
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gronfa Ddata Gwartheg (Diwygio) (Cymru) 2002; maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 11 Chwefror 2002.
2 
I'r graddau y bônt yn gymwys i Gymru, mae Rheoliadau'r Gronfa Ddata Gwartheg 1998 yn cael eu diwygio drwy osod y rhif “3” yn lle'r rhif “7” yn rheoliad 7(e).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Carwyn Jones
Ysgrifennydd Cynulliad
8 Chwefror 2002