
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “aer amgylchynol” (“ambient air”) yw aer y tu allan yn y troposffer, heb gynnwys gweithleoedd;
 ystyr “asesu” (“assessment”) yw unrhyw ddull a ddefnyddir i fesur, cyfrifo, darogan neu amcangyfrif lefel llygryn perthnasol yn yr aer amgylchynol;
 ystyr “crynhoad” (“agglomeration”) yw parth â chrynodiad poblogaeth o fwy na 250,000 o drigolion neu, os yw crynodiad y boblogaeth yn 250,000 o drigolion neu lai, dwysedd poblogaeth am bob km2 y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod yna gyfiawnhad dros yr angen i asesu neu reoli'r aer amgylchynol ar ei chyfer;
 ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “digwyddiadau naturiol” (“natural events”) yw echdoriadau llosgfynyddoedd, gweithgarwch seismig, gweithgarwch geothermol, tanau tir gwyllt, gwyntoedd cryfion neu ailddal neu gludo gronynnau naturiol o barthau sych yn yr atmosffer;
 mae i “gwerth terfyn” (“limit value”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4(1);
 ystyr “lefel” (“level”) yw crynodiad llygryn perthnasol yn yr aer amgylchynol;
 ystyr “llygrynnau perthnasol” (“relevant pollutants”) yw sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol, plwm, bensen, a charbon monocsid;
 ystyr “mesuriadau sefydlog” (“fixed measurements”) yw mesuriadau a gymerir ar safleoedd sefydlog naill ai'n ddi-dor neu drwy samplu ar hap, a nifer y mesuriadau yn ddigon mawr i ganiatáu darganfod y lefelau a welir;
 ystyr “ocsidau nitrogen” (“oxides of nitrogen”) yw swm yr ocsid nitrig a'r nitrogen deuocsid wedi'u hadio fel rhannau am bob biliwn ac wedi'i fynegi fel nitrogen deuocsid mewn microgramau i bob metr ciwbig;
 ystyr “PM2.5” yw mater gronynnol sy'n mynd drwy fewnfa dethol-maint ag ataliad effeithlonrwydd o 50% ar ddiamedr erodynamig o 2.5 mm;
 ystyr “PM10” yw mater gronynnol sy'n mynd drwy fewnfa dethol-maint ag ataliad effeithlonrwydd o 50% ar ddiamedr erodynamig o 10 mm;
 ystyr “parth” (“zone”) yw rhan o Gymru a ddangosir ar fap a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 3 Rhagfyr 2002, a adneuwyd yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Adran Diogelu'r Amgylchedd, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ;
 mae i “trothwy asesu isaf” (“lower assessment threshold”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6(5);
 mae i “trothwy asesu uchaf” (“upper assessment threshold”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6(5); ac
 mae i “trothwy rhybuddio” (“alert threshold”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9(2).
3 
At ddibenion Erthygl 3 (gweithredu a chyfrifoldebau) o Gyfarwyddeb y Cyngor 96/62/EC ar asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys yng Nghymru dros y canlynol—
(a) gweithredu'r Gyfarwyddeb honno;
(b) asesu ansawdd aer amgylchynol;
(c) cymeradwyo dyfeisiadau mesur (dulliau, cyfarpar, rhwydweithiau a labordai);
(ch) sicrhau cywirdeb mesur drwy ddyfeisiadau mesur a gwirio bod y dyfeisiadau hynny yn parhau'n gywir, yn benodol drwy reoli ansawdd yn fewnol a gyflawnir yn unol â safonau sicrwydd ansawdd cymwysadwy, gan gynnwys safonau Ewropeaidd;
(d) dadansoddi dulliau asesu; a
(dd) cydlynu rhaglenni sicrwydd ansawdd ledled y Gymuned Ewropeaidd yng Nghymru, ac eithrio i'r graddau y mae'r cydlynu hwnnw yn golygu cyfathrebu â'r Gymuned Ewropeaidd.
4 

(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd y mesurau sy'n angenrheidiol i sicrhau ym mhob parth ledled Cymru nad yw crynodiadau'r llygrynnau perthnasol yn yr aer amgylchynol, o'u hasesu yn unol â rheoliadau 5 i 8, yn uwch na'r gwerthoedd terfyn a nodir yn Atodlen 1—
(a) os pennir dyddiad yn yr Atodlen honno mewn perthynas â'r gwerth terfyn ar gyfer y llygryn hwnnw, o'r dyddiad hwnnw ymlaen;
(b) mewn unrhyw achos arall, o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
(2) Rhaid i'r mesurau a gymerir—
(a) cymryd i ystyriaeth ymagwedd integredig at ddiogelu aer, dŵr a phridd;
(b) peidio â thorri deddfwriaeth y Gymuned ar ddiogelu diogelwch ac iechyd gweithwyr wrth eu gwaith; ac
(c) peidio â dwyn unrhyw effeithiau negyddol arwyddocaol ar yr amgylchedd yn yr Aelod-wladwriaethau eraill.
5 
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod ansawdd yr aer amgylchynol yn cael ei hasesu ym mhob parth mewn perthynas â phob un o'r llygrynnau perthnasol yn unol â rheoliadau 6 i 8.
6 

