
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2002 ac maent yn dod i rym ar 14 Awst 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae gan “gwasanaeth lleol” yr un ystyr ag sydd gan “local service” yn adran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985;
 ystyr “gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr” (“public passenger transport services”) yw'r holl wasanaethau hynny y mae aelodau o'r cyhoedd yn dibynnu arnynt er mwyn symud o le i le, pan nad ydynt yn dibynnu ar eu cyfleusterau preifat eu hunain;
 mae gan “man aros” yr un ystyr â “stopping place” yn adran 137(1) o Ddeddf Trafnidiaeth 1985;
 mae gan “person anabl” yr un ystyr â “disabled person” yn adran 1 o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995.
3 

(1) Mae gwasanaeth bysiau yn wasanaeth bysiau cymwys at ddibenion adran 152 Deddf Trafnidiaeth 2000 (grantiau i weithredwyr gwasanaethau bysiau) os yw'n perthyn i un o'r dosbarthau canlynol—
(a) gwasanaeth lleol sy'n cael ei ddarparu neu'i sicrhau—
(i) gan awdurdod addysg lleol yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 509 o Ddeddf Addysg 1996, neu
(ii) ar gyfer personau sydd wedi cyrraedd trigain oed neu bersonau anabl,
ac y mae'r amodau a restrir ym mharagraff (2) wedi'u bodloni mewn perthynas â hwy;
(b) gwasanaeth lleol, nad yw'n wasanaeth a ddisgrifir ym mharagraff (1)(a), ac sy'n defnyddio cerbyd a addaswyd i gario mwy nag wyth o deithwyr (neu gerbyd llai, ond dim ond os yw'r gwasanaethau yn cael eu gweithredu yn unol ag amserlen) ac y mae'r amodau a restrir ym mharagraff (3) wedi'u bodloni mewn perthynas ag ef;
(c) gwasanaeth bysiau sy'n cael ei ddarparu gan weithredwr y mae trwydded o dan adran 19 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 wedi ei rhoi iddo ac sy'n dal mewn grym, a hwnnw'n wasanaeth y mae'r amodau a restrir ym mharagraff (4) wedi'u bodloni mewn perthynas ag ef.
(2) Yr amodau y mae paragraff (1)(a) yn cyfeirio atynt yw—
(a) bod seddau ar y cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i ddarparu'r gwasanaeth ar gael, fel arfer, i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol a bod yr aelodau hynny yn defnyddio'r gwasanaeth yn rheolaidd;
(b) bod y mannau aros (ac eithrio'r mannau y mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu'n bennaf iddynt neu ohonynt) wedi'u lleoli mewn mannau lle byddant yn debygol o gael eu defnyddio yn rhesymol aml gan aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol;
(c) bod yr aelodau hynny o'r cyhoedd yn gallu gwneud taith unigol rhwng unrhyw ddau fan aros trwy dalu pris tocyn nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaeth;
(ch) bod yr aelodau hynny yn gallu medru talu'r pris tocyn mewn man ac mewn ffordd nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaeth; a
(d) bod trefniadau wedi'u gwneud sy'n rhoi cyfle rhesymol i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol gael gwybod am fodolaeth y gwasanaeth, yr amserau y mae ar waith, a'r mannau y mae'n eu gwasanaethu.
(3) Yr amodau y mae paragraff (1)(b) yn cyfeirio atynt yw—
(a) bod o leiaf hanner y lle ar y cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i ddarparu'r gwasanaeth ar gael, fel arfer, i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol a bod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd gan yr aelodau hynny;
(b) bod y mannau aros wedi'u lleoli mewn mannau lle byddant yn debygol o gael eu defnyddio yn rhesymol aml gan aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol;
(c) bod yr aelodau hynny yn gallu gwneud taith unigol rhwng unrhyw ddau fan aros trwy dalu pris tocyn nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaeth;
(ch) bod aelodau felly o'r cyhoedd yn medru talu'r tâl tocyn mewn man ac mewn ffordd sydd ddim yn eu rhwystro'n fwriadol rhag defnyddio'r gwasanaeth;
(d) nad oes ar y cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i ddarparu'r gwasanaeth unrhyw arwydd na disgrifiad sydd wedi'i fwriadu neu sy'n debygol o roi'r argraff bod y gwasanaeth ond ar gael ar gyfer categori penodol o berson; ac
(dd) bod trefniadau wedi'u gwneud sy'n rhoi cyfle rhesymol i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol gael gwybod am fodolaeth y gwasanaeth, yr amserau y mae ar waith a'r mannau y mae'n eu gwasanaethu.
(4) Yr amodau y mae paragraff (1)(c) yn cyfeirio atynt yw bod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio yn gyfangwbl neu yn bennaf gan—
(a) personau sydd wedi cyrraedd 60 mlwydd oed;
(b) personau anabl;
(c) personau sy'n cael cymhorthdal incwm o dan adran 124 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;
(ch) personau sy'n cael lwfans ceisio gwaith o dan Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995;
(d) pobl sydd yn dioddef rhywfaint o allgáu cymdeithasol oherwydd diweithdra, tlodi neu ffactorau economaidd eraill, digartrefedd, pellenigrwydd daearyddol, afiechyd, neu arferion crefyddol neu ddiwylliannol;
(dd) personau sy'n credu na fyddai'n ddiogel iddynt ddefnyddio unrhyw wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr; neu
(e) gofalwyr neu pobl o dan 16 mlwydd oed sy'n teithio gydag unrhyw rai o'r blaenorol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Gorffennaf 2002