
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn Gorchymyn Deddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 1, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2002.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 1967” (“the 1967 Act”) yw Deddf Diwygio Lesddaliad 1967;
 ystyr “Deddf 1993” (“the 1993 Act”) yw Deddf Diwygio Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993;
 ystyr “y dyddiad cychwyn” (“the commencement date”) yw 1 Ionawr 2003; ac
 mae cyfeiriadau at adrannau ac atodlenni, oni nodir yn wahanol, yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 ac at Atodlenni iddi.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Bydd y darpariaethau canlynol yn Neddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 dod i rym ar y dyddiad cychwyn—
(a) adrannau 114, 129, 132, 133, 137 a 142;
(b) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol ac arbedion yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn—
(i) adrannau 115 i 120, 125, 127, 128, 130, 131, 134 i 136, 138 i 141, 143 i 147, 160 i 162; a
(ii) adran 180 i'r graddau y mae'n berthnasol i'r diddymiadau hynny yn Atodlen 14 a nodir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn;
(c) adrannau 74, 78, 80, 84, 92, 110, 122, 151 to 153, 156, 164, 166, 167, 171, 174 ac Atodlen 12, i'r graddau y maent yn rhoi pŵer i wneud rheoliadau.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Rhagfyr 2002
ATODLEN 1
Erthygl 2(b)(ii)
RHAN 1

Pennod Teitl Byr Cwmpas y Diddymiad
1993 p.28 Deddf Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 Yn adran 5—
 yn is-adran (1), y geiriau “which is at a low rent or for a particularly long term”, ac yn is-adran (2)(c), y geiriau “at a low rent for a particularly long term”.Adran 6.Yn adran 7(3), y geiriau “at a low rent”.Adran 8.Adran 8A.Yn adran 10—
 is-adrannau (2), (3) a (4A), a yn is-adran (6), y diffiniad o “qualifying tenant”.Yn adran 13—
 yn is-adran (2), is-baragraff (i) o baragraff (b) a'r geiriau sy'n dilyn y paragraff hwnnw, ac yn is-adran (3)(e), y geiriau “the following particulars”, y gair “namely” ac is-baragraffau (ii) a (iii).
1996 p.52 Deddf Tai 1996 Adran 105(3).Adran 111.Yn Atodlen 9, paragraff 3 ac is-baragraffau 5(2) a (3).Yn Atodlen 10, paragraff 4.
RHAN 2

Pennod Teitl Byr Cwmpas y Diddymiad
1993 p.28 Deddf Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 Yn adran 39—
 yn is-adran (2), paragraff (b) a'r gair “and” o'i flaen, is-adrannau (2A) a (2B), is-adran nau (3)(c) a (d), ac is-adrannau (4A) a (5).Adran 42(3)(b)(iii) a (iv) a (4).Yn adran 45(5), y geiriau “and (b)”.Adran 62(4).yn adran 94—
 yn is-adrannau (3) a (4), y geiriau “which is at a low rent or for a particularly long term”, yn is-adran (12), y geiriau “which is at a low rent or for a particularly long term” a'r geiriau “, 8 and 8A”.Yn Atodlen 13, ym mharagraff 1, y diffiniad o “the valuation date”.
1996 p.52 Deddf Tai 1996 Adran 112.Yn Atodlen 9, paragraff 4.
RHAN 3