(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddosbarthu pob parth mewn perthynas â phob un o'r llygrynnau perthnasol yn ôl a yw'n ofynnol asesu ansawdd yr aer amgylchynol yn y parth hwnnw ar gyfer y llygryn hwnnw—
(a) drwy fesuriadau;
(b) drwy gyfuniad o fesuriadau a thechnegau modelu; neu
(c) drwy ddefnyddio technegau modelu neu dechnegau amcangyfrif gwrthrychol yn unig.
(2) Rhaid i fesuriadau gael eu defnyddio i asesu ansawdd yr aer amgylchynol mewn perthynas â llygryn perthnasol mewn parth—
(a) os yw'r parth yn grynhoad;
(b) os yw lefelau'r llygryn yn y parth rhwng y gwerthoedd terfyn perthnasol a'r trothwyon asesu uchaf; neu
(c)  os yw lefelau'r llygryn hwnnw yn y parth yn uwch na gwerthoedd terfyn y llygryn hwnnw.
(3) Gellir defnyddio cyfuniad o fesuriadau a thechnegau modelu i asesu ansawdd yr aer amgylchynol mewn unrhyw barth mewn perthynas â llygryn perthnasol os yw lefelau'r llygryn hwnnw dros gyfnod cynrychioliadol yn is na'r trothwyon asesu uchaf perthnasol.
(4) Os yw lefelau llygryn perthnasol mewn unrhyw barth yn is na'r trothwyon asesu isaf perthnasol, caniateir defnyddio technegau modelu neu dechnegau amcangyfrif gwrthrychol yn unig i asesu lefelau'r llygryn hwnnw oni bai—
(a) mai crynhoad yw'r parth; a
(b) mai sylffwr deuocsid neu nitrogen deuocsid yw'r llygryn sy'n cael ei asesu.
(5) Rhaid penderfynu ar y trothwyon asesu uchaf ac isaf ar gyfer y llygrynnau perthnasol yn unol ag Atodlen 2.
(6) Os oes parth wedi'i ddosbarthu mewn perthynas â llygryn o dan baragraff (1)(a), gellir defnyddio technegau modelu i gydategu'r mesuriadau a gymerir er mwyn rhoi lefel ddigonol o wybodaeth am ansawdd yr aer amgylchynol mewn perthynas â llygryn perthnasol mewn parth.
(7) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol hefyd ddynodi parth a ddosbarthir o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â llygryn perthnasol fel a ganlyn:
(a) os sylffwr deuocsid yw'r llygryn perthnasol, gellir dynodi'r parth o dan y paragraff hwn os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn yn y parth oherwydd crynodiadau sylffwr deuocsid yn yr aer amgylchynol oherwydd ffynonellau naturiol;
(b) os PM10 yw'r llygryn perthnasol, gellir dynodi'r parth—
(i) o dan yr is-baragraff hwn os bydd crynodiadau o PM10 yn yr aer amgylchynol oherwydd digwyddiadau naturiol yn sylweddol uwch na'r lefelau cefndir arferol o ffynonellau naturiol;
(ii) o dan yr is-baragraff hwn os bydd crynodiadau o PM10 yn yr aer amgylchynol oherwydd ail?ddal gronynnau ar ôl i ffyrdd gael eu trin â thywod yn y gaeaf yn sylweddol uwch na'r lefelau cefndir arferol o ffynonellau naturiol.
7 

(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol adolygu dosbarthiad pob parth o dan reoliad 6 o leiaf unwaith bob pum mlynedd yn unol â Rhan II o Atodlen 2.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol adolygu dosbarthiad unrhyw barth o dan reoliad 6 hefyd os ceir newidiadau arwyddocaol mewn gweithgarwch sy'n effeithio ar grynodiadau amgylchynol unrhyw un o'r llygrynnau perthnasol yn y parth.
(3) Yn y rheoliad hwn, mae “dosbarthiad” yn cynnwys unrhyw ddynodiad o dan reoliad 6(7).
8 

(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod ansawdd yr aer amgylchynol yn cael ei hasesu ym mhob parth drwy ddilyn y dull penodedig ar gyfer pob llygryn perthnasol yn unol â'i ddosbarthiad cyfredol.
(2) Os oes parth wedi'i ddosbarthu o dan reoliad 6(1)(a) neu (b) mewn perthynas â llygryn perthnasol—
(a) rhaid i fesuriadau'r llygryn hwnnw gael eu cymryd ar safleoedd sefydlog naill ai'n ddi-dor neu drwy samplu ar hap; a
(b) rhaid i nifer y mesuriadau fod yn ddigon mawr i ganiatáu darganfod lefelau'r llygryn hwnnw yn gywir.
(3) Bydd Atodlen 3 yn effeithiol er mwyn penderfynu ar leoliad y pwyntiau samplu ar gyfer y llygrynnau perthnasol.
(4) Ar gyfer pob parth sydd wedi'i ddosbarthu o dan reoliad 6(1)(a), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau, mewn perthynas â llygryn perthnasol, fod isafswm nifer y pwyntiau samplu sefydlog y penderfynwyd arnynt yn unol ag Atodlen 4 yn cael ei ddefnyddio i samplu crynodiadau'r llygryn hwnnw yn y parth hwnnw.
(5) Ar gyfer pob parth sydd wedi'i ddosbarthu o dan reoliad 6(1)(b), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau, mewn perthynas â llygryn perthnasol, fod nifer y pwyntiau samplu sefydlog a ddefnyddir i samplu'r llygryn hwnnw yn y parth hwnnw, a dosbarthiad y technegau eraill o ran eu lleoliad, yn ddigon i ganfod crynodiadau'r llygryn hwnnw yn unol â Rhan I o Atodlen 3 a Rhan I o Atodlen 5.
(6) Nodir dulliau cyfeirio ar gyfer—
(a) dadansoddi sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocisdau nitrogen;
(b) samplu a dadansoddi plwm;
(c) samplu a mesur PM10;
(ch) samplu a dadansoddi bensen; a
(d) dadansoddi carbon monocsid
yn Atodlen 6, a rhaid i'r dulliau hyn gael eu defnyddio oni bai bod dulliau eraill yn cael eu defnyddio y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod modd dangos eu bod yn rhoi canlyniadau cyfwerth.
(7) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod gorsafoedd mesur i roi data cynrychioliadol ar grynodiadau PM2.5 wedi'u gosod ac yn cael eu gweithredu, gan ddefnyddio unrhyw ddull ar gyfer samplu a mesur PM2.5 y mae'n credu ei fod yn addas, a bod pwyntiau samplu PM2.5 yn cael eu cyd-leoli â phwyntiau samplu PM10 lle bynnag y bo modd.
(8) Ar gyfer parthau sydd wedi'u dosbarthu o dan reoliad 6(1)(b) neu (c), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr wybodaeth a nodir yn Rhan II o Atodlen 5 yn cael ei chrynhoi.
(9) Ar gyfer sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid, ocsidau nitrogen, bensen a charbon monocsid rhaid i'r cyfaint gael eu safoni ar dymheredd o 293°K a mesuriadau phwysedd o 101.3 kPa.
9 

