
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (Cychwyn) (Cymru) 2002.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf ”(“the Act”) yw Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
10 Hydref 2002 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau'r Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Jane E. Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
7 Hydref 2002
YR ATODLEN
Erthygl 2


Darpariaethau'r Ddeddf Y Pwnc
Adran 6 Byrddau Iechyd Lleol
Adran 9 Cyllido Byrddau Iechyd Lleol
Adran 10 Gwariant cyrff GIG
Adran 23 Cydweithio â'r gwasanaeth carchardai
Adran 24 Strategaethau Iechyd a Llesiant yng Nghymru
Adran 37 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 8 ac Atodlen 9 a bennir isod:— Mân ddiwygiadau canlyniadol a diddymiadau
Yn Atodlen 8—Paragraff 1;Paragraff 2;Paragraff 3;Paragraff 4(1),(2)(b) ac (c);Paragraff 8;Paragraff 9;Paragraff 10;Paragraff 11;Paragraff 18;Paragraff 19;Paragraff 20;Paragraff 21;Paragraff 22;Paragraff 23;Paragraff 24;Paragraff 25;Paragraff 26;Paragraff 27;Paragraff 30;Paragraff 31;Paragraff 32;Paragraff 33;Paragraff 34;Paragraff 36;Paragraff 37. 
Yn Atodlen 9, i'r graddau y mae'n ymwneud â Chymru, diddymu:— 
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (C.49):Yn adran 22(1A), y gair “or” ar ddiwedd paragraff (c); adran 28(A)(1), y gair “and” ar ddiwedd paragraff (a); adran 29B(3), y gair “or” ar ddiwedd paragraff (b); yn adran 33(1A)(b), y geiriau “for areas in Wales”; yn adran 44(2), y geiriau “with the approval of the Health Authority”; adran 51(3), y gair (“and”) ar ddiwedd paragraff (bb); adran 97(6)(bb) ac (c) ac (8); adran 125, y gair “and” ar ddiwedd paragraff (bb); adran 126(4A), y gair “or” ar ddiwedd paragraff (b) ac yn Atodlen 12A, ym mharagraff 4(2) y gair “or” ar ddiwedd paragraff (a), ym mharagraff 5(1) y gair “and” ar ddiwedd paragraff (a), ym mharagraff 5(2) y gair “or” ar ddiwedd paragraff (a) ac ym mharagraff 7(3) “or Primary Care Trust”. 
Deddf Comisiynwyr y Gwasanaeth Iechyd 1993 (C.46):Yn adran 2, yn is-adran (2)(a), y geiriau “whose areas are in Wales”. 
Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38):Yn Atodlen 5, ym mharagraff 20, y geiriau “for an area in, or consisting of, Wales” ac yn Atodlen 17 ym mharagraff 12, y geiriau “for an area in, or consisting of, Wales”. 
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49):Yn adran 97D(1) (b), y geiriau “apart from subsection (5A)”. 
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19):Yn adran 12(4), y geiriau ar ôl paragraff (b). 
Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19):Yn atodlen 10, paragraff 11(4). 
Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17):Adran 1 ac yn Atodlen 1, paragraffau 32(b), 53 a 107(12)(b). 
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46):Yn Atodlen 2, paragraffau 71(3), 73 a 75. 
Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38):Adran 148. 
Deddf Iechyd 1999 (p. 8):Yn Atodlen 4, paragraffau 5, 31(2) a 35. 
Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15):Adrannau 1(4) a (5), 3(3) (4) a 43(5) ac yn Atodlen 5, paragraff 5(12)(b). 