
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Awst 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Mae Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001 yn cael eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn Rheoliad 3 (Plant cymwys), hepgorwch baragraff (2)(b),
(b) yn Rheoliad 4 (Plant perthnasol)—
(i) yn lle paragraff (4) rhowch—“
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), nid yw unrhyw blentyn sydd wedi byw gyda pherson sy'n dod o fewn adran 23(4) o'r Ddeddf (“lleoliad teuluol”) am gyfnod parhaus o chwe mis neu fwy i fod yn blentyn perthnasol er ei fod yn dod o fewn adran 23A(2).”;
(ii) ar ôl paragraff (5) mewnosodwch—“
(6) Os
(a) yw lleoliad teuluol o fewn ystyr paragraff (4) wedi torri lawr ac mae'r plentyn yn peidio â byw gyda'r person o dan sylw, a
(b) yw cyfnod o chwe mis wedi mynd heibio ers dechrau'r lleoliad teuluol,
mae'r plentyn i'w drin fel plentyn perthnasol.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Gorffennaf 2002