(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio cynlluniau gweithredu sy'n nodi'r mesurau sydd i'w cymryd yn y tymor byr os ceir unrhyw risg o fynd yn uwch na'r gwerthoedd terfyn ar gyfer unrhyw un o'r llygrynnau perthnasol, neu'r trothwyon rhybuddio ar gyfer sylffwr deuocsid neu nitrogen deuocsid, er mwyn lleihau'r risg hwnnw ac i gyfyngu ar barhad digwyddiad o'r fath.
(2) Y trothwy sydd wedi'i nodi ym mharagraff 1.2 o Ran I o Atodlen 1 yw'r trothwy rhybuddio ar gyfer sylffwr deuocsid, a'r trothwy a nodir ym mharagraff 2.2 o Ran II o Atodlen 1 yw'r trothwy rhybuddio ar gyfer nitrogen deuocsid.
10 

(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestr o barthau lle mae lefelau un neu ragor o'r llygrynnau perthnasol yn uwch—
(a) na'r gwerth terfyn, mewn achos lle nad oes goddefiant yn cael ei ddangos yn Atodlen 1 mewn perthynas â gwerth terfyn;
(b) na'r gwerth terfyn plws y goddefiant a ddangosir yn Atodlen 1, mewn unrhyw achos arall.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestr o barthau lle mae lefelau un neu ragor o'r llygrynnau perthnasol rhwng y gwerth terfyn a'r gwerth terfyn plws unrhyw oddefiant.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (8), (10) a (11), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio, ar gyfer pob parth a restrir o dan baragraff (1), gynllun neu raglen ar gyfer cyrraedd y gwerthoedd terfyn ar gyfer y llygrynnau o dan sylw a rhaid iddo sicrhau y caiff y cynllun neu'r rhaglen eu gweithredu.
(4) Lle y pennir dyddiad yn Atodlen 1 ar gyfer cyrraedd y gwerth terfyn, mae'r cynllun neu'r rhaglen i fod i gyrraedd y gwerth terfyn hwnnw erbyn y dyddiad hwnnw.
(5) Lle nad oes dyddiad wedi'i bennu yn Atodlen 1 ar gyfer cyrraedd y gwerth terfyn, mae'r cynllun neu'r rhaglen i fod i gyrraedd y gwerth terfyn o'r dyddiad pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.
(6) Rhaid i'r cynllun neu'r rhaglen gynnwys o leiaf yr wybodaeth a restrir yn Atodlen 7.
(7) Os yw lefel mwy nag un llygryn yn uwch na'r gwerthoedd terfyn mewn unrhyw barth, rhaid paratoi cynllun integredig sy'n ymdrin â'r holl lygrynnau o dan sylw.
(8) Ar gyfer parthau y mae rheoliad 6(7)(a) yn gymwys iddynt, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddarparu na fydd angen cynlluniau neu raglenni o dan y rheoliad hwn ond os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn oherwydd allyriannau sydd wedi'u creu gan bobl.
(9) Rhaid i gynlluniau neu raglenni ar gyfer PM10 a baratoir yn unol â'r rheoliad hwn anelu hefyd at leihau crynodiadau PM2.5.
(10) Ar gyfer parthau y mae rheoliad 6(7)(b)(i) yn gymwys iddynt, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddarparu na fydd angen cynlluniau neu raglenni ond os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn oherwydd achosion heblaw digwyddiadau naturiol.
(11) Ar gyfer parthau y mae rheoliad 6(7)(b)(ii) yn gymwys iddynt, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddarparu na fydd angen cynlluniau neu raglenni ond os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn oherwydd lefelau PM10 heblaw'r rhai sy'n cael eu hachosi gan drin ffyrdd â thywod yn y gaeaf.
11 

(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestr o barthau lle mae lefelau'r llygrynnau perthnasol yn is na'r gwerthoedd terfyn.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod lefelau'r llygrynnau perthnasol yn y parthau hyn yn cael eu cadw yn is na'r gwerthoedd terfyn a rhaid iddo ymdrechu i gadw'r ansawdd aer amgylchynol orau sy'n gyson â datblygu cynaliadwy.
12 

(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf am grynodiadau amgylchynol pob un o'r llygrynnau perthnasol ar gael i'r cyhoedd fel rhan o'r drefn.
(2) Rhaid i'r wybodaeth am grynodiadau amgylchynol sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid a mater gronynnol gael ei diweddaru—
(a) yn achos gwerthoedd fesul-awr ar gyfer sylffwr deuocsid a nitrogen deuocsid, bob awr os yw hynny'n ymarferol;
(b) ym mhob achos arall, bob dydd o leiaf.
(3) Rhaid i'r wybodaeth am grynodiadau amgylchynol plwm cael ei diweddaru bob tri mis.
(4) Rhaid i'r wybodaeth am grynodiadau amgylchynol bensen, fel gwerth cyfartalog dros y 12 mis diwethaf, gael ei diweddaru—
(a) yn fisol os yw hynny'n ymarferol;
(b) ym mhob achos arall, bob tri mis o leiaf.
(5) Rhaid i'r wybodaeth am grynodiadau amgylchynol carbon monocsid, fel gwerth cyfartalog cyfredol dros wyth awr, gael ei diweddaru—
(a) bob awr os yw hynny'n ymarferol;
(b) ym mhob achos arall, bob dydd o leiaf.
(6) Rhaid i'r wybodaeth y trefnir ei bod ar gael o dan baragraff (1) gynnwys—
(a) nodyn i ddweud i ba raddau yr aed yn uwch na'r gwerthoedd terfyn a'r trothwyon rhybuddio ar gyfer llygrynnau penodol dros y cyfnodau cyfartaleddu a bennir yn Atodlen 1; a
(b) asesiad byr o'r enghreifftiau hynny lle'r aed yn uwch na'r gwerthoedd a'r trothwyon a'r effeithiau a gawsant ar iechyd.
(7) Pan eir yn uwch na throthwy rhybuddio, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd i roi gwybod i'r cyhoedd, a rhaid i'r wybodaeth y trefnir ei bod ar gael gynnwys o leiaf yr wybodaeth a bennir ym mharagraffau 1.3 o Ran I a 2.3 o Ran II o Atodlen 1.
(8) Rhaid i'r wybodaeth y mae'n rhaid trefnu ei bod ar gael i'r cyhoedd o dan y rheoliad hwn gynnwys y map o'r parthau y cyfeirir ato yn rheoliad 2, a chynlluniau gweithredu, cynlluniau a rhaglenni a baratoir o dan reoliadau 9 a 10 yn ôl eu trefn.
(9) At ddibenion y rheoliad hwn, mae'r cyhoedd yn cynnwys cyrff gofal iechyd a mudiadau sydd â diddordeb yn ansawdd yr aer amgylchynol a mudiadau sy'n cynrychioli buddiannau poblogaethau sensitif, defnyddwyr a'r amgylchedd, ond nid yw'n gyfyngedig i'r rhain.
(10) Rhaid i'r wybodaeth y trefnir ei bod ar gael o dan y rheoliad hwn fod yn glir, cynhwysfawr a hawdd ei chael.
13 

