
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 18 Hydref 2002.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 7 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig)—
(a) ar ôl paragraff (3)(c)(ii) mewnosodir y paragraff canlynol—“
(iii) ac ymhellach, pan fo paragraff (4) yn gymwys, mewn adroddiad ysgrifenedig o wiriad o'r rhestrau a gedwir yn unol ag adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 a rheoliadau a wnaed o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.”;
(b) yn lle paragraff (4) rhoddir—“
 Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi.”.
(3) Yn rheoliad 9 (ffitrwydd y rheolwr cofrestredig)—
(a) ar ôl paragraff (2)(c)(ii) mewnosodir paragraff (iii) newydd fel a ganlyn—“
(iii) ac ymhellach, pan fo paragraff (3) yn gymwys, mewn adroddiad ysgrifenedig o wiriad o'r rhestrau a gedwir yn unol ag adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 a rheoliadau a wnaed o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.”;
(b) yn lle paragraff (3) rhoddir—“ Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi.”.
(4) Yn rheoliad 19 (ffitrwydd y gweithwyr)—
(a) ar ddechrau paragraff (1) mewnosodir “Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (5A),”
(b) yn lle paragraff 3 rhoddir—“
 Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi”.
(c) yn is-bargagraff (a) o baragraff (4) yn lle “cartref plant” rhoddir “cartref gofal”;
(ch) yn is-baragraff (b) o baragraff 4 ar ôl “(5)” rhoddir “neu 5A”;
(d) ym mharagraff (5), y tro cyntaf yr ymddengys yn lle “paragraff” rhoddir “paragraffau (1) a”
(dd) ar ôl paragraff (5) mewnosodir paragraff (5A) newydd fel a ganlyn—“
(5A) Fel dewis arall i baragraff (5), pan fo'r amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio mewn cartref gofal er gwaethaf paragraffau (1) a (4)(b)—
(a) bod paragraff (3) o'r rheoliad hwn yn gymwys;
(b) bod gwybodaeth gyflawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw wedi'i derbyn mewn cysylltiad â'r materion a nodwyd ym mharagraffau 1, 4 a 6 o Atodlen 2;
(c) bod y person wedi darparu—
(i) dau eirda ysgrifenedig, yn cynnwys geirda oddi wrth y cyflogwr diwethaf, os oes un, a
(ii) datganiad ysgrifenedig o fanylion unrhyw dramgwyddau troseddol y mae'r person wedi'i euogfarnu ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw euogfarnau a dreuliwyd o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac y gellir eu datgelu trwy rinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 neu y mae'r person wedi derbyn rhybudd mewn perthynas â hwy, ac ar yr adeg pan roddwyd y rhybudd, wedi'u cyfaddef;
(ch) ym marn resymol y person cofrestredig na fydd buddiannau'r gwasanaeth yn cael eu bodloni os na ellir penodi'r person; ac
(d) bod y person cofrestredig, tra'n disgwyl derbyn a thra'n bodoloni ei hun ynghylch y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff (3), yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio yn briodol tra'n cyflawni ei ddyletswyddau.”.
(5) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth sydd i fod ar gael mewn perthynas â phersonau sydd am redeg neu reoli cartref gofal neu weithio ynddo)—
(a) yng ngeiriau olaf paragraff 2 yn lle'r geiriau “os yw'n gymwys” rhoddir “i'r graddau a ganiatier o dan Ddeddf yr Heddlu 1997”;
(b) yn lle paragraff 7 rhoddir—“
7 
Gwiriad gan yr heddlu sef adroddiad a gaiff ei lunio gan neu ar ran prif swyddog heddlu neu aelod arall o heddlu o fewn ystyr Deddf yr Heddlu 1996 sy'n cofnodi, fel ar yr adeg pan gaiff yr adroddiad ei lunio, pob tramgwydd troseddol
(a) y mae'r person wedi'i euogfarnu mewn perthynas â hwy gan gynnwys euogfarnau a dreuliwyd o fewn ystyr Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac y gellir eu datgelu trwy rinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975; neu
(b) y mae'r person wedi derbyn rhybudd mewn perthynas â hwy, ac ar yr adeg pan roddwyd y rhybudd wedi'u cyfaddef.”
