
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 ac mae'n gymwys i Gymru.
(2) Daw i rym ar 11 Chwefror 2002 ac fe fydd yn peidio a bod mewn grym ar 1 Rhagfyr 2002.
2 
Yn y Gorchymyn hwn, oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall:
 ystyr “crynhoad anifeiliaid” (“animal gathering”) yw achlysur pryd deuir ag anifeiliaid ynghyd at ddibenion—
(a) gwerthu;
(b) dangos;
(c) arddangos;
(ch) i'w traddodi ymlaen i'w lladd o fewn Prydain Fawr; neu
(d) yn achos gwartheg stôr, i'w traddodi ymlaen o fewn Prydain Fawr ar gyfer pesgu pellach neu eu gorffen,ac mae'n cynnwys derbyn neu gadw dros dro yr anifeiliaid hynny; ac
 ystyr “diheintydd a gymeradwywyd” (“approved disinfectant”) yw diheintydd a restrir yng Ngorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978 fel un a gymeradwywyd am y tro i'w defnyddio o dan orchmynion cyffredinol(.
3 

(1) Yn ddarostyngedig i erthygl 4 isod, rhaid i bob person beidio â defnyddio tir ac adeiladau ar gyfer crynhoad anifeiliaid—
(a) yn groes i ddarpariaethau'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn; a
(b) oni bai fod y tir a'r adeiladau hynny wedi'u trwyddedu i'r diben hwnnw gan arolygydd milfeddygol.
(2) Rhaid i'r drwydded y cyfeirir ati ym mharagraff (1) uchod—
(a) fod yn ysgrifenedig;
(b) fod yn bosibl ei diwygio, ei hatal dros dro neu ei diddymu drwy hysbysiad ysgrifenedig wedi ei gyhoeddi gan arolygydd milfeddygol; ac
(c) fod yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau ag y barna'r arolygydd milfeddygol yn angenrheidiol er mwyn rheoli cyflwyno neu ledaenu clefyd o fewn neu oddi wrth y tir a'r adeiladau y mae'r drwydded yn perthyn â hwy.
4 

(1) Ni fydd erthygl 3 uchod yn gymwys pan fydd—
(a) yr holl anifeiliaid sy'n mynychu'r crynoad â'r un perchennog a'r un ceidwad; a
(b) y crynoad anifeiliad i ddigwydd ar dir neu mewn adeilad sydd yn eiddo i neu ym meddiant perchennog yr anifeiliaid.
(2) At ddibenion yr erthygl hwn, ystyr “ceidwad” yw person sydd â'r prif gyfrifoldeb am ofal a rheoli'r anifeiliaid o ddydd i ddydd.
5 
Ac eithrio lle y darperir yn wahanol, rhaid i'r Gorchymyn hwn gael ei orfodi gan yr awdurdod lleol.
6 
Ni fyddGorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925 yn gymwys tra bod y Gorchymyn hwn mewn grym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Carwyn Jones
Ysgrifennydd Cynulliad
8 Chwefror 2002Lord Whitty
Is - Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Bwyd
8 Chwefror 2002
ATODLEN
Erthygl 3
1 
Yn ddarostyngedig i baragraff 3 o'r Atodlen hon, rhaid i bob person beidio â chaniatáu i grynhoad anifeiliaid ddigwydd ar dir ac mewn adeiladau lle mae anifeiliaid wedi'u cadw hyd nes i 28 diwrnod fynd heibio o'r diwrnod pryd—
(a) yr ymadawodd yr anifail olaf â'r tir a'r adeiladau hynny; a
(b) y cwblhawyd glanhau halogiad gweladwy ar y corlannau, clwydi ac unrhyw gyfarpar arall y mae'r anifeiliaid wedi cael mynediad iddynt.
2 

(a) Yn ddarostyngedig i baragraff 3 o'r Atodlen hon, rhaid i bob person beidio â chaniatáu anifeiliaid i fynd i dir ac adeiladau lle bu crynhoad anifeiliaid hyd nes i 28 diwrnod fynd heibio o'r diwrnod pryd—
(i) yr ymadawodd yr anifail olaf â'r tir a'r adeiladau hynny; a
(ii) y cwblhawyd glanhau halogiad gweladwy ar y corlannau, clwydi ac unrhyw gyfarpar arall y mae'r anifeiliaid wedi cael mynediad iddynt.
(b) Yn ystod y cyfnod 28 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (a) uchod, rhaid i bob person beidio â symud o'r tir a'r adeiladau unrhyw gorlan, clwyd neu gyfarpar arall y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd atynt oni bai eu bod wedi'u hysgubo neu eu crafu'n lân, eu glanhau drwy olchi â diheintydd a gymeradwywyd yn unol â chyfarwyddiadau gwneuthurwyr.
3 
Nid yw'r cyfyngiadau ym mharagraff 1 a 2 uchod yn gymwys os yw'r rhannau o'r tir a'r adeiladau y mae'r anifeiliaid yn cael mynd atynt wedi'u palmantu â sment, concrid, asffalt neu unrhyw ddeunydd caled, anhydraidd y mae modd ei lanhau a'i ddiheintio'n effeithiol ac os yw'r tir a'r adeiladau yn cael eu glanhau a'u diheintio yn unol â Pharagraffau 4, 5, a 6 isod.
4 
Rhaid ysgubo neu grafu'n lân pob rhan o'r tir a'r adeiladau y cafodd yr anifeiliaid fynd iddynt (gan gynnwys corlannau, clwydi ac unrhyw gyfarpar arall) ac yna eu glanhau drwy olchi a defnyddio diheintydd a gymeradwywyd yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr.
5 
Rhaid i'r gwaith glanhau a diheintio a nodir ym mharagraff 4 uchod—
(a) beidio â dechrau hyd nes i'r anifeiliaid gael eu symud o'r rhan o'r tir a'r adeiladau sydd i'w glanhau a'u diheintio; a
(b) gael ei gwblhau ar ôl i'r anifail olaf ymadael â'r tir a'r adeiladau a chyn i'r anifeiliaid gael mynd i'r tir a'r adeiladau eto.
6 
Os (am reswm nad yw'n ymwneud â phresenoldeb anifeiliaid yno) yw'r tir a'r adeiladau yn cael eu halogi gan ysgarthion anifeiliaid neu ddeunydd arall o darddiad anifeilaidd neu unrhyw halogyn o darddiad anifeilaidd yna rhaid ysgubo neu grafu'n lân y tir a'r adeiladau neu'r rhannau hynny a halogwyd felly,ac yna eu glanhau drwy olchi a defnyddio diheintydd a gymeradwywyd yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr cyn i unrhyw anifeiliaid gael mynd i'r tir a'r adeiladau eto.
7 
Rhaid i bob bwyd y cafodd yr anifeiliaid fynd ato, a phob sarn, ysgarthion, a deunydd arall o darddiad anifeilaidd a halogion eraill sy'n deillio o'r anifeiliaid yn y crynhoad anifeiliaid, cyn gynted â phosibl a chyn i'r anifeiliaid gael mynd i'r tir a'r adeiladau eto, gael—
(a) eu distrywio;
(b) eu trin er mwyn tynnu'r perygl o drosglwyddo afiechyd; neu
(c) eu gwaredu fel nad yw'r anifeiliaid yn cael mynd atynt.