
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002, a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “cartref” (“home”) yw—
(a) cartref cymunedol o fewn ystyr adran 53 o Ddeddf 1989;
(b) cartref a gofrestrwyd o dan Ran VIII o Ddeddf 1989;
(c) cartref a gofrestrwyd mewn cofrestr a gadwyd at ddibenion adran 60 o Ddeddf 1989;
(ch) cartref y cyfeirir ato yn erthygl 3(9) o Orchymyn Cychwyn Rhif 8;
(d) cartref gofal preswyl o fewn ystyr adran 1(1) o Ddeddf 1984, cartref nyrsio o fewn ystyr adran 21 o Ddeddf 1984, a chartref nyrsio meddwl o fewn ystyr adran 22 o Ddeddf 1984);
 ystyr “Deddf 1984” (“1984 Act”) yw Deddf Cartrefi Cofrestredig 1984;
 ystyr “Deddf 1989” (“1989 Act”) yw Deddf Plant 1989;
 ystyr “Deddf 2000” (“2000 Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
 ystyr “Gorchymyn Cychwyn Rhif 8” (“the No. 8 Commencement Order”) yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 8 (Cymru) a Darpariaethau Trosiannol, Arbedion a Chanlyniadol) 2002.
2 

(1) Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 caiff y diffiniad o “perthynas” ei ddiywgio yn unol â pharagraff (2) o'r rheoliad hwn.
(2) Yn lle'r geiriau “(ch) unrhyw unigolyn y cafodd y person ei letya ag ef o dan drefniadau maethu am gyfnod hwy na 28 diwrnod tra'r oedd rhwng un ar bymtheg a deunaw mlwydd oed, neu briod yr unigolyn hwnnw” rhoddir “(ch) unrhyw unigolyn a gafodd ei letya am gyfnod hwy na 28 diwrnod rhwng un ar bymtheg a deunaw mlwydd oed o dan drefniadau maethu a wnaed gyda'r person hwnnw, neu briod yr unigolyn hwnnw”.
3 
Ym mharagraff 3 o Atodlen 1 i Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 ar ddechrau is-baragraff (a) mewnosodir y geiriau “heblaw pan fo'r ceisydd yn awdurdod lleol neu Ymddiriedolaeth GIG,”.
4 
Yn rheoliad 7(5)(c) o Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002 yn lle'r gair “home” rhoddir “independent hospital or clinic”.
5 

(1) Caiff Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991) eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 1(2), 2(1), 5(1), 6, 10(2) a (3) ac 11, ac ym mharagraff 5 o Atodlen 4, yn lle'r geiriau “registered children’s home” rhoddir y geiriau “private children’s home” bob tro y digwydd.
(3) Yn rheoliad 1(2) (dehongli), yn y diffiniad o “placement”, yn lle “(b), (c), (d)” rhoddir “(aa)” ym mharagraff (a) a (b).
(4) Yn rheoliad 2(2) (cymhwyso'r rheoliadau) ar ôl y geiriau “voluntary organisation”, rhoddir “, in a school which is a children’s home within the meaning of section 1(6) of the Care Standards Act 2000.”.
(5) Yn rheoliad 11 (mynediad gan warcheidwaid ad litem i gofnodion a'r gofrestr), ac yn y pennawd i'r rheoliad hwnnw, yn lle “guardian ad litem” rhoddir “officer of the service”.
(6) Yn Atodlen 3 (ystyriaethau addysgol y mae awdurdodau cyfrifol i'w ystyried), ym mharagraff 4—
(a) yn lle “Education Act 1981” rhoddir “Education Act 1996”; a
(b) yn lle “section 7” rhoddir “section 324”.
6 

(1) Caiff Rheoliadau Lleoli Plant â Rhieni a.y.y.b 1991 eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 1(2) (dehongli), hepgorir y diffiniad o “guardian ad litem”.
(3) Ym mharagraff 1 o Atodlen 1 (manylion i'w cymryd i ystyriaeth)—
(a) yn is-baragraff (f), yn lle'r geiriau o “under” hyd at “Act” rhoddir “for child minding or day care”; a
(b) yn lle is-baragraff (k) rhoddir—“
(k) details of any criminal offences of which he has been convicted, or in respect of which, at the time the caution was given, he admitted.”.
7 

