
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 10 Gorffennaf 2002.
2 
Diwygir Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 yn unol â rheoliadau 3 i 18 o'r Rheoliadau hyn.
3 
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (Diffiniadau)—
(a) mewnosodwch y diffiniadau canlynol ar ôl y diffiniad o “amaethyddiaeth”—“
 mae i “arwynebedd porthiant” (“forage area”) yr un ystyr ag yn Erthygl 12(2)(b) o Reoliad Cyngor 1254/1999;
 ystyr “arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano” (“claimed forage area”) mewn perthynas â chais am lwfans iawndal, yw tir a nodwyd fel tir porthiant mewn cais am gymorth ardal ar gyfer y flwyddyn gynllun berthnasol;
 ystyr “awdurdod cymwys arall” (“other competent authority”) yw'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Gweinidogion yr Alban neu, yng Ngogledd Iwerddon, yr Adran Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig;”;
(b) yn y diffiniad o “ceisydd” (“claimant”) dilëwch y geiriau “a enwir yn daliad Tir Mynydd”;
(c) mewnosodwch y diffiniad canlynol ar ôl y diffiniad o “ceisydd” (“claimant”)“
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;”;
(ch) mewnosodwch y diffiniadau canlynol ar ôl y diffiniad o “IACS”“
 ystyr “lwfans iawndal” (“compensatory allowance”) yw lwfans iawndal sy'n daladwy yn unol â Phennod V o Deitl II o Reoliad y Cyngor 1257/1999;
 ystyr “lwfans tir llai ffafriol sy'n perthyn” (“related less favoured area allowance”) yw—
 mewn perthynas â Lloegr, Lwfans Fferm Tir Uchel;
 mewn perthynas â'r Alban, Cynllun Cymorth Tir Llai Ffafriol; a
 mewn perthynas â Gogoledd Iwerddon, Lwfans Iawndal Tir Llai Ffafriol;”;
(d) mewnosodwch y diffiniadau canlynol ar ôl y diffiniad o “person awdurdodedig”“
 ystyr “premiwm blynyddol defaid” (“sheep annual premium”) yw'r premiwm sy'n daladwy o dan Reoliadau Premiwm Blynyddol Defaid 1992.
 ystyr “premiwm buchod sugno” (“Suckler Cow Premium”) yw'r premiwm sy'n daladwy o dan Reoliadau Premiwm Buchnod Sugno 2001;”;
(dd) mewnosodwch y diffiniadau canlynol cyn y diffinad o “Rheoliad y Comisiwn 1750/1999”“
 ystyr “Rheoliadau 1994” (“the 1994 Regulations”) yw Rheoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal) 1994;
 ystyr “Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”) yw Rheoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal) 1996;
 ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal) 1999;”;
(e) yn y diffiniad o “Reoliad y Cyngor 3508/92” (“Council Regulation 3508/92”) mewnosodwch ar ôl y geiriau “ar gyfer” “cynlluniau penodol o blith”;
(f) mewnosodwch y diffiniad canlynol ar ôl y diffiniad o “Rheoliad y Cyngor 3508/92”“
 ystyr “Rheoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal)” (“Hill Livestock (Compensatory Allowances) Regulations”) yw Rheoliadau 1994, 1996 neu Reoliadau 1999 fel y bo'r achos;”;
(ff) mewnosodwch y diffiniadau canlynol ar ôl y diffiniad o “coetir”“
 ystyr “taliad iawndal cyntaf” (“first compensatory payment”) yw'r taliad Tir Mynydd cyntaf sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn neu pan fo lwfans iawndal wedi cael ei dalu o dan y Rheoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal), y taliad cyntaf o'r lwfans hwnnw;
