
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 13 Tachwedd 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig ac nid ydynt yn effeithiol mewn perthynas â cheisiadau grant sy'n cael eu gwneud cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
2 

(1) Mae'r ffurflen (Saesneg) a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997 yn cael ei diwygio yn unol â thestun Saesneg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(2) Mae'r ffurflen (Gymraeg) a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 1999) yn cael ei diwygio yn unol â thestun Cymraeg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Tachwedd 2002
YR ATODLEN
Rheoliad 2
1 
Ar ddiwedd cwestiwn 4.1, ychwanegwch—“
 neu a ydy'r ddau ohonoch yn cael (ac a oes gennych hawl i gael) lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd?”.
2 
Yng nghwestiwn 4.29 mewnosodwch y canlynol yn y lle priodol—
(a) “Lwfans Profedigaeth: £ £Nodyn 44C”;
(b) “Lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd: £ £Nodyn 8”;
(c) “Lwfans mam weddw: £ £Nodyn 44D”;
(d) “Lwfans rhiant gweddw: £ £Nodyn 44D”.
3 
Ar ôl cwestiwn 4.34B, mewnosodwch—“
4.34C 
Rhowch fanylion unrhyw daliad a wnaed i chi neu i'ch partner i dalu iawn am ddigwyddiadau a ddigwyddodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Nodyn 50F”
4 
Ym mharagraffau (a) a (b) o'r Awdurdodiad ar ddiwedd Rhan 4 o'r ffurflen, ar ôl “lwfans ceisio gwaith ar sail incwm” mewnosodwch “neu lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd”.
5 
Yn nodyn 8—
(a) ar ôl “a chymerodd LCG ar sail incwm le Cymhorthdal Incwm” ychwanegwch “Os yw'r ddau bartner yn gymwys i gael lwfans ceisio gwaith o 19 Mawrth 2001 ymlaen dylent wneud “cais ar y cyd” am lwfans ceisio gwaith.”;
(b) ar ôl “Rhan 4”, yn yr ail le y mae'n digwydd, mewnosodwch “os yw'r cwpl yn cael lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd, caiff dau aelod y cwpl lenwi'r awdurdodiad ar ddiwedd Rhan 4.”.
6 
Yn y rhestr ym mharagraff cyntaf nodyn 43 yn lle “neu yn Newis Tasglu Amgylchedd y Fargen Newydd lle yr ydych chi yn hunangyflogedig o dan Ddewis Cyflogaeth y Fargen Newydd a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973;” rhowch “,Dewis Tasglu Amgylchedd y Fargen Newydd lle yr ydych chi yn hunangyflogedig o dan Ddewis Cyflogaeth y Fargen Newydd, rhaglen y Cyfnod Gweithgaredd Dwys neu'r Cyfnod Gweithgaredd Dwys ar gyfer y rhai dros 50 a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 neu fel cymhorthdal i gefnogi eich hunangyflogaeth”.
7 
Ar ôl nodyn 44B mewnosodwch—“
44C 
Byddwch cystal â rhoi manylion unrhyw lwfans profedigaeth a gawsoch yn y 12 mis diwethaf. Telir lwfans profedigaeth i berson dros 55 oed ac o dan 60 oed a ddaeth yn weddw ar neu ar ôl 9 Ebrill 2001. Telir y lwfans o dan adran 39B o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.”.
44D 
Telir lwfans mam weddw o dan adran 37 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 a thelir lwfans rhiant gweddw o dan adran 39A o'r Ddeddf honNo. ”.
8 
Ar ôl nodyn 50E, mewnosodwch—“
50F 
Y taliadau a anwybyddir wrth gyfrifo cyfalaf yw'r rheiny sy'n daladwy i chi neu eich partner i dalu iawn i chi, eich partner, eich priod marw neu briod marw eich partner am fod, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn gaethlafuriwr neu'n lafuriwr o dan orfodaeth neu'n riant i blentyn a fu farw neu am ddioddef anaf personol neu golli eiddo yn ystod y Rhyfel hwnnw.”.
9 
Ar ddiwedd nodyn 53, ychwanegwch:
 Dylech ateb “Nac ydw” i'r cwestiwn hwn os ydych ar seibiant mamolaeth, gyda hawl i gael tâl mamolaeth statudol o dan adran 164 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 neu lwfans mamolaeth o dan adran 35 o'r Ddeddf honno, a dim ond ar gyfer y plentyn y mae'r seibiant mamolaeth yn berthnasol iddo y telir y taliadau gofal plant.”.
10 
Yn nodyn 55A yn lle “Rhan 3” rhowch “Rhan 4. Os yw cwpl yn cael lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd, caiff dau aelod y cwpl lenwi'r awdurdodiad ar ddiwedd Rhan 4.”.