(1) Caiff Rheoliadau Adolygu Achosion Gofal Plant 1991) eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 1(2) (dehongli), hepgorir y diffiniad o “guardian ad litem”.
(3) Yn rheoliad 1(2) a 12, yn lle'r geiriau “registered children’s homes” rhoddir “private children’s homes” bob tro y diwgydd.
(4) Yn rheoliad 13 (eithriadau i gymhwyso'r Rheoliadau), yn lle'r geiriau “on behalf of” hyd at ddiwedd y rheoliadau, rhoddir “by a local authority or a voluntary organisation in a school which is a children’s home within the meaning of section 1(6) of the Care Standards Act 2000.”.
(5) Yn Atodlen 2 (ystyriaethau y mae awdurdodau cyfirfol i'w ystyried), ym mharagraff 4, yn lle “Deddf Addysg 1981” rhoddir “Deddf Addysg 1996”.
8 
Caiff Rheoliadau Gweithdrefn Cynrychioliadau (Plant) 1991 eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 11(2) (cais i sefydliadau gwirfoddol a chartrefi plant cofrestredig), yn lle'r geiriau “registered children’s home” rhoddir “private children’s home” bob tro y digwydd; a
(b) yn rheoliad 11A (eithriadau i gymhwyso'r rheoliadau) yn lle'r geiriau sy'n dilyn “voluntary organisation” hyd at ddiwedd y rheoliad rhoddir “, in a school which is a children’s home within the meaning of section 1(6) of the Care Standards Act 2000.”.
9 
Caiff Rheoliadau Llochesau (Cartrefi Plant a Lleoliadau Maeth) 1991 eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “home” ac yn rheoliad 4(2) yn lle'r geiriau “registered children’s home” rhoddir “private children’s home”; a
(b) yn rheoliad 4(1) (tynnu tystysgrif yn ôl) yn is-baragraff (b), yn lle “Part II of the Children’s Homes Regulations 1991” rhoddir “Parts III to V of the Children’s Homes (Wales) Regulations 2002”.
10 
Caiff Rheoliadau Plant (Llety Diogel) 1991) eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “children’s home”, yn lle “registered” rhoddir “private”;
(b) yn rheoliad 5 (plant na fydd adran 25 o'r Ddeddf yn gymwys iddynt), ym mharagraff (1), yn lle “section 53” hyd at ddiwedd y paragraff hwnnw, rhoddir “section 90 or 91 of the Powers of the Criminal Courts (Sentencing) Act 2000 (detention at Her Majesty’s Pleasure or for specified period).”; ac
(c) yn rheoliad 7 (plant y bydd adran 25 o'r Ddeddf yn gymwys iddynt ac yn cael effaith arnynt yn ddarostyngedig i addasiadau)—
(i) yn y naill a'r llall o baragraffau (1)(b) a (3)(b), yn lle “residential care homes, nursing homes or mental nursing homes” rhoddir “care homes or independent hospitals”; a
(ii) ym mharagraff (3)(a) yn lle “residential care home, a nursing home or a mental nursing home” rhoddir “care home or an independent hospital”.
11 
Ym mharagraff (2) o reoliad 2 o Reoliadau Plant (Llety Diogel) (Rhif 2), yn lle “residential care home, nursing home, or mental nursing home” rhoddir “care home or independent hospital”.
12 
Yn y diffiniad o “ysbyty” yn rheoliad 2 o Reoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001 yn lle paragraff (b) rhoddir “(b) sefydliad cofrestredig o fewn ystyr adran 34(1) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983)”.
13 

(1) Ni fydd unrhyw ddiwygiad a wnaed yn rheoliadau 5 i 12 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas, neu mewn cysylltiad, â chartref, y mae am y tro, unrhyw un o'r darpariaethau a grybwyllwyd ym mharagraff (2) yn gymwys.
(2) Y darpariaethau yw paragraffau (6) i (9) o erthygl 3 o Orchymyn Cychwyn Rhif 8.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
27 Tachwedd 2002