Pennod Teitl Byr Cwmpas y Diddymiad
1967 p.88 Deddf Diwygio Lesddaliad 1967 Yn adran 1—
 yn is-adran (1), y geiriau “, occupying the house as his residence,” a'r geiriau “, and occupying as his residence,”, is-adran (2), a yn is-adran (3)(a) y geiriau “and occupied by”.yn adran 1AA—
 yn is-adran (1)(b), y geiriau “falls within subsection (2) below and”, ac is-adrannau (2) a (4).Yn adran 2—
 yn is-adran (3), y geiriau “and occupied by” a'r geiriau o “and are occupied” hyd at y diwedd, ac yn is-adran (4) y geiriau “or a subletting”.Yn adran 3(3) y geiriau “, except section 1AA,”.Yn adran 6—
 yn is-adran (2), y geiriau “in respect of his occupation of the house”, ac yn is-adran (5) y geiriau “or statutory owners, as the case may be,” a'r geiriau “or them”.Yn adran 7—
 yn is-adran (1) y geiriau “while occupying it as his residence”, y geiriau “, and occupying the house as his residence” a pharagraff (b) a'r gair “and” o'i flaen, yn is-adran (4), y geiriau “while so occupying the house” a'r geiriau “occupying in right of the tenancy”, ac is-adran(6).Yn adran 9—
 yn is-adran (1), y geiriau “who reside in the house”,
 yn is-adran (1A)(a) y geiriau “and where the tenancy has been extended under this Part of this Act that the tenancy will terminate on the original term date” acis-adran (1C)(a).Yn adran 16—
 is-adran (1)(a), yn is-adran (2), y geiriau “or occupied”, y geiriau “(a) or” a'r geiriau “the freehold or”,
 yn is-adran (3), y geiriau “the freehold or” a'r amod,
 ac yn is-adran (4) y geiriau “the freehold or”.Yn adran 37—
 yn is-adran (4) y geiriau “, except section 1AA,”, ac yn is-adran (5), y geiriau o'r dechrau hyd at “but”.Yn Atodlen 3, ym mharagraff 6, is-baragraff (1)(d) ac, yn is-baragraff (2) y geiriau “and (d)”.Yn Atodlen 4A, ym mharagraff 3(2)(d), y gair “assign”.
1980 p.51 Deddf Tai 1980 Yn Atodlen 21, paragraff 1.
1989 p.42. Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 Atodlen 11, paragraff 10.
ATODLEN 2
Erthygl 2(b)
1 
Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1993 gan adrannau 115 i 120, 125 a 127 i 128 a'r diddymiadau yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn cael effaith mewn perthynas â chais am ryddfreiniad torfol—
(a) y rhoddwyd hysbysiad o dan adran 13 o Ddeddf 1993 mewn perthynas ag ef; neu
(b) y gwnaed cais am orchymyn o dan adran 26 o'r Ddeddf honno cyn y dyddiad cychwyn mewn perthynas ag ef.
2 
Hyd nes y daw adrannau 121 i 124 i rym, mewn achos lle nad oes ond dau denant cymwys o fflatiau a gynhwysir yn yr adeiladau, ni chaiff adran 13(2)(b) o Ddeddf 1993 fel y'i diwygiwyd gan adran 119 ei bodloni oni bydd y ddau denant yn denantiaid sy'n cyfranogi yn ôl y diffiniad o “participating tenants” yn adran 14 o'r Ddeddf honNo. 
3 
Bydd is-baragraff (2A) o baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf 1993 a fewnosodwyd gan adran 128, hyd nes y dygir adrannau 121 i 124 i rym, yn cael effaith fel pe bai'r cyfeiriad at aelodau sy'n cyfranogi yn gyfeiriad at denantiaid sy'n cyfranogi yn ôl y diffiniad o “participating tenants” yn adran 14 o'r Ddeddf honNo. 
4 
Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1993 gan adrannau 130, 131 a 134 i 136, y diddymiadau o adrannau 5, 7, 8 ac 8A o'r Ddeddf honno yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn a'r diddymiadau yn Rhan 2 o'r Atodlen honno yn cael effaith mewn perthynas â chais am brydles newydd o fflat—
(a) y rhoddwyd hysbysiad o dan adran 42 o Ddeddf 1993 mewn perthynas ag ef; neu
(b) y gwnaed cais am orchymyn o dan adran 50 o'r Ddeddf honnocyn y dyddiad cychwyn mewn perthynas ag ef.
5 
Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1967 gan adrannau 138 i 141 ac adrannau 143 i 147 a'r diddymiadau yn Rhan 3 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn, yn cael effaith mewn perthynas â chais am ryddfreiniad neu brydles estynedig o dŷ—
(a) y rhoddwyd hysbysiad o dan adran 8 neu 14 o Ddeddf 1997 mewn perthynas ag ef; neu
(b) y gwnaed cais am orchymyn o dan adran 27 o'r Ddeddf honnocyn y dyddiad cychwyn mewn perthynas ag ef.
6 
Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf Landlord a Thenant 1987 gan adrannau 160 a 161 yn cael effaith mewn perthynas â chais a wnaed o dan Ran II o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 cyn y dyddiad cychwyn.
7 
Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf Landlord a Thenant 1987 gan adran 162 yn cael effaith mewn perthynas â chais a wnaed o dan adran 35 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 cyn y dyddiad cychwyn.