
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 2002 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Cofrestr” (“Register”) yw'r gofrestr o athrawon ac athrawesau y mae'n ofynnol i'r Cyngor ei sefydlu a'i chadw yn unol ag adran 3 o'r Ddeddf a Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000 ;
 mae “cyflogydd” (“employer”) mewn perthynas ag athro neu athrawes yn cynnwys person sy'n cymryd yr athro neu'r athrawes ymlaen neu sy'n gwneud trefniadau iddynt gael eu cymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau fel athro neu athrawes heblaw o dan gontract cyflogaeth, a dehonglir “cyflogi” a “cyflogaeth” yn unol â hynny;
 ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;
 ystyr “dyddiad hysbysu” (“notification date”) yw'r dyddiad sy'n cael ei hysbysu i gyflogydd gan y Cyngor fel y dyddiad y daw'r ffi'n daladwy;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
 ystyr “ffi” (“fee”) yw unrhyw ffi sy'n daladwy yn rhinwedd adran 4(4) o'r Ddeddf.
3 
Os gwenir cais am hynny, raid i gyflogydd hysbysu'r Cyngor ynglyn â'r manylion a bennir yn yr Atodlen am unrhyw athro neu athrawes a gyflogir gan y cyflogydd hwnnw ar ddyddiad a bennir gan y Cyngor ac y mae'n ofynnol, yn sgil eu cyflogaeth, iddynt gael eu cofrestru yn y Gofrestr yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 218(1)(aa) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.
4 

(1) Rhaid i gyflogydd athro neu athrawes y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddynt sicrhau bod y ffi yn cael ei didynnu o'r taliad cyflog a wneir i'r athro neu'r athrawes yn union ar ôl y dyddiad hysbysu.
(2) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i athro neu athrawes y mae'r cyflogydd wedi cael hysbysiad (“hysbysiad talu”) mewn perthynas â hwy oddi wrth y Cyngor ei bod yn ofynnol iddynt sicrhau bod y ffi'n cael ei didynnu o gyflog yr athro neu'r athrawes.
(3) Mae'n rhaid i hysbysiad talu nodi'r swm sydd i'w ddidynnu.
(4) Dim ond os yw'r Cyngor wedi'i fodloni bod yr athro neu'r athrawes y mae'r hysbysiad yn cael ei roi mewn perthynas â hwy ar y dyddiad hysbysu—
(a) wedi'u cofrestru ar y Gofrestr, neu
(b) ei bod yn ofynnol iddynt fod wedi'u cofrestru felly yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 218(1)(aa) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988,
a'u bod heb dalu'r ffi eisoes mewn perthynas â'r cyfnod y mae'r ffi y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn gymwys iddo y gellir rhoi hysbysiad talu i gyflogydd.
5 
O fewn 14 diwrnod ar ôl i'r ffi gael ei didynnu yn unol â rheoliad 4, rhaid i'r cyflogydd anfon y ffi honno i'r Cyngor.
6 
Wrth anfon y ffi rhaid i'r cyflogydd hysbysu'r Cyngor ynglyn â'r manylion a bennir yn yr Atodlen am yr athro neu'r athrawes yr anfonir y ffi mewn perthynas â hwy.
7 
Nid yw methiant gan unrhyw berson i gyflawni unrhyw ddyletswydd o fewn terfyn amser sydd wedi'i bennu yn y Rheoliadau hyn yn rhyddhau'r person hwnnw o'r ddyletswydd honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Chwefror 2002
ATODLEN
Rheoliadau 3 a 6
1 
Enw'r athro neu'r athrawes.
2 
Y rhif cofrestru swyddogol a roddwyd i'r athro neu'r athrawes, os oes un.
3 
Enw'r ysgol y cyflogir yr athro neu'r athrawes ynddi.
4 
Rhif yswiriant gwladol yr athro neu'r athrawes.
5 
Cyfeiriad cartref neu gyfeiriad cyswllt arall yr athro neu'r athrawes.
6 
Dyddiad geni'r athro neu'r athrawes.