
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pysgod Cregyn (Dynodi Cramenogion) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 5 Awst 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru ac i'r môr gerllaw Cymru hyd at ffin forol y môr tiriogaethol.
2 
Pennir drwy hyn grancod at ddibenion adran 1(1) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Gorffennaf 2002