(1) Mae Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru)2001 drwy hyn yn cael eu diddymu.
(2) Mae Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer 1989, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn cael eu diddymu yn unol â'r is-baragraffau canlynol—
(a) diddymir rheoliad 2(1) (gwerthoedd terfyn ar gyfer sylffwr a gronynnau mewn daliant) a rheoliad 4(1) (gwerth terfyn ar gyfer plwm mewn aer) gydag effaith o 1 Ionawr 2005 ymlaen;
(b) diddymir rheoliad 6 (gwerth terfyn ar gyfer nitrogen deuocsid yn yr atmosffer) gydag effaith o 1 Ionawr 2010 ymlaen.
(3) Tan 1 Ionawr 2005, os caiff y dulliau a ragnodir gan y Rheoliadau hyn ar gyfer asesu mater gronynnol mewn daliant eu defnyddio er mwyn dangos cydymffurfedd ag Atodiad IV i Gyfarwyddeb 80/779/EEC dyddiedig 15 Gorffennaf 1980 ynghylch gwerthoedd terfyn ansawdd aer a gwerthoedd bras ar gyfer cyfanswm y gronynnau mewn daliant, rhaid i'r data a gesglir fel hyn gael ei luosi â ffactor o 1.2.
(4) Lle—
(a) yr oedd yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gam, neu yr oedd wedi'i awdurdodi i gymryd cam, drwy unrhyw ddarpariaeth o Reoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2001;
(b) yr oedd cam o'r fath wedi'i gymryd gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn i'r Rheoliadau hyn ddirymu'r Rheoliadau hynny; ac
(c) y mae'r ddarpariaeth dan sylw yn cael ei hailddeddfu gan y Rheoliadau hyn,
mae'r cam i'w drin, at ddibenion y Rheoliadau hyn, fel pe bai wedi'i gymryd o dan y Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad.
17 Rhagfyr 2002
ATODLEN 1
Rheoliadau 4(1), 9(2), 10(1) a (4), 12(6) a (7)
RHAN I
1.1 


 Cyfnod Cyfartaleddu Gwerth terfyn Goddefiant Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn

1 
Terfyn gwerth fesul-awr ar gyfer diogelu iechyd pobl 1 awr 350 μg/m3, y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 24 gwaith y flwyddyn galendr 60 μg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng ar 1 Ionawr bob blwyddyn wedyn yn ôl canrannau blynyddol cyfartal nes cyrraedd 0 μg/m3 erbyn 1 Ionawr 2005 1 Ionawr 2005

2 
Gwerth terfyn dyddiol ar gyfer diogelu iechyd pobl 24 awr 125 μg/m3, y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 3 gwaith y flwyddyn galendr Dim un 1 Ionawr 2005

3 
Gwerth terfyn ar gyfer diogelu ecosystemau Y flwyddyn galendr a'r gaeaf (1 Hydref i 31 Mawrth) 20 μg/m3 Dim un 
1.2 
500 μg/m3 wedi'i fesur dros dair awr o'r bron mewn mannau sy'n gynrychioliadol o ansawdd yr aer dros o leiaf 100 km2 neu barth neu grynhoad cyfan, p'un bynnag yw'r lleiaf.
1.3 
Dylai'r manylion y mae'n rhaid trefnu eu bod ar gael i'r cyhoedd gynnwys o leiaf :
— dyddiad, awr a lle y digwyddiad a'r rhesymau drosto, os ydynt yn hysbys;
— unrhyw ragolygon ar gyfer:
— newidiadau mewn crynodiad (gwella, sefydlogi, neu ddirywio), ynghyd â'r rhesymau dros y newidiadau hynny,
— yr ardal ddaearyddol o dan sylw,
— parhad y digwyddiad;
— y math o boblogaeth a allai fod yn sensitif i'r digwyddiad;
— rhagofalon sydd i'w cymryd gan y boblogaeth sensitif o dan sylw.
RHAN II
2.1 


 Cyfnod Cyfartaleddu Gwerth terfyn Goddefiant Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn

1 
Gwerth terfyn fesul-awr ar gyfer diogelu iechyd pobl 1 awr 200μg/m3 o NO2 y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 18 gwaith mewn blwyddyn galendr 70 μg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng ar 1 Ionawr bob blwyddyn wedyn yn ôl canran flynyddol gyfartal nes cyrraedd 0 μg/m3 erbyn 1 Ionawr 2010 1 Ionawr 2010

2 
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl Y flwyddyn galendr 40μg/m3 o NO2 14 μg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng ar 1 Ionawr bob blwyddyn wedyn yn ôl canran flynyddol gyfartal nes cyrraedd 0 μg/m3 erbyn 1 Ionawr 2010 1 Ionawr 2010

3 
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu llystyfiant Y flwyddyn galendr 30 μg/m3 o NOx Dim un 
2.2 
400 μg/m3 wedi'i fesur dros dair awr o'r bron mewn lleoliadau sy'n gynrychioliadol o ansawdd yr aer dros o leiaf 100 km2 neu barth neu grynhoad cyfan, p'un bynnag yw'r lleiaf.
2.3 
Dylai'r manylion y mae'n rhaid trefnu eu bod ar gael i'r cyhoedd gynnwys o leiaf:
— dyddiad, awr a lle y digwyddiad a'r rhesymau drosto, os ydynt yn hysbys;
— — unrhyw ragolygon ar gyfer:
— newidiadau mewn crynodiad (gwella, sefydlogi, neu ddirywio), ynghyd â'r rhesymau dros y newidiadau hynny,
— yr ardal ddaearyddol o dan sylw,
— parhad y digwyddiad;
— y math o boblogaeth a allai fod yn sensitif i'r digwyddiad;
— y rhagofalon sydd i'w cymryd gan y boblogaeth sensitif o dan sylw.
RHAN III

