
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Digartrefedd 2002 (Cychwyn) (Cymru) 2002 ac mae'n gymwys i Gymru yn unig.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Digartrefedd 2002 (“y Ddeddf”) ac Atodlenni iddi.
2 

(1) Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â'r darpariaethau a bennwyd yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym yng Nghymru yw 30 Medi 2002.
(2) Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â'r darpariaethau a bennwyd yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym yng Nghymru yw 27 Ionawr 2003.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Gorffennaf 2002
YR ATODLEN
Erthygl 2
RHAN 1
adran 1 (Dyletswydd ar awdurdod tai lleol i fformiwleiddio strategaeth digartrefedd)
adran 2 (Adolygiadau digartrefedd)
adran 3 (Strategaethau digartrefedd)
adran 4 (Adran 1 i 3: dehongli)
adran 5 (Darparu llety ar gyfer pobl nad yw eu hanghenion yn flaenoriaeth nad ydynt yn ddigartref o fwriad)
adran 6 (Diddymu'r isafswm cyfnod y mae awdurdod yn ddarostyngedig i brif ddyletswydd digartrefedd)
adran 7 (Digwyddiadau sy'n achosi'r prif ddyletswydd digartrefedd i ddod i ben)
adran 9 (Diddymu dyletswydd o dan adran 197)
adran 10 (Personau sy'n honni eu bod yn ddigartref sydd mewn perygl o drais)
adran 11 (Adran 204(4): apelau)
adran 12 (Cydweithredu mewn rhai achosion sy'n cynnwys plant)
adran 17 (Cymru)
adran 18 (Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau) — heblaw i'r graddau y mae'n berthnasol i'r darpariaetha yn yr Atodlenni i'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn Rhan 2 o'r Atodlen hon.
adran 19 (Darpariaethau ariannol)
Atodlen 1 (Mân ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol) — heblaw am baragraffau 1 i 7 yn gynwysiedig
Yn Atodlen 2 (Diddymiadau),
Deddf Tai 1996 (p.52) Adran 191(4)Yn adran 193, yn is-adran(1), y geiriau o “This section” i'r diwedd, ac yn is-adran (8), y geiriau “of accommodation under Part VI”.Adran 194Yn adran 195, yn is- adran(2), y geiriau o “This subsection” i'r diwedd ac, yn is- adran (4), y geiriau o “and section” i “duty)”.Adran 196(4)Adran 197Yn adran 198(1), y geiriau o “The authority” i'r diwedd.Yn adran 200(5), y geiriau “(3) or (4)”.Yn adran 205(1) y cofnod mewn perthynas ag adran 207.Adran 207Yn adran 218, y cofnod ar gyfer “minimum period”
Deddf Mewnfudo a Lloches 1999 (p.33) Adran 117(4)
RHAN 2
adran 13 (Cymhwyso Rhan 6 ar gyfer tenantiaid presennol)
adran 14 (Diddymu'r ddyletswydd i gadw cofrestr tai)
adran 15 (Cais am lety tai)
adran 16 (Cynlluniau neilltuo)
adran 18 (Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau) — i'r graddau nad ydyw wedi dod i rym erbyn y dyddiad hwnnw
Atodlen 1 (Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) — paragraffau 1, 2, 4, 5 a 6
Atodlen 2 (Diddymiadau)
Deddf Tai 1985 (p.68) Yn adran 106(6), y geiriau “housing registers and”.
Deddf Tai 1996 (p.52) Adrannau 161 i 165.Yn adran 174, y cofnodion ar gyfer “housing register” a “qualifying person”.
Deddf Mewnfudo a Lloches 1999 (p.33) Adran 117 (3)