
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cyfyngu'r Defnydd ar Beledi Plwm) (Cymru) 2002 ac maent yn dod i rym ar 1 Medi 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “aderyn gwyllt” (“wild bird”) yw unrhyw aderyn o fath sy'n preswylio'n gyffredin yng Nghymru yn gyffedinol, neu syn ymweld â Chymru, mewn cyflwr gwyllt;
 ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cyfyngu'r Defnydd ar Beledi Plwm) (Cymru) 2001;
 ystyr “gwn cetris” (“shot gun”) yw gwn â baril llyfn ond nid yw'n cynnwys unrhyw wn cetris â siambr ar gyfer cetris ymyl-danio naw milimetr neu lai;
 ystyr “peledi plwm” (“lead shot”) yw unrhyw beledi sydd wedi'u gwneud—
(a) o blwm, neu
(b) o unrhyw aloi neu gyfansoddyn plwm a phlwm yn ffurfio mwy nag 1% o'r aloi neu'r cyfansoddyn hwnnw;
 ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw person a awdurdodwyd o dan reoliad 4(1) isod;
 mae “safle” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir, cerbyd neu gwch, ond nid yw'n cynnwys safle sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion preswyl;
 ystyr “safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig” (“site of special scientific interest”) yw ardal sydd wedi ei hysbysu o dan adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
3 
Ni chaiff neb ddefnyddio peledi plwm er mwyn saethu gyda gwn cetris—
(a) ar unrhyw fan islaw'r marc penllanw neu drosti;
(b) ar y safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a gynhwysir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau neu drostynt; neu
(c) unrhyw aderyn gwyllt a gynhwysir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau.
4 