3 

(1) Diwygir Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 6 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig)—
(a) ar ôl paragraff (3)(c)(ii) mewnosodir y paragraff canlynol—“
(iii) ac ymhellach, pan fo paragraff (4) yn gymwys, mewn adroddiad ysgrifenedig o wiriad o'r rhestrau a gadwyd yn unol ag adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 a rheoliadau a wnaed o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.”;
(b) yn lle paragraff (4) rhoddir—“
 Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi.”.
(3) Yn rheoliad 8 (ffitrwydd y rheolwr cofrestredig)—
(a) ar ôl paragraff (2)(c)(ii) mewnosodir y paragraff canlynol—“
(iii) ac ymhellach, pan fo paragraff (4) yn gymwys, adroddiad ysgrifenedig o wiriad o'r rhestrau a gedwir yn unol ag adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 a rheoliadau a wnaed o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.”;
(b) yn lle paragraff (3) rhoddir—“
 Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi.”.
(4) Yn rheoliad 26 (ffitrwydd y gweithwyr)—
(a) ym mharagraff (1), mewnosodir ar y dechrau—“
 Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (5A)”
(b) yn lle paragraff (3) rhoddir—“
 Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi”;
(c) ym mharagraff (5) yn lle'r gair “paragraff” ble yr ymddengys gyntaf rhoddir y geiriau “paragraffau (1) a”;
(ch) ar ôl paragraff (5) mewnosodir paragraff (5A) newydd fel a ganlyn—“

(5A) Fel dewis arall i baragraff (5) pan fo'r amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio mewn cartref plant er gwaethaf paragraffau (1) a (4)(b)—
(a) mae paragraff (3) o'r rheoliad hwn yn gymwys;
(b) bod gwybodaeth gyflawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw wedi'i derbyn mewn cysylltiad â'r materion a nodwyd ym mharagraffau 1, 4 a 6 o Atodlen 2;
(c) bod y person wedi darparu—
(i) dau eirda ysgrifenedig, yn cynnwys geirda oddi wrth y cyflogwr diwethaf, os oes un, a
(ii) datganiad ysgrifenedig o fanylion unrhyw dramgwyddau troseddol y mae'r person wedi'u euogfarnu ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw euogfarnau a dreuliwyd o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac y gellir eu datgelu trwy rinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 neu y mae'r person wedi derbyn rhybudd mewn perthynas â hwy ac, ar yr adeg pan roddwyd y rhybudd wedi cyfaddef;
(ch) ym marn resymol y person cofrestredig na fydd buddiannau'r gwasanaeth yn cael eu bodloni os na ellir penodi'r person; ac
(d) bod y person cofrestredig, tra'n disgwyl derbyn a thra'n bodloni ei hun ynghylch y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff (3), yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio yn briodol tra'n cyflawni ei ddyletswyddau.
”.
(5) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth y mae ei hangen mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio rhedeg neu reoli cartref plant neu weithio mewn un)—
(a) yng ngeiriau olaf paragraff 2 yn lle “os yw'n gymwys” rhoddir “i'r graddau y mae hynny'n cael ei ganiatáu o dan Ddeddf yr Heddlu 1997”;
(b) yn lle paragraff 7 rhoddir—“
7 
Gwiriad gan yr heddlu sef adroddiad a gaiff ei lunio gan neu ar ran prif swyddog heddlu neu aelod arall o heddlu o fewn ystyr Deddf yr Heddlu 1996 sy'n cofnodi, fel ar yr adeg pan gafodd yr adroddiad ei lunio, pob tramgwydd troseddol—
(a) y mae'r person wedi'i euogfarnu mewn perthynas â hwy gan gynnwys euogfarnau a dreuliwyd o fewn ystyr Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac y gellir eu datgelu trwy rinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975; neu
(b) yr oedd y person y mae'r person wedi derbyn rhybudd mewn perthynas â hwy, ac ar yr adeg pan roddwyd y rhybudd, wedi'u cyfaddef.”.
4 

(1) Diwygir Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002 yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 9 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig)—
(a) ar ôl paragraff (3)(c)(ii) mewnosodir y paragraff canlynol—“
(iii) ac ymhellach, pan fo paragraff (4) yn gymwys, mewn adroddiad ysgrifenedig o wiriad o'r rhestrau a gedwir yn unol ag adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 a rheoliadau a wnaed o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.”;
(b) yn lle paragraff (4) rhoddir—“
 Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi.”
