
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2002.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2 
1 Tachwedd 2002 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dod ag adrannau 60 a 61 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (cynlluniau gwella hawliau tramwy) i rym mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Hydref 2002