
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Medi 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) 1990 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(2) (dehongli)—
(a) ar ôl y diffiniad o “bill of exchange”, rhoddir—“
 “competent authority” means an authority which is responsible for maintaining the official list in an EEA State;”;
(b) ar ôl y diffiniad o “deposit-taker”, rhoddir—“
 “EEA State” has the meaning given by Schedule 4 to the Financial Services and Markets Act 2000;”; ac
(c) ar ôl y diffiniad o “money market fund”, rhoddir—“
 “official list” in relation to the United Kingdom has the meaning given by section 103(1) of The Financial Services and Markets Act 2000 and in relation to any other EEA State means the equivalent list maintained by the competent authority of that State”.
(3) Yn rheoliad 2(1)—
(a) ym mharagraff (g), yn lle “Official List of The Stock Exchange” rhoddir “official list maintained by a competent authority”; a
(b) ym mharagraff (h), yn lle “Official List of the Stock Exchange” rhoddir “official list maintained by the competent authority in the United Kingdom”.
(4) Yn rheoliad 3, ym mharagraff (3)—
(a) yn is-baragraff (b), yn lle “made; and” rhoddir “made.”; a
(b) hepgorir is-baragraff (c).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Gorffennaf 2002