 ystyr “Taliad Tir Mynydd” (“Tir Mynydd payment”) yw'r taliad iawndal sy'n daladwy yn unol â'r Rheoliadau hyn;
 ystyr “tir cymhwysol” (“qualifying land”) yw'r tir perthnasol, neu mewn perthynas â cheisydd y mae rheoliad 3A yn gymwys iddo, y rhan honno o'r tir perthnasol sy'n weddill o'r didyniadau sy'n cael eu gwneud i'r tir perthnasol yn unol â'r rheoliad hwnnw;”;
(g) rhowch y diffiniad canlynol yn lle'r diffiniad o “tir cymwys”—“
 ystyr “tir cymwys” (“eligible land”) yw'r rhan honno o'r tir cymhwysol, sy'n gorwedd o fewn tir llai ffafriol;”;
(ng) mewnosodwch y diffiniadau canlynol cyn y diffiniad o “tir tan anfantais”—“
 ystyr “tir llai ffafriol sy'n perthyn” (“related less favoured area”) yw, mewn perthynas â cheisydd, yr holl arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano, ac eithrio tir llai ffafriol, y cynghorodd awdurdod cymwys arall y Cynulliad Cenedlaethol fod y ceisydd yn gymwys i gael lwfans tir llai ffafriol sy'n perthyn amdano;
 ystyr “tir perthnasol” (“relevant land”) yw unrhyw arwynebedd porthiant y gwenir cais amdano sydd wedi'i leoli yng Nghymru;”;
(h) yn y diffiniad o “uned da byw” (“livestock unit) yn lle paragraffau (a), (b) ac (c) rhowch y paragraffau canlynol—“
(a) un fuwch sugno neu heffer sy'n 24 mis oed neu'n hŷn;
(b) 1.67 heffer o dan 24 mis oed;
(c) 6.67 mamog;”;
4 
Mewnosodwch y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 2—“
2A 
Bydd y Cynulliad Cenedlaethol, mewn perthynas â blwyddyn gynllun, yn gwneud taliad Tir Mynydd sydd wedi'i gyfrifo yn unol â'r Atodlen â'r i geiswyr cymwys ynglyn â'u tir cymwys.”.
5 
Rhowch y rheoliad canlynol yn lle rheoliad 3 (Ceiswyr cymwys)—“
3 

(1) Bydd ceiswyr yn gymwys i gael taliad Tir Mynydd mewn perthynas â blwyddyn gynllun ar yr amod bod—
(a) cais am daliad wedi'i wneud mewn perthynas â'r flwyddyn gynllun honno drwy gais am gymorth arwynebedd dilys a bod yr arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano, os o gwbl, yn cydymffurfio ag un o'r amodau a bennir ym mharagraff (2); a
(b) y ceisydd wedi cyflwyno cais am gymorth da byw mewn perthynas â defaid neu fuchod sugno neu'r ddau ohonynt mewn perthynas â'r flwyddyn y cyflwynwyd cais yn ei chylch am daliad Tir Mynydd; ac
(c) y ceisydd wedi defnyddio arferion ffermio da arferol sy'n cyd-fynd â'r angen i ddiogelu'r amgylchedd a chynnal cefn gwlad, yn benodol drwy ffermio cynaliadwy; a
(ch) y ceisydd wedi rhoi ymrwymiad ysgrifenedig y bydd yn ffermio o leiaf 3 hectar o dir sydd naill ai'n dir cymwys neu'n dir llai ffafriol sy'n perthyn a pharhau i wneud hynny am gyfnod o 5 mlynedd o ddyddiad y taliad iawndal cyntaf ac nad yw'r ceisydd hwnnw'n torri'r ymrwymiad hwnnw ar ddyddiad y taliad.
(2) Y canlynol yw'r amodau—
(a) bod nid llai na 6 hectar o'r arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano o fewn y tir llai ffafriol; neu
(b) os nad yw'r arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano sy'n gorwedd o fewn y tir llai ffafriol yn llai na 1 hectar ond yn llai na 6 hectar, mae cyfanswm yr arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano yn cynnwys tir sydd wedi'i leoli o fewn tir llai ffafriol sy'n perthyn ac sy'n gymwys i gael lwfans tir llai ffafriol sy'n perthyn.”.