(3) Yn rheoliad 11 (ffitrwydd y rheolwr)—
(a) ar ôl paragraff (2)(c)(ii) mewnosodir y pparagraff canlynol—“
(iii) ac ymhellach, pan fo paragraff (4) yn gymwys, adroddiad ysgrifenedig o wiriad o'r rhestrau a gedwir yn unol ag adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 a rheoliadau a wnaed o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.”;
(b) yn lle paragraff (3) rhoddir—“
 Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi.”.
(4) Yn rheoliad 18 (ffitrwydd y gweithwyr)—
(a) ar ddechrau paragraff (1), mewnosodir—“
 Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (5A)”;
(b) yn lle paragraff (3) rhoddir—“
 Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi”;
(c) ym mharagraff (5) yn lle “paragraff” ble yr ymddengys gyntaf rhoddir “paragraffau (1) a”;
(ch) ar ôl paragraff (5) mewnosodir paragraff (5A) newydd fel a ganlyn—“
(5A) Fel dewis arall i baragraff (5) pan fo'r amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio yn y sefydliad neu at ddibenion y sefydliad er gwaethaf paragraffau (1) a (4)(b)—
(a) bod paragraff (3) o'r rheoliad hwn yn gymwys;
(b) bod gwybodaeth gyflawn a boddhaol wedi'i derbyn mewn perthynas â'r person hwnnw mewn cysylltiad â'r materion a nodwyd ym mharagraffau 1, 4 a 6 o Atodlen 2;
(c) bod y person wedi darparu—
(i) dau eirda ysgrifenedig, yn cynnwys geirda oddi wrth y cyflogwr diwethaf, os oes un, a
(ii) datganiad ysgrifenedig o fanylion unrhyw dramgwyddau troseddol y mae'r person wedi cael eu euogfarnu ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw euogfarnau a dreuliwyd o fewn ystyr Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac y gellir eu datgelu trwy rinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Trodseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 neu y mae person wedi derbyn rhybudd mewn perthynas â hwy ac, ar yr adeg pan roddwyd y rhybudd wedi'u cyfaddef;
(ch) ym marn resymol y person cofrestredig na fydd buddiannau'r gwasanaeth yn cael eu bodloni os na ellir penodi'r person; a
(d) bod y person cofrestredig, tra'n disgwyl derbyn a thra'n bodloni ei hun ynghylch y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff (3), yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio yn briodol tra'n cyflawni ei ddyletswyddau.”.
(5) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â phersonau sydd am redeg neu reoli sefydliad neu weithio ynddo)—
(i) ar gyfer geiriau olaf paragraff 2 yn lle'r geiriau “os yw'n gymwys” rhoddir “i'r graddau a ganiateir o dan Ddeddf yr Heddlu 1997”;
(ii) yn lle paragraff 8 rhoddir—“
8 
Gwiriad gan yr heddlu sef adroddiad a gaiff ei lunio gan neu ar ran prif swyddog heddlu neu aelod arall o heddlu o fewn ystyr Deddf yr Heddlu 1996 sy'n cofnodi, fel ar yr adeg pan gaiff yr adroddiad ei lunio, pob tramgwydd troseddol
(a) y mae'r person wedi'i euogfarnu mewn perthynas â hwy gan gynnwys euogfarnau a dreuliwyd o fewn ystyr Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac y gellir eu datgelu trwy rinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975; neu
(b) y mae'r person wedi derbyn rhybudd mewn perthynas â hwy, ac yr adeg pan roddwyd y rhybudd wedi'u cyfaddef.”.
5 

(1) Diwygir Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 4 (gwybodaeth a dogfennau i'w darparu gan geisydd)—
(a) ym mharagraff (2)—
(i) yn is-baragraff (a) mewnosodir “and” ar y diwedd;
(ii) yn is-baragraff (b) hepgorir “paragraphs 1 to 3 and 5 to 9 of ”;
(iii) hepgorir is-baragraff (c);
(b) ym mharagraff (3)—
(i) yn is-baragraff (a) mewnosodir “and” ar y diwedd;
(ii) yn is-baragraff (b) yn lle “paragraphs 9 to 11” rhoddir “Part II”;
(iii) hepgorir is-baragraff (c).
(3) Yn rheoliad 8 (gwybodaeth o ran staff a gymerir ymlaen ar ôl gwneud cais)—
(a) yn is-baragraff (a) o baragraff (1) hepgorir “except where paragraph (2) applies”;
(b) hepgorir paragraff (2).
