
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2002; mae'n gymwys i Gymru yn unig a daw i rym ar 1 Awst 2002.
2 

(1) Diwygir Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002  yn unol â darpariaethau canlynol yr erthygl hon.
(2) Yn erthygl 2—
(a) cyn y diffiniad o “crynhoad anifeiliaid”, mewnosodir y diffiniad canlynol—“
 ystyr “anifeiliaid” (“animals”) yw gwartheg (ac eithrio buail a iacod), ceirw, geifr, defaid a moch;”.
(b) cyny diffiniad o “diheintydd a gymeradwywyd”, ychwanegir y diffiniad canlynol—“
 mae “cyfarpar” (“equipment”) yn cynnwys corlannau a chlwydi;”.
(3) Yn yr Atodlen—
(a) ym mharagraffau 1 a 2, ym mhob man y ceir y geiriau “28 diwrnod”, rhoddir y geiriau “27 diwrnod” fel y bo'n briodol;
(b) ym mharagraff 1(b) yn lle'r geiriau “ar y corlannau, clwydi ac unrhyw gyfarpar arall” rhoddir y geiriau “ar yr holl gyfarpar”; ac
(c) ym mharagraff 4, dilëir y geiriau “corlannau, clwydi ac” ac “arall”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 31 Gorffennaf 2002
D. Elis-Thomas
Y Llywydd
Llofnodwyd ar 31 Gorffennaf 2002
Whitty
Yr Is-Ysgrifennydd Seneddol
Adran yr Amgylchedd,
Bwyd a Materion Gwledig