 Cyfnod Cyfartaleddu Gwerth terfyn Goddefiant Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn

1 
Gwerth terfyn 24-awr ar gyfer diogelu iechyd pobl 24 awr Rhaid peidio â mynd yn uwch na 50μg/m3 o PM10 fwy na 35 gwaith y flwyddyn galendr 10 μg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng ar 1 Ionawr bob blwyddyn wedyn yn ôl canrannau blynyddol cyfartal nes cyrraedd 0 μg/m3 erbyn 1 Ionawr 2005. 1 Ionawr 2005

2 
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl Blwyddyn galendr 40 μg/m3 o PM10 3.2 μg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng ar 1 Ionawr bob blwyddyn wedyn yn ôl canrannau blynyddol cyfartal nes cyrraedd 0 μg/m3 erbyn 1 Ionawr 2005. 1 Ionawr 2005
RHAN IV

 Cyfnod Cyfartaleddu Gwerth terfyn Goddefiant Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl Blwyddyn galendr 0.5 μg/m3 0.2 μg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng ar 1 Ionawr bob blwyddyn wedyn yn ôl canrannau blynyddol cyfartal nes cyrraedd 0 μg/m3 erbyn 1 Ionawr 2005. 1 Ionawr 2005
RHAN V

 Cyfnod Cyfartaleddu Gwerth terfyn Goddefiant Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl Blwyddyn galendr 5 μg/m3 5 μg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng ar 1 Ionawr 2006 a phob 12 mis wedyn gan 1 μg/m3 nes cyrraedd 0 μg/m3 erbyn 1 Ionawr 2010. 1 Ionawr 2010
RHAN V

 Cyfnod Cyfartaleddu Gwerth terfyn Goddefiant Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl Mwyafswm cymedr o 8-awr yn ddyddiol 10 mg/m3 4 mg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng pob 12 mis wedyn gan 2 mg/m3 nes cyrraedd 0 mg/m3 erbyn 1 Ionawr 2005. 1 Ionawr 2005
Detholir crynodiad mwyafswm cymedr o 8-awr yn ddyddiol drwy archwilio cyfartaleddau cyfredol 8-awr, wedi'u cyfrifo o ddata fesul awr a'u diweddaru bob awr. Priodolir pob 8-awr gyfartalog a gyfrifir felly i'r diwrnod pan ddaw i ben, h.y. y cyfnod cyfrifo cyntaf ar gyfer unrhyw ddiwrnod fydd y cyfnod o 17:00 ar y diwrnod blaenorol hyd at 01:00 ar y diwrnod hwnnw; y cyfnod cyfrifo olaf ar gyfer unrhyw ddiwrnod fydd y cyfnod o 16:00 hyd at 24:00 ar y diwrnod hwnnw.
ATODLEN 2
Rheoliadau 6(5) a 7(1)
RHAN I
Bydd y trothwyon asesu uchaf ac isaf canlynol yn gymwys:
(a) 

 Diogelu iechyd Diogelu ecosystemau
Trothwy asesu uchaf 60 % o'r gwerth terfyn 24-awr (75 μg/m3 , y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 3 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr) 60 % o werth terfyn y gaeaf (12 μg/m3 )
Trothwy asesu isaf 40 % o'r gwerth terfyn 24-awr (50 μg/m3 , y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 3 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr) 40 % o werth terfyn y gaeaf (8 μg/m3 )
(b) 

 Gwerth terfyn fesul-awr ar gyfer diogelu iechyd pobl (NO2) Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl(NO2) Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu llystyfiant(NOx)
Trothwy asesu uchaf 70 % o'r gwerth terfyn (140 μg/m3 , y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 18 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr) 80 % o'r gwerth terfyn (32 μg/m3 ) 80 % o'r gwerth terfyn (24 μg/m3 )
Trothwy asesu isaf 50 % o'r gwerth terfyn (100 μg/m3 , y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 18 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr) 65 % o'r gwerth terfyn (26 μg/m3 ) 65 % o'r gwerth terfyn (19.5 μg/m3 )
(c) 

 Cyfartaledd 24-awr Cyfartaledd blynyddol
Trothwy asesu uchaf 60 % o'r gwerth terfyn (30 μg/m3, y mae'n rhaid peidio mynd yn uwch nag ef fwy na saith gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr) 70 % o'r gwerth terfyn(14 μg/m3 )
Trothwy asesu isaf 40 % o'r gwerth terfyn (20 μg/m3 , y mae'n rhaid peidio mynd yn uwch nag ef fwy na saith gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr) 50 % o'r gwerth terfyn (10 μg/m3 )
(d) 

 Cyfartaledd blynyddol
Trothwy asesu uchaf 70 % o'r gwerth terfyn (0.35 μg/m3 )
Trothwy asesu isaf 50 % o'r gwerth terfyn (0.25 μg/m3 )
(e) 

 Cyfartaledd blynyddol
Trothwy asesu uchaf 70 % o'r gwerth terfyn (3.5 μg/m3 )
Trothwy asesu isaf 40 % o'r gwerth terfyn (2 μg/m3 )
(f) 

 Cyfartaledd wyth-awr
Trothwy asesu uchaf 70 % o'r gwerth terfyn (7 mg/m3 )
Trothwy asesu isaf 50 % o'r gwerth terfyn (5 mg/m3 )

RHAN II
Rhaid crynhoi gormodeddau sy'n uwch na'r trothwyon asesu uchaf ac isaf ar sail crynodiadau yn ystod y pum mlynedd blaenorol os oes data digonol ar gael. Bernir yr aed yn uwch na'r trothwy asesu os bu gormodedd yn ystod o leiaf tair blwyddyn wahanol allan o'r pum mlynedd flaenorol.