(4) Ym mharagraff 1 o Atodlen 1 (yr wybodaeth sydd i'w chyflwyno wrth wneud cais i gofrestru fel person sy'n rhedeg sefydliad) hepgorir is-baragraff (f).
(5) Yn Atodlen 2 (y dogfennau sydd i'w cyflwyno wrth wneud cais i gofrestru fel person sy'n rhedeg sefydliad)—
(a) ym mharagraff 4, yn y ddau le y mae'n ymddangos, yn lle “where applicable” rhoddir “to the extent permitted under the Police Act 1997”;
(b) yn dilyn paragraff 9 mewnosodir“
(9A) Nothwithstanding paragraph 4, where the responsible person has applied for a certificate referred to in paragraph 4, but the certificate has not been issued—
(a) a statement confirming that the documents specified in paragraph 4 have been applied for and that the applicant, or where the applicant is an organisation, the responsible individual, will advise the National Assembly on receipt that they are available for inspection;
(b) a written report of a check on the lists maintained pursuant to section 1 of the Protection of Children Act 1999 and regulations made under section 218 of the Education Reform Act 1988; and
(c) a police check being a report produced by or on behalf of a chief officer of police or other member of a police force within the meaning of the Police Act 1996 which records, at the time the report is produced, all criminal offences—
(i) for which the person had been convicted including convictions which are spent within the meaning of the Rehabilitation of Offenders Act 1974 and which may be disclosed by virtue of the Rehabilitation of Offenders Act 1974 (Exceptions) Order 1975; or
(ii) in respect of which the person had been cautioned and which, at the time the caution was given, the person admitted.”;
(c) ym mharagraff 10 ar gyfer geiriau olaf paragraff (b) o is-baragraff (2) ar ôl “including” mewnosodir “, to the extent permitted under the Police Act 1997,”.
(6) Yn Atodlen 3 (yr wybodaeth a'r dogfennau sydd i'w cyflwyno wrth wneud cais i gofrestru fel rheolwr sefydliad)—
(a) hepgorir paragraff 8.
(b) ar gyfer geiriau olaf paragraff 12 a pharagraff 13 yn lle “where applicable” rhoddir “to the extent permitted under the Police Act 1997”.
(c) yn dilyn paragraff 13 mewnosodir—“
13A 
Nothwithstanding paragraphs 12 and 13, where the responsible person has applied for a certificate referred to in paragraphs 12 and 13, but the certificate has not been issued—
(a) a statement confirming that the documents specified in paragraphs 12 and 13 have been applied for and the applicant will advise the National Assembly on receipt that they are available for inspection;
(b) a written report of a check on the lists maintained pursuant to section 1 of the Protection of Children Act 1999 and Regulations made under section 218 of the Education Reform Act 1988; and
(c) a police check being a report produced by or on behalf of a chief officer of police or other member of a police force within the meaning of the Police Act 1996 which records, at the time the report is produced, all criminal offences—
(i) for which the person had been convicted including convictions which are spent within the meaning of the Rehabilitation of Offenders Act 1974 and which may be disclosed by virtue of the Rehabilitation of Offenders Act 1974 (Exceptions) Order 1975; or
(ii) in respect of which the person had been cautioned and which, at the time the caution was given, the person admitted.”.
(7) Yn Atodlen 7 (yr wybodaeth sydd i'w chyflwyno wrth wneud cais i gofrestru fel gwarchodydd plant neu fel darparydd gofal dydd) hepgorir is-baragraff (f) o baragraff 1.
(8) Yn Atodlen 8 (y dogfennau sydd i'w cyflwyno wrth wneud cais i gofrestru fel gwarchodydd plant neu fel darparydd gofal dydd)—
(a) ym mharagraff 4, yn y ddau le y mae'n ymddangos, yn lle “where applicable” rhoddir “to the extent permitted under the Police Act 1997”.
(b) yn lle paragraff 9A mewnosodir—“
9A 
Nothwithstanding paragraph 4, where the responsible person has applied for a certificate referred to in paragraph 4, but the certificate has not been issued—
(a) a statement confirming that the documents specified in paragraph 4 have been applied for and that the applicant will advise the National Assembly on receipt that they are available for inspection;
(b) a written report of a check on the lists maintained pursuant to section 1 of the Protection of Children Act 1999 and regulations made under section 218 of the Education Reform Act 1988; and
(c) A police check being a report produced by or on behalf of a chief officer of police or other member of a police force within the meaning of the Police Act 1996 which records, as at the time the report is produced, all criminal offences—
(i) for which the person had been convicted including convictions which are spent within the meaning of the Rehabilitation of Offenders Act 1974 and which may be disclosed by virtue of the Rehabilitation of Offenders Act 1974 (Exceptions) Order 1975; or
(ii) in respect of which the person had been cautioned and which, at the time the caution was given, the person admitted.”.
