
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2002; mae'n gymwys i Gymru a daw i rym ar 30 Medi 2002.
2 

(1) Diwygir Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 yn unol â darpariaethau canlynol yr erthygl hon.
(2) Yn erthygl 2, dilëir y diffiniad o “hela” (“hunting”).
(3) Yn lle erthygl 3(3)(dd), rhoddir y canlynol—“
(dd) hwrdd neu afr o'r naill ryw neu'r llall, sef anifail sy'n cael ei ddychwelyd i'r safle hwnnw o le yr oedd wedi'i symud iddo at ddibenion bridio ar yr amod ei fod yn cael ei ynysu oddi wrth bob anifail arall sydd yno am 20 diwrnod ar ôl dyddiad ei ddychweliad oni bai, yn achos gafr, ei bod yn cael ei hanfon yn ôl i'r lle hwnnw ar gyfer ymgais pellach i fridio, a'r afr honno wedi cael ei hynysu felly ers dyddiad ei dychwelyd;”.
(4) Yn erthygl 3 (10), yn lle'r geiriau “arolygydd milfeddygol” rhoddir “arolygydd”.
(5) Yn lle erthygl 3(11), rhoddir y canlynol—“
(11) Caiff hysbysiad a ddyroddwyd o dan baragraff (10) gael ei amrywio neu ei ddirymu ar unrhyw bryd drwy hysbysiad ysgrifenedig pellach a ddyroddir gan—
(a) arolygydd milfeddygol, os cafodd yr hysbysiad sydd i'w amrywio neu ei ddirymu ei ddyroddi gan arolygydd milfeddygol; neu
(b) arolygydd milfeddygol neu unrhyw arolygydd arall, os cafodd yr hysbysiad sydd i'w amrywio neu i'w ddirymu ei ddyroddi gan arolygydd ac eithrio arolygydd milfeddygol.
(11A) Rhaid cyflwyno hysbysiad a ddyroddwyd o dan baragraff (11) i'r personau y cyflwynwyd yr hysbysiad y mae'n ei amrywio neu'n ei ddirymu iddynt.”.
(6) Yn lle erthygl 4(b), rhoddir y canlynol—“
(b) dderbyn o ladd-dy
(i) unrhyw fochyn, neu
(ii) unrhyw anifail arall ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol.”.
(7) Dilëir erthygl 5.
(8) Yn erthygl 6(3) dilëir y geiriau “neu 5(2)(b)”.
(9) Yn lle'r geiriau “er mwyn gwneud dau neu ragor o safleoedd yn” yn erthygl 6(4), rhoddir “mewn perthynas â”.
(10) Yn erthygl 9(1), yn lle “bydd y swyddog neu'r arolygydd yn peri” rhoddir “caiff y swyddog neu'r arolygydd beri”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar:
J.E. Randerson
Y Gweinidog Dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg
27 Medi 2002Llofnodwyd ar:
Whitty
Is-ysgrifennydd Gwladol,
Adran yr Amgylchedd,
Bwyd a Materion Gwledig
28 Medi 2002