
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) (Cymru) 2002 a byddant yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2 

(1) Diwygir Atodlen 1 i Reoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2001 fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 3(a)—
(a) yn lle “85” rhoddir “95”; a
(b) ar ôl “rhwymwr triagl ac asid ffosfforig” mewnosodir “neu rwymwr organig”.
(3) Ym mharagraff 5(a), dileir “a lleithder (sef gweddill y pwysau)”.
(4) Ar ôl paragraff 10, mewnosodir—
“10A 
Brics glo Dragonglow, a weithgynhyrchir gan Tower Colliery Limited yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf—
(a) sy'n cynnwys llwch y tŵr (sef rhyw 95 y cant o gyfanswm y pwysau) a rhwymwr wedi ei seilio ar resin (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;
(c) sydd yn frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd ac sy'n pwyso 100 gram ar gyfartaledd; ac
(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1 y cant o sylffwr o gyfanswm y pwysau.
10B 
Brics glo Dragonbrite, a weithgynhyrchir gan Tower Colliery Limited yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf—
(a) sy'n cynnwys llwch y tŵr (sef rhyw 95 y cant o gyfanswm y pwysau) a rhwymwr wedi ei seilio ar resin (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;
(c) sydd yn frics glo ar siâp gobennydd, wedi eu marcio â'r llythyren “T” ar un ochr ac sy'n pwyso 50 gram ar gyfartaledd; ac
(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1 y cant o sylffwr o gyfanswm y pwysau.
(5) Ym mharagraffau 14, 27, 28 a 30, yn lle “Shildon, County Durham” rhoddir “Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln”.
(6) Ym mharagraff 14(a) a 28(a) ar ôl “rhwymwr organig”, ac ym mharagraff 27(a) ar ôl “rhwymwr organig sy'n caledu pan fo'n oer”, mewnosodir “neu rwymwr triagl ac asid ffosfforig”.
3 
Er gwaethaf y diwygiadau a wnaed gan reoliad 2(5) uchod, tanwyddau awdurdodedig o hyd fydd brics glo Homefire, brics glo Supertherm, brics glo Supertherm II a brics glo Thermac a weithgynhyrchwyd gan Coal Products Limited yn Shildon, County Durham cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Rhagfyr 2002