
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 20 Rhagfyr 2002.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Diwygio) (Cymru) 2002.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru yn unig.
2 
Yn lle paragraff (1) o reoliad 12 o'r prif Reoliadau (aelodau cyd-bwyllgorau) rhowch—“
(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod, ni fydd y gofynion am gydbwysedd gwleidyddol yn gymwys i benodiadau a wneir i gyd-bwyllgor yn unol â rheoliad 11 uchod gan weithrediaeth, aelod o weithrediaeth neu bwyllgor gweithrediaeth.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Tachwedd 2002