Os oes llai na phum mlynedd o ddata ar gael, gall ymgyrchoedd mesur byr eu parhad yn ystod y cyfnod hwnnw yn y flwyddyn ac yn y mannau sy'n debyg o fod yn nodweddiadol o'r lefelau llygredd uchaf gael eu cyfuno â chanlyniadau a geir o'r wybodaeth o restrau allyriannau a gwaith modelu er mwyn canfod gormodeddau sy'n uwch na'r trothwyon asesu uchaf ac isaf.

ATODLEN 3
Rheoliad 8(3) ac 8(5)
Caiff yr ystyriaethau canlynol eu cymhwyso at fesuriadau sefydlog.

RHAN I

(a) Dylai pwyntiau samplu a gyferir at ddiogelu iechyd pobl gael eu lleoli:
(i) i ddarparu data am yr ardaloedd mewn parthau a chrynoadau lle ceir y crynodiadau uchaf y mae'r boblogaeth yn debyg o gael ei datguddio iddynt yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol am gyfnod sy'n arwyddocaol mewn perthynas â chyfnod cyfartaleddu y gwerth(oedd) terfyn;
(ii) i ddarparu data am lefelau mewn ardaloedd eraill yn y parthau a'r crynoadau sy'n gynrychioliadol o ddatguddiad y boblogaeth gyffredinol.Yn gyffredinol dylai pwyntiau samplu gael eu lleoli i osgoi mesur micro-amgylcheddau bach iawn yn y cyffiniau. Fel canllaw, dylai pwynt samplu gael ei leoli i fod yn gynrychioliadol o ansawdd yr aer mewn ardal amgylchynol heb fod yn llai na 200 m2 ar safleoedd sy'n ymwneud â thraffig ac o sawl cilometr sgwâr ar safleoedd â chefndir trefol.
 Hefyd, os oes modd, dylai'r pwyntiau samplu fod yn gynrychioliadol o fannau tebyg nad ydynt yn eu cyffiniau.
 Dylid cymryd i ystyriaeth yr angen i leoli pwyntiau samplu ar ynysoedd, os oes angen gwneud hynny i ddiogelu iechyd pobl.
(b) Dylai pwyntiau samplu sydd wedi'u targedu ar ddiogelu ecosystemau neu lystyfiant gael eu lleoli fwy nag 20 km o grynoadau neu fwy na 5 km o fannau adeiledig eraill, sefydliadau diwydiannol neu draffyrdd. Fel canllaw, dylai pwynt samplu gael ei leoli i fod yn gynrychioliadol o ansawdd yr aer mewn ardal amgylchynol o 1000 km2 o leiaf. Gall pwynt samplu gael ei leoli yn llai pell i ffwrdd neu i fod yn gynrychioliadol o ansawdd aer mewn ardal lai estynedig, gan gymryd yr amodau daearyddol i ystyriaeth.Dylid cymryd i ystyriaeth yr angen i asesu ansawdd yr aer ar ynysoedd.

RHAN II
Dylid bodloni'r canllawiau canlynol cyn belled ag y bo'n ymarferol:
— dylai'r llif o amgylch profiedydd samplu y fewnfa fod yn ddigyfyngiad heb unrhyw rwystrau sy'n effeithio ar lif yr aer yng nghyffiniau'r samplwr (rai metrau i ffwrdd fel rheol o adeiladau, balconïau, coed, a rhwystrau eraill ac o leiaf 0.5m o'r adeilad agosaf yn achos pwyntiau samplu sy'n cynrychioli ansawdd yr aer ar linell yr adeiladau);
— yn gyffredinol, dylai pwynt samplu'r fewnfa fod rhwng 1.5 m (y parth anadlu) a 4 m uwchlaw'r ddaear. Gall fod angen safleoedd uwch (hyd at 8 m) o dan rai amgylchiadau. Gall safle uwch fod yn briodol hefyd os yw'r orsaf yn cynrychioli ardal fawr;
— ni ddylai profiedydd y fewnfa gael ei leoli yng nghyffiniau ffynonellau er mwyn osgoi mewnlifiad uniongyrchol o allyriannau sydd heb eu cymysgu â'r aer amgylchynol;
— dylai allfa wacáu y samplwr gael ei lleoli er mwyn osgoi ailgylchu'r aer o'r allfa i fewnfa'r samplwr;
— lleoli samplwr sy'n anelu at draffig:
— ar gyfer pob llygryn, dylai'r pwyntiau samplu hyn fod o leiaf 25 m o ymyl cyffyrdd pwysig ac o leiaf 4 m o ganol y lôn draffig agosaf,
— ar gyfer nitrogen deuocsid a carbon monocsid ni ddylai'r mewnfeydd fod yn fwy na 5 m o ymyl y cwrbyn,
— ar gyfer mater gronynnol beulsen a phlwm, dylid lleoli'r mewnfeydd i fod yn gynrychioliadol o ansawdd yr aer yn ymyl llinell yr adeiladau.

Gall y ffactorau canlynol gael eu cymryd i ystyriaeth hefyd:
— ffynonellau sy'n ymyrryd;
— diogelwch;
— hygyrchedd;
— a oes pŵer trydan a chysylltiadau ffôn ar gael;
— gwelededd y safle mewn perthynas â'i amgylchoedd;
— diogelwch y cyhoedd a'r gweithredwyr;
— a yw'n ddymunol cyd-leoli pwyntiau samplu gwahanol lygrynnau;
— gofynion cynllunio.

RHAN III
Dylai'r gweithdrefnau ar gyfer dewis safleoedd gael eu dogfennu'n llawn adeg y dosbarthu drwy gyfrwng megis ffotograffau pwynt-cwmpawd o'r ardal amgylchynol a map manwl. Dylid adolygu'r safleoedd yn rheolaidd, gan ailadrodd y gwaith dogfennu, i sicrhau bod y meini prawf dewis yn aros yn ddilys dros amser.

