
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Partneriaethau Ansawdd (Cyfleusterau sy'n Bodoli Eisioes) (Cymru) 2002 ac maent yn dod i rym ar 20 Rhagfyr 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “cyfathrebu electronig” (“electronic communication”) yr ystyr a roddir i “electronic communication” gan adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000;
 ystyr “cynllun” (“scheme”) yw cynllun partneriaeth ansawdd; ac
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Trafnidiaeth 2000.
3 

(1) Ni all cyfleuster sy'n bodoli eisioes gael ei bennu mewn cynllun os cafodd y cyfleuster hwnnw ei ddarparu'n gyntaf mwy na deng mlynedd cyn y dyddiad pryd y rhoddwyd hysbysiad o dan adran 115(1) o'r Ddeddf.
(2) Ni all cyfleuster sy'n bodoli eisioes a gafodd ei ddarparu mwy na phum mlynedd cyn y dyddiad pryd y rhoddwyd hysbysiad o dan adran 115(1) o'r Ddeddf gael ei bennu mewn cynllun os cafwyd gwrthwynebiad i'w bennu gan unrhyw berson a oedd, ar y dyddiad hwnnw, yn dibynnu ar y cyfleuster hwnnw wrth ddarparu gwasanaeth lleol, ac nid yw'r gwrthwynebiad hwnnw wedi ei dynnu nôl.
4 

(1) Rhaid i unrhyw wrthwynebiad at ddibenion rheoliad 3(2) fod yn ysgrifenedig neu drwy gyfathrebu electronig ac mae'n rhaid iddo gael ei gyflwyno, cyn pen y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad a roddwyd o dan adran 115(1)—
(a) i'r awdurdod trafnidiaeth lleol a roddodd yr hysbysiad o dan adran 115(1), neu
(b) lle bo dau neu fwy o awdurdodau yn bwriadu gwneud y cynllun, naill ai i'r awdurdod a bennir yn yr hysbysiad at y diben hwnnw neu (os na chafodd unrhyw awdurdod ei bennu felly) i unrhyw un ohonynt.
(2) Gellir tynnu'n ôl unrhyw wrthwynebiad a wnaed at ddibenion rheoliad 3(2) trwy hysbysiad ysgrifenedig neu drwy gyfathrebu electronig sy'n cael ei gyflwyno i'r awdurdod y cyflwynwyd y gwrthwynebiad iddo.
(3) Rhaid i gynllun y mae rheoliad 3(2) yn berthnasol iddo ddatgan, pan wneir ef, na chafwyd gwrthwynebiad at ddibenion y paragraff hwnnw ac sydd heb ei dynnu'n ôl.
5 
Mae adran 115 o'r Ddeddf yn gymwys, mewn perthynas â chynlluniau arfaethedig sy'n pennu cyfleusterau sy'n bodoli eisioes, fel petai'r canlynol wedi'i fewnosod ar ôl is-adran (4)—“
(5) Where the proposed scheme specifies one or more existing facilities, the authority shall, in the notice given under subsection (1)—
(a) state when they believe that each such facility was first provided and where two or more authorities propose to make the scheme the authority in whose area an existing facility is situated shall be responsible for making that statement, and
(b) specify the date by which an objection to the specifying of an existing facility must be made, such date to be not less than 42 days from the date on which the notice is published.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Rhagfyr 2002