
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Consesiynau Teithio (Gwasanaethau Cymwys) (Cymru) 2002 ac mae'n dod i rym ar 14 Awst 2002.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2 
Yn y Gorchymyn hwn mae gan y termau “person oedrannus” a “person anabl” yr un ystyr ag sydd gan “elderly person” a “disabled person” yn adran 146 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000.
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) o'r erthygl hon, mae gwasanaeth yn wasanaeth cymwys o dan adran 94 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 ac o dan adran 146 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 os yw'n perthyn i un o'r dosbarthau canlynol—
(a) gwasanaeth lleol sy'n cael ei ddarparu neu'i sicrhau—
(i) gan awdurdod addysg lleol yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 509 o Ddeddf Addysg 1996, neu
(ii) ar gyfer personau oedrannus neu bersonau anabl,
ac y mae'r amodau a restrir ym mharagraff (2) wedi'u bodloni mewn perthynas â hwy;
(b) gwasanaeth lleol, nad yw'n wasanaeth a ddisgrifir ym mharagraff (1)(a), ac sy'n defnyddio cerbyd a addaswyd i gario mwy nag wyth o deithwyr (neu gerbyd llai, ond dim ond os yw'r gwasanaethau yn cael eu gweithredu yn unol ag amserlen) ac y mae'r amodau a restrir ym mharagraff (3) wedi'u bodloni mewn perthynas ag ef;
(2) Yr amodau y mae paragraff (1)(a) yn cyfeirio atynt yw—
(a) bod seddau ar y cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i ddarparu'r gwasanaeth ar gael, fel arfer, i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol a bod yr aelodau hynny'n defnyddio'r gwasanaeth yn rheolaidd;
(b) bod y mannau aros (ac eithrio'r mannau y mae'r gwasanaeth yn cael ei ddaparu'n bennaf iddynt neu ohonynt) wedi'u lleoli mewn mannau lle byddant yn debygol o gael eu defnyddio yn rhesymol aml gan aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol;
(c) bod yr aelodau hynny o'r cyhoedd yn gallu gwneud taith unigol rhwng unrhyw ddau fan aros trwy dalu pris tocyn nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaeth;
(ch) bod yr aelodau hynny yn gallu talu'r pris tocyn mewn man ac mewn ffordd nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaeth; a
(d) bod trefniadau wedi'u gwneud sy'n rhoi cyfle rhesymol i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol gael gwybod am fodolaeth y gwasanaeth, yr amserau y mae ar waith, a'r mannau y mae'n eu gwasanaethu.
(3) Yr amodau y mae paragraff (1)(b) yn cyfeirio atynt yw—
(a) bod o leiaf hanner y lle ar y cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i ddarparu'r gwasanaeth ar gael, fel arfer, i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol a bod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd gan yr aelodau hynny;
(b) bod y mannau aros wedi'u lleoli mewn mannau lle byddant yn debygol o gael eu defnyddio yn rhesymol aml gan aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol;
(c) bod yr aelodau hynny yn gallu gwneud taith unigol rhwng unrhyw ddau fan aros trwy dalu pris tocyn nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaeth;
(ch) bod yr aelodau hynny yn gallu talu'r pris tocyn mewn man ac mewn ffordd nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro'n fwriadol rhag defnyddio'r gwasanaeth;
(d) nad oes ar y cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i ddarparu'r gwasanaeth unrhyw arwydd na disgrifiad sydd wedi'i fwriadu neu sy'n debygol o roi'r argraff bod y gwasanaeth ond ar gael ar gyfer categori penodol o berson; ac
(dd) bod trefniadau wedi'u gwneud sy'n rhoi cyfle rhesymol i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol gael gwybod am fodolaeth y gwasanaeth, yr amserau y mae ar waith, a'r mannau y mae'n eu gwasanaethu.
(4) Dim ond ar ôl i effaith adran 92 o Ddeddf Cyllid 1965 ddod i ben oherwydd dyfodiad i rym adran 154(6) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000, mewn perthynas â Chymru, y bydd y rheoliad hwn yn cael effaith.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Gorffennaf 2002