
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ceredigion a Sir Benfro (Llandudoch) 2002.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2003, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau, ond at ddibenion pob achos sy'n arwain at etholiad neu'n ymwneud ag etholiad sydd i'w gynnal ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff ei wneud.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Ceredigion” yw Sir Ceredigion.
 ystyr “map ffiniau A” (“boundary map A”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map A Gorchymyn Ceredigion a Sir Benfro (Llandudoch) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “map ffiniau B” (“boundary map B”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map B Gorchymyn Ceredigion a Sir Benfro (Llandudoch) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'i diwygiwyd);
 ystyr “Sir Benfro” (“Pembrokeshire”) yw Sir Benfro.
3 
Bydd y rhannau o Geredigion a farciwyd A ar fap ffiniau A ac a farciwyd B ar fap ffiniau B yn cael eu gwahanu oddi wrth y sir honno a byddant yn ffurfio rhan o Sir Benfro. Gan hynny bydd cymuned Llandudoch yn ffurfio rhan o Sir Benfro.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
E. Hart
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau
6 Rhagfyr 2002

