y map ffiniau ” (“the boundary map”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map Gorchymyn Caerdydd a Bro Morganwg (Llanfihangel-ynys-Afan a Grangetown) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'i diwygiwyd).
3 
Bydd y rhan o Fro Morgannwg sydd yng Nghymuned Llanfihangel-ynys-Afan ac a ddangosir â llinellau du ar y map ffiniau yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno a bydd yn ffurfio rhan o gymuned Grangetown yng Nghaerdydd.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
E. Hart
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau
6 Rhagfyr 2002