ATODLEN 4
Rheoliad 8(4)
RHAN I

(a) 

Poblogaeth y crynhoad neu'r parth (miloedd) Os yw'r crynodiadau yn uwch na'r trothwy asesu uchaf Os yw'r crynodiadau uchaf rhwng y trothwy asesu uchaf a'r trothwy asesu isaf Ar gyfer SO2 ac NO2 mewn crynoadau lle mae'r crynodiadau uchaf islaw'r trothwyon asesu isaf
0—250 1 1 ddim yn gymwys
250—499 2 1 1
500—749 2 1 1
750—999 3 1 1
1 000—1 499 4 2 1
1 500—1 999 5 2 1
2 000—2 749 6 3 2
2 750—3 749 7 3 2
3 750—4 749 8 4 2
4 750— 5 999 9 4 2
> 6 000 10 5 3
 Ar gyfer NO2 a mater gronynnol: i gynnwys o leiaf un orsaf â chefndir trefol ac un orsaf sy'n cyfeirio at draffig — bydd y gofyniad hwn yn gymwys i bensen a charbon monocsid ar yr amod nad yw'n cynyddu nifer y pwyntiau samplu.  
(b) I asesu llygredd yng nghyffiniau ffynonellau pwynt, dylid cyfrifo nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog gan gymryd i ystyriaeth ddwyseddau allyriannau, patrymau dosbarthiad tebygol y llygredd yn yr aer amgylchynol a datguddiad posibl y boblogaeth.

RHAN II

Os yw'r crynodiadau uchaf yn uwch na'r trothwy asesu uchaf Os yw'r crynodiadau uchaf rhwng y trothwy asesu uchaf a'r trothwy asesu isaf
1 orsaf i bob 20,000 km2 1 orsaf i bob 40,000 km2
Mewn parthau ar ynysoedd, dylid cyfrifo nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog gan gymryd i ystyriaeth batrymau dosbarthiad tebygol y llygredd yn yr aer amgylchynol a datguddiad posibl yr ecosystemau neu'r llystyfiant.
ATODLEN 5
Rheoliad 8(5) a (8)
RHAN 1
Mae'r amcanion ansawdd-data canlynol ar gyfer y cywirdeb y mae ei angen ar gyfer dulliau asesu, yr isafsymiau amser a'r gwaith cofnodi data yn sgil mesur yn cael eu nodi er mwyn arwain rhaglenni sicrwydd ansawdd.

 Sylffwr deuocsid (SO2), nitrogen deuocsid (NO2) ac ocsidau nitrogen (NOx) Mater gronynnol (PM10) a phlwm (Pb)
Mesur di-dor
Cywirdeb 15 % 25 %
Isafswm ar gyfer cofnodi data 90 % 90 %
Mesur dangosol
Cywirdeb 25 % 50 %
Isafswm ar gyfer cofnodi data 90 % 90 %
Isafswm amser 14 % (Un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn, neu wyth wythnos wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn.) 14 % (Un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn, neu wyth wythnos wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn.)
Modelu
Cywirdeb:  
Cyfartaleddau fesul-awr 50 %—60 % 
Cyfartaleddau dyddiol 50 % 
Cyfartaleddau blynyddol 30 % 50 %
Amcangyfrif gwrthrychol
Cywirdeb: 75 % 100 %
Diffinnir cywirdeb y gwaith mesur fel y mae wedi'i nodi yn y “Guide to the Expression of Uncertainty of Measurements” (ISO 1993) neu ISO 5725-1 “Accuracy (trueness and precision) of measurement methods and results” (ISO 1994). Mae'r canrannau yn y tabl yn cael eu rhoi ar gyfer mesuriadau unigol wedi'u cyfartaleddu, dros y cyfnod a ystyrir, gan y gwerth terfyn, i gael cyfwng hyder o 95% (bias + dwy waith y gwyriad safonol). Dylai'r cywirdeb ar gyfer mesuriadau di-dor gael ei ddehongli fel pe bai'n gymwysadwy yng nghyffiniau'r gwerth terfyn priodol.Mae'r cywirdeb ar gyfer modelu ac amcangyfrif gwrthrychol wedi'i ddiffinio fel yr uchafswm amrywiadau ar y lefelau crynodiadau a gyfrifir ac a fesurir, dros y cyfnod a ystyrir gan y gwerth terfyn, heb gymryd amseriad y digwyddiadau i ystyriaeth.Nid yw'r gofynion ar gyfer isafsymiau cofnodi data ac isafsymiau amser yn cynnwys colli data wrth i'r offer gael eu calibradu neu eu cynnal-a-chadw fel rhan o'r drefn.Gall y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu gwneud mesuriadau ar hap yn lle mesuriadau di-dor ar gyfer mater gronynnol a phlwm drwy ddulliau y dangoswyd bod eu cywirdeb o fewn y cyfwng hyder 95% mewn perthynas â monitro di-dor wedi bod o fewn 10%. Rhaid i samplu ar hap gael ei gynnal yn gyson dros y flwyddyn.

Mae'r amcanion ansawdd-data canlynol ar gyfer yr ansicrwydd a ganiateir ar gyfer dulliau asesu, yr isafsymiau amser a'r gwaith cofnodi data yn sgil mesur yn cael eu nodi er mwyn arwain rhaglenni sicrwydd ansawdd.

 Bensen (C6H6) Carbon monocsid (CO)
Mesuriadau sefydlog
Ansicrwydd 25 % 15 %
Isafswm ar gyfer cofnodi data 90 % 90 %
Isafswm amser 35% cefndir trefol a safleoedd traffig (a ddosbarthwyd dros y flwyddyn i gynrychioli amgylchia dau amrywiol mewn tywydd a thraffig) 90% safleodd diwydiannol 
Mesuriadau dangosol
Ansicrwydd 30 % 25 %
Isafswm ar gyfer cofnodi data 90 % 90 %
Isafswm amser 14 % (Un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn, neu wyth wythnos wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn.) 14 % (Un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn, neu wyth wythnos wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn.)
Modelu
Ansicrwydd:  
Cyfartaleddau wyth-awr — 50%
Cyfartaleddau blynyddol 50 % —
Amcangyfrif gwrthrychol
Ansicrwydd: 100 % 75 %
Caiff ansicrwydd (mewn cyfwng hyder o 95%) y dulliau asesu eu gwerthuso yn unol â'r “Guide to the Expression of Uncertainty of Measurements” (ISO 1993) neu fethodoleg ISO 5725:1994. Mae'r canrannau ar gyfer ansicrwydd yn y tabl uchod yn cael eu rhoi ar gyfer mesuriadau unigol wedi'u cyfartaleddu dros y cyfnod a ystyrir gan y gwerth terfyn, i gael cyfwng hyder o 95%. Dylai'r ansicrwydd ar gyfer y mesuriadau sefydlog gael ei ddehongli fel pe bai'n gymwysadwy yng nghyffiniau'r gwerth terfyn priodol.Mae'r ansicrwydd ar gyfer modelu ac amcangyfrif gwrthrychol wedi'i ddiffinio fel yr uchafswm amrywiadau ar y lefelau crynodiadau a gyfrifir ac a fesurir, dros y cyfnod a ystyrir, gan y gwerth terfyn, heb gymryd amseriad y digwyddiadau i ystyriaeth.Nid yw'r gofynion ar gyfer isafsymiau cofnodi data ac isafsymiau amser yn cynnwys colli data wrth i'r offer gael eu calibradu neu eu cynnal-a-chadw fel rhan o'r drefn.Gall y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu gwneud mesuriadau ar hap yn lle mesuriadau di-dor ar gyfer bensen os yw'r ansicrwydd, gan gynnwys yr ansicrwydd oherwydd samplu ar hap, yn cyrraedd yr amcan ansawdd o 25%. Rhaid i samplu ar hap gael ei gynnal yn gyson dros y flwyddyn.

