
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Swn (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 1 Awst 2002.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2 
Mae Codau Ymarfer canlynol y Sefydliad Safonau Prydeinig (“British Standards Institution”) wedi'u cymeradwyo fel codau addas ar gyfer rhoi cyfarwyddyd ar leiafu sŵ n:
(a) y Cod Ymarfer ar wybodaeth a gweithdrefnau sylfaenol ar gyfer rheoli sŵ n a dirgryniad, sy'n dwyn y rhif BS 5228: Rhan 1: 1997 gan ymgorffori Diwygiad Rhif 1, a ddaeth i rym ar 15 Ebrill 1999 (ac sy'n ymwneud â chyflawni gwaith y mae adran 60 o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974 yn gymwys iddo, ymhlith pethau eraill);
(b) y Cod Ymarfer sy'n gymwys i echdynnu glo arwyneb drwy ddefnyddio dulliau cloddio brig, sy'n dwyn y rhif BS 5228: Rhan 3: 1997, a ddaeth rym ar 15 Mai 1997;
(c) y Cod Ymarfer ar gyfer rheoli sŵ n a dirgryniad sy'n gymwys i waith gosod pyst, sy'n dwyn y rhif BS 5228: Rhan 4: 1992, a ddaeth i rym ar 1 Mai 1992, fel y'i diwygiwyd gan Ddiwygiad Rhif 1 a ddaeth i rym ar 15 Gorffennaf 1993 (ac sy'n ymwneud â chyflawni gwaith y mae adran 60 o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974 yn gymwys iddo, ymhlith pethau eraill); ac
(ch) y Cod Ymarfer sy'n gymwys i safleoedd echdynnu mwynau (heblaw glo) arwyneb, sy'n dwyn y rhif BS 5228: Rhan 5: 1997, a ddaeth i rym ar 15 Tachwedd 1997.
3 
Mae Gorchymyn Rheoli Sŵ n (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) 1984 a Gorchymyn Rheoli Sŵ n (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) 1987 wedi'u diddymu mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Gorffennaf 2002