(c) Ym mharagraff 10 hepgorir is baragraff (3).
6 

(1) Diwygir Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd Cymru 2002 yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 4 (y person cofrestredig — ei addasrwydd)—
(a) ym mharagraff (3)(c)(i) hepgorir “neu 4(A)”
(b) yn lle paragraff (3)(c)(iii) mewnosodir—“
(iii) ac ymhellach, pan fo paragraff (4) yn gymwys, adroddiad ysgrifenedig o wiriad o'r rhestrau a gedwir yn unol ag adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 a rheoliadau a wnaed o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988”;
(c) yn lle paragraff (4) rhoddir—“
 Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi.”; ac
(ch) hepgorir paragraff (4A).
(3) Yn rheoliad 16 (addasrwydd gweithwyr)—
(a) ym mharagraff (1) cyn y geiriau “Rhaid i'r person cofrestredig beidio â gwneud y canlynol—” rhoddir y geiriau “Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (5A)”;
(b) Yn lle paragraff (3) rhoddir—“
 Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi”;
(c) ym mharagraff (5) hepgorir “yn ddarostyngedig i baragraff (7)” a'r tro nesaf y mae “paragraff” yn ymddangos rhoddir “paragraffau (1) a”;
(ch) ar ôl paragraff (5) mewnosodir paragraff (5A) newydd fel a ganlyn—“
(5A) Pan fo'r amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio mewn sefydliad neu at ddibenion sefydliad heblaw am baragraffau (1) a (4)(b)—
(a) bod paragraff (3) o'r rheoliad hwn yn gymwys;
(b) bod gwybodaeth gyflawn a boddhaol wedi'i derbyn mewn perthynas â'r person hwnnw mewn cysylltiad â'r materion a nodir ym mharagraffau 1, 4 a 6 o Atodlen 2;.
(c) bod y person wedi darparu—
(i) dau eirda ysgrifenedig, yn cynnwys geirda oddi wrth y cyflogwr diweddaraf, os oes un, a
(ii) datganiad ysgrifenedig o fanylion unrhyw dramgwyddau troseddol y mae'r person wedi'i euogfarnu ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw euogfarnau a dreuliwyd o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac y gellir eu datgelu trwy rinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 neu y mae'r person wedi derbyn rhybudd mewn perthynas â hwy ac wedi cyfaddef ar yr adeg pan roddwyd y rhybudd;
(ch) ym marn resymol y person cofrestredig na fydd buddiannau'r gwasanaeth yn cael eu bodloni os na ellir penodi'r person;
(d) bod y person cofrestredig, tra'n disgwyl derbyn a thra'n bodoloni ei hun ynghylch y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff (3), yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio yn briodol tra'n cyflawni ei ddyletswyddau.”; a
(d) hepgorir paragraff (7).
(4) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth y mae ei hangen mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio gweithredu fel gwarchodwyr plant neu ddarparu gofal dydd neu weithio drostynt)—
(a) ym mharagraff 2 yn lle “os yw'n gymwys” rhoddir “i'r graddau y mae hynny'n cael ei ganiatáu o dan Ddeddf yr Heddlu 1997”;
(b) yn lle paragraff 7 rhoddir—“
7 
Gwiriad gan yr heddlu yw adroddiad a gaiff ei lunio gan neu ar ran prif swyddog heddlu neu aelod arall o heddlu o fewn ystyr Deddf Heddlu 1996 sy'n cofnodi, ar yr adeg pan gafodd yr adroddiad ei lunio, pob tramgwydd troseddol
(a) y mae'r person wedi'i euogfarnu mewn perthynas â hwy gan gynnwys euogfarnau a dreuliwyd o fewn ystyr Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac y gellir eu datgelu trwy rinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975; neu
(b) y mae'r person wedi derbyn rhybudd mewn perthynas â hwy, ac ar yr adeg pan roddwyd y rhybudd wedi'u cyfaddef.”.
7 

(1) Dirymir drwy hyn Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2002.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Hydref 2002