RHAN II
Dylai'r wybodaeth ganlynol gael ei llunio ar gyfer parthau neu grynoadau y defnyddir ffynonellau heblaw mesuriadau ynddynt i gydategu'r wybodaeth o fesuriadau neu fel yr unig ddull o asesu ansawdd yr aer:
— disgrifiad o'r gweithgareddau asesu a wnaed;
— y dulliau penodol a ddefnyddiwyd, gan gyfeirio at ddisgrifiadau o'r dull;
— y ffynonellau data a gwybodaeth;
— disgrifiad o'r canlyniadau, gan gynnwys y cywirdebau ac, yn benodol, hyd a lled unrhyw ardal neu, os yw'n berthnasol, hyd y ffordd yn y parth neu'r crynhoad lle mae'r crynodiadau'n uwch na'r gwerth(oedd) terfyn neu, yn ôl fel y digwydd, y gwerth(oedd) terfyn plws goddefiant/goddefiannau cymwysadwy a hyd a lled unrhyw ardal lle mae'r crynodiadau'n uwch na'r trothwy asesu uchaf neu'r trothwy asesu isaf;
— ar gyfer gwerthoedd terfyn sy'n anelu at ddiogelu iechyd pobl, y boblogaeth a allai gael ei datguddio i grynodiadau sydd yn uwch na'r gwerth terfyn.

Os oes modd rhaid llunio mapiau sy'n dangos dosbarthiadau'r crynodiadau ym mhob parth a chrynhoad.

ATODLEN 6
Rheoliad 8(6)
RHAN I
ISO/FDIS 10498 (Safon ar ffurf drafft) Ambient air — determination of sulphur dioxide — ultraviolet fluorescence method.

RHAN II
ISO 7996: 1985 Ambient air — determination of the mass concentrations of nitrogen oxides — chemiluminescence method.

RHAN IIIA
Y dull cyfeirio ar gyfer samplu plwm fydd y dull a ddisgrifir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 82/884/EEC nes yr amser pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn, pryd y bydd y dull cyfeirio yr un fath ag ar gyfer PM10 sydd wedi'i nodi yn Rhan IV o'r Atodlen hon.

RHAN IIIB
ISO 9855: 1993 Ambient air — Determination of the particulate lead content of aerosols collected in filters. Atomic absorption spectroscopy method.

RHAN IV
Y dull cyfeirio ar gyfer samplu a mesur PM10 fydd y dull a ddisgrifir yn EN 12341 “Air Quality — Field Test Procedure to Demonstrate Reference Equivalence of Sampling Methods for the PM10 fraction of particulate matter”. Mae'r egwyddor fesur wedi'i seilio ar gasglu'r gyfran PM10 o fater gronynnol amgylchynol ar hidlwr a darganfod y màs grafimetrig.

RHAN V
Y dull cyfeirio ar gyfer samplu bensen fydd samplu pwmpio ar getrisen sorbent a ddilynir gan benderfyniad cromatograffig nwy.

RHAN VI
Y dull cyfeirio ar gyfer mesur bensen fydd dull wedi'i seilio ar y dull sbectrometrig anwasgarol is-goch (NDIR).

ATODLEN 7
Rheoliad 10(6)
1 

— rhanbarth
— dinas (map)
— gorsaf fesur (map, cyfesurynnau daearyddol).
2 

 y math o barth (dinas, ardal ddiwydiannol neu wledig)
 amcangyfrif o'r ardal lygredig (km2) ac o'r poblogaethau sydd wedi'u datguddio i'r llygredd
 data defnyddiol am yr hinsawdd
 data perthnasol am y dopograffeg
 digon o wybodaeth am y math o dargedau y mae angen eu diogelu yn y parth.
3 
Enwau a chyfeiriadau'r personau sy'n gyfrifol am ddatblygu cynlluniau gwella a'u rhoi ar waith.
4 

— y crynodiadau a welwyd dros y blynyddoedd blaenorol (cyn gweithredu'r mesurau gwella)
— y crynodiadau a fesurwyd ers dechrau'r project
— y technegau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr asesu.
5 

— rhestr o'r prif ffynonellau allyrru sy'n gyfrifol am y llygredd (map)
— cyfanswm yr allyriannau o'r ffynonellau hyn (tunelli y flwyddyn)
— gwybodaeth am lygredd sydd wedi'i fewnforio o ranbarthau eraill.
6 

— manylion y ffactorau hynny sy'n gyfrifol am y gormodedd (trafnidiaeth, gan gynnwys trafnidiaeth ar draws ffiniau, ei ffurfiant)
— manylion y mesurau posibl ar gyfer gwella ansawdd yr aer.
7 

— mesurau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol, rhyngwladol
— yr effeithiau a welwyd yn sgil y mesurau hynny.
8 

— rhestr a disgrifiad o'r holl fesurau a nodwyd yn y project
— amserlen ar gyfer gweithredu
— amcangyfrif o'r gwelliant y bwriedir ei gael yn ansawdd yr aer ac o'r amser y disgwylir y bydd ei angen i gyrraedd yr amcanion hynny.
9 

10 