6 
Mewnosodwch y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 3—“
3A 

(1) Pan fo gan geisydd swmp cyfeiriol unigol o laeth ar gael, bydd gostyngiad sy'n cael ei gyfrifo yn unol â darpariaethau paragraff (2) yn cael ei gymhwyso i dir perthnasol y ceisydd.
(2) Bydd y gostyngiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn cael ei gyfrifo yn unol ag is-baragraffau (i) i (iii)—
(i) yn gyntaf, cyfrifir nifer yr unedau da byw yn y fuches laeth dybiannol drwy rannu'r swmp cyfeiriol unigol o laeth sydd ar gael i'r ceisydd gan 5730, sef nifer y litrau o laeth y tybir ei fod yn gyfwerth â chynnyrch blynyddol un fuwch odro;
(ii) am bob hectar o ddaliad y ceisydd nad yw o fewn tir llai ffafriol, gostyngir nifer yr unedau da byw a gyfrifir yn unol â pharagraff (i) o 2 uned;
(iii) defnyddir nifer yr unedau da byw sy'n weddill ar ôl cymhwyso is-baragraff (ii) er mwyn cyfrifo'r gostyngiad yn y tir perthnasol drwy ostwng arwynebedd y tir hwnnw o 1 hectar ar gyfer pob 2 uned da byw sy'n weddill, ac mae'r gostyngiad i'w gymhwyso'n llawn mewn perthynas â thir dan anfantais cyn ei gymhwyso i dir dan anfantais difrifol.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y fuches laeth dybiannol” (“notional dairy herd”) yw cyfanswm yr anifeiliad y bernir eu bod yn fuches laeth ar dir sy'n cael ei ffermio gan y ceisydd yng Nghymru fel y'i cyfrifwyd uchod ac mae i “swmp cyfeiriol unigol o laeth” yr un ystyr ag i “individual reference quantity of milk” yn Erthygl 31 o Reoliad y Comisiwn (EC) 2342/1999.”.
7 
Mewnosodwch y paragraffau canlynol yn rheoliad 4 (Y dwysedd stocio isaf), ar ôl paragraff (2)—“
(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu bod dwysedd stocio o lai na 0.1 yn ddigonol at ddibenion paragraff (1) os yw wedi'i fodloni'n rhesymol ei bod yn addas gwneud hynny o ystyried holl amgylchiadau'r achos, ac o ddwyn i ystyriaeth, yn benodol, nifer y mamogiaid a/neu fuchod sugno nad ydynt yn destun cais am bremiwm o dan Gynllun Premiwm Blynyddol Defaid a/neu Gynllun Premiwm Buchod Sugno, ac unrhyw rwymedigaeth ar ran y ceisydd yngylch y nifer o famogiaid a/neu fuchod sugno y ceir eu cadw ar y tir sy'n cynnwys y tir cymwys, mewn perthynas â'r flwyddyn y mae'r cais am daliad Tir Mynydd yn cael ei gyflwyno ynddi.
(4) Er mwyn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i ystyried a ddylai arfer ei ddisgresiwn o dan baragraff (3), rhaid i'r ceisydd ddarparu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol y fath wybodaeth y gall yn rhesymol ei fynnu.”.
8 
Mewnosodwch y paragraff canlynol yn rheoliad 6 (Cyfrifo taliadau arwynebedd — elfen 1), ar ôl paragraff (3)—“
(4) Wedi ymgymryd â'r cyfrifiad sylfaenol yn unol â Rhan A o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, gall y Cynulliad Cenedlaethol, os gwêl yn dda, gynyddu'r swm a gyfrifwyd o ganran y gall benderfynu arni ar yr amod bod yr un cynnydd yn y ganran yn cael ei gymhwyso i bob ceisydd.”.
