
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002; maent yn gymwys i Gymru, a deuant i rym ar 24 Rhagfyr 2002.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998 fel y maent yn gymwys i Gymru yn unol â pharagraff (2) isod.
(2) Yn yr Atodlen, yn y golofn â'r pennawd “Instrument”, ar ôl “Commission Decision 2001/664/EC”, ychwanegir “Commission Decision 2002/903/EC”), ac yn y golofn â'r pennawd “Reference”, ar ôl “OJ No. L233, 31.8.01, p. 49”, ychwanegir “OJ No. L312, 15.11.02, p. 28”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Rhodri Morgan
Prif Weinidog Cynulliad Cenedlaethol Cymru
23 Rhagfyr 2002