
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2002 ac maent yn dod i rym ar 1 Ionawr 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2 
Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) 1992 amnewidir am y ffigur “£15.50” yno y ffigur “£20”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Rhagfyr 2002