9 
Yn rheoliad 7 (Taliad chwyddo amgylcheddol o dan elfen 2 o'r cynllun)—
(a) ym mharagraff (2) cyn y geiriau “10 y cant”, mewnosodwch y geiriau “hyd at”;
(b) ym mharagraff (3) cyn y geiriau “20 y cant”, mewnosodwch y geiriau “hyd at”.
10 
Mewnosodwch ym mharagraff (b) o reoliad 8 (Categorïau sy'n gymwys ar gyfer y taliad chwyddo amgylcheddol) ar ôl y gair “thir” y geiriau “sydd wedi cwblhau'i drosi ac”.
11 
Yn rheoliad 9 (Taliadau), dilewch baragraffau (2) a (3).
12 
Yn rheoliad 10 (Ceisiadau), rhowch y paragraff canlynol yn lle paragraff (3)—“
(3) Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais am daliad Tir Mynydd mewn perthynas â blwyddyn gynllun yw 15 Mai. Gall cyflwyno cais yn hwyr arwain at gosbau a fydd yn cael eu cyfrifo yn unol â darpariaethau Erthygl 13 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2419/2001 dyddiedig 11 Rhagfyr 2001 sy'n cyflwyno rheolau manwl er mwyn cymhwyso'r system integredig gweinyddu a rheoli ar gyfer rhai cynlluniau o blith Cynlluniau cymorth y Gymuned a sefydlwyd gan Reoliad y Cyngor 3508/1992.”.
13 
Dilëwch Reoliad 11 (Ceisiadau hwyr).
14 
Yn rheoliad 12 (Rhyddhau o ymrwymiadau)
(a) yn lle'r geiriau “rheoliad 9(2)” rhowch y geiriau “rheoliad 3(1)(ch)”, a
(b) ym mharagraff (c) yn lle'r gair “chwe” rhowch y gair “dri” ac ar ôl y gair “cymwys” rhowch y geiriau “neu unrhyw dir llai ffafriol sy'n perthyn”.
15 
Yn rheoliad 13 (Cadw'n ôl neu adennill taliadau) ym mharagraff (a), yn lle'r geiriau “reoliad 9(2)” rhowch y geiriau “reoliad 3(1)(ch)”.
16 
Yn rheoliad 14 (Cyfradd Llog)—
 yn lle'r geiriau “adeg talu i'r ceisydd” rhowch y geiriau “ddyddiad yr hysbysiad i'r ceisydd o fwriad y Cynulliad Cenedlaethol i adennill yn y fath fodd”.
17 
Dilëwch reoliad 15 (Daliadau Trawsffiniol).
18 
Yn yr Atodlen—
(a) rhowch y canlynol yn lle Rhan A—“
Rhan A
1 
Cyfrifir y taliad sylfaenol o dan elfen un y cynllun Tir Mynydd drwy luosi tir cymwys ceisydd wrth y gyfradd neu'r cyfraddau priodol a nodir ym mharagraff 2.
2 
Y cyfraddau y cyfeirir atynt ym mharagraff 1 yw—
(a) £23.00 yr hectar ar gyfer tir tan anfantais; a
(b) £35.00 yr hectar ar gyfer tir tan anfantais ddifrifol.”.
(b) yn lle paragraff 4 o Ran C, rhowch y paragraff canlynol—“
4 
Ym mlwyddyn 2003, bydd gan y ceisydd yr hawl i swm ychwanegol a fyddai, pan fydd wedi'i ychwanegu at y taliad Tir Mynydd yn creu cyfanswm o 50% o'r swm a dalwyd i'r ceisydd ar gyfer HLCA ym mlwyddyn 2000.”.
19 
Diwygir Rheoliadau Tir Mynydd (Daliadau Trawsffiniol) (Cymru) 2001  yn unol â rheoliadau 20 a 21 o'r rheoliadau hyn.
20 
Yn rheoliad 2 (Diffiniadau), dilewch baragraff (2).
21 
Yn rheoliad 4 (Diffiniad o awdurdod cymwys) ym mharagraff 2(c) yn lle'r geiriau “y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd” rhowch y geiriau “yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Gorffennaf 2002