(1) Gall person sy'n ymddangos yn addas i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei awdurdodi yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol i arfer, yn unol â thelerau'r awdurdod, unrhyw un o'r pwerau a bennir ym mharagraff (2) isod at ddiben penderfynu a dorrwyd unrhyw ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn.
(2) Dyma'r pwerau y gall person awdurdodedig gael ei awdurdodi i'w harfer o dan baragraff (1) uchod—
(a) mynd i mewn ar unrhyw adeg resymol i unrhyw safle y mae gan y person awdurdodedig le i gredu ei bod yn angenrheidiol mynd i mewn iddo;
(b) wrth fynd i mewn i unrhyw safle yn rhinwedd is-baragraff (a) uchod bod gydag ef—
(i) unrhyw berson awdurdodedig arall;
(ii) os bydd sail resymol dros ddisgwyl unrhyw rwystr difrifol a fyddai'n atal y person awdurdodedig rhag cyflawni ei ddyletswydd, gwnstabl; ac
(iii) unrhyw gyfarpar (heblaw cyfarpar trwm) neu ddefnyddiau y mae eu hangen at unrhyw ddiben mae'r pŵer mynediad ar ei gyfer;
(c) wneud unrhyw archwiliad ac ymchwiliad sy'n angenrhediol o dan yr amgylchiadau;
(ch) cymryd unrhyw aderyn gwyllt sy'n farw neu wedi'i anafu neu beri bod samplau yn cael eu cymryd o unrhyw eitemau neu sylweddau sy'n cael eu darganfod mewn neu ar unrhyw safle y mae gan y person awdurdodedig bŵ er i fynd i mewn iddo ac i beri bod unrhyw aderyn neu sampl felly yn cael ei ddadansoddi neu'i brofi;
(d) yn achos unrhyw aderyn neu sampl a grybwyllir yn is-baragraff (ch) uchod, cymryd meddiant ohono a'i gadw gyhyd ag y mae ei angen at y cyfan neu unrhyw rai o'r dibenion canlynol, sef—
(i) ei archwilio, neu beri iddo gael ei archwilio, ac i wneud unrhyw beth iddo y mae gan y person awdurdodedig bŵ er i'w wneud o dan yr is-baragraff hwnnw neu beri i hynny gael ei wneud;
(ii) sicrhau na fydd neb yn ymyrryd ag ef cyn bod yr archwiliad ohono wedi'i gwblhau;
(iii) sicrhau ei fod ar gael i'w ddefnyddio fel tystiolaeth mewn unrhyw achos llys ar gyfer tramgwydd.
(3) Pan fydd person awdurdodedig yn bwriadu mynd i mewn i unrhyw safle a—
(a) bod mynediad wedi cael ei wrthod a bod y person awdurdodedig yn disgwyl ar seiliau rhesymol y gall fod yn angenrheidiol defnyddio grym i lwyddo i fynd mewn; neu
(b) bod y person awdurdodedig yn disgwyl, ar seiliau rhesymol, y bydd mynediad yn debyg o gael ei wrthod ac y gall fod yn angenrheidiol i ddefnyddio grym i lwyddo i fynd i mewn,
rhaid mynd i mewn i'r safle hwnnw yn rhinwedd y rheoliadau hyn o dan awdurdod gwarant yn rhinwedd paragraff (4) isod yn unig.
(4) Os dangosir i ynad heddwch drwy dystiolaeth ysgrifenedig ar lw—
(a) bod yna seiliau rhesymol dros arfer, mewn perthynas ag unrhyw safle, bŵer o dan y rheoliad hwn (gan gynnwys pŵer sy'n arferadwy yn unol â gwarant o dan y paragraff hwn), a
(b) bod un neu fwy o'r amodau a bennir ym mharagraff (5) isod wedi ei gyflawni,
gall yr ynad awdurdodi'r Cynulliad Cenedlaethol trwy warant i ddynodi person a awdurdodir i arfer y pŵer mewn perthynas â'r safle, yn unol â'r warant a thrwy rym os bydd angen.
(5) Yr amodau a grybwyllir yn is-baragraff 4(b) uchod yw—
(a) bod arfer y pŵer mewn perthynas â'r safle wedi'i wrthod;
(b) y disgwylir yn rhesymol y bydd yn cael ei wrthod;
(c) bod y safle heb ei feddiannu;
(ch) bod y meddiannydd yn absennol dros dro o'r safle a bod yr achos yn un brys; neu
(d) y byddai cais am fynediad i'r safle yn trechu diben y mynediad arfaethedig.
(6) Bydd pob gwarant a roddwyd o dan baragraff (4) uchod yn parhau mewn grym nes bod y dibenion y rhoddwyd y gwarant ar eu cyfer wedi eu cyflawni.
(7) Rhaid i berson awdurdodedig, neu berson a ddynodwyd o dan baragraff (4) uchod, ddangos tystiolaeth am yr awdurdod neu'r dynodiad (os gofynnir iddo wneud hynny).
(8) Rhaid i berson awdurdodedig, neu berson a ddynodwyd o dan baragraff (4) uchod, sydd, trwy arfer unrhyw bŵ er a roddir gan y rheoliad hwn, yn mynd i mewn i unrhyw safle nad yw wedi'i feddiannu neu y mae ei feddiannydd yn absennol dros dro, adael y safle wedi ei sicrhau yn erbyn tresmaswyr yr un mor effeithiol â chyn i'r person hwnnw fynd i mewn iddo.
(9) Ni fydd person awdurdodedig, neu berson a ddynodwyd o dan baragraff (4) uchod, yn atebol mewn unrhyw achos sifil na throseddol am unrhyw beth a wnaed trwy honni arfer unrhyw bŵ er a roddir gan y rheoliad hwn os bydd y llys wedi'i fodloni bod y weithred wedi ei chyflawni'n ddidwyll a bod seiliau rhesymol dros ei chyflawni.
5 

(1) Bydd unrhyw berson sy'n torri rheoliad 3 uchod neu sy'n peri neu'n caniatáu i unrhyw berson arall dorri'r rheoliad hwnnw yn euog o dramgwydd a bydd yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(2) Bydd unrhyw berson sy'n fwriadol yn rhwystro person sy'n gweithredu trwy arfer unrhyw bŵ er o dan reoliad 4 uchod yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.
6 
Diddymir Rheoliadau 2001.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Gorffennaf 2002
ATODLEN 1
Rheoliad 3(b)


Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Dyddiad Dynodi o dan adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 Lleoliad (Cyfeirnod Grid OS) (gweler y nodyn isod)
Angle Bay 04/03/1993 SM883025
Beddmanarch-Cymyran 25/09/1998 SH275790
Broadwater 13/01/1993 SH582027
Burry Inlet and Loughor Estuary 25/09/1989 SS135985
Carew and Cresswell Rivers 04/03/1993 SN025055
Cosheston Pill 04/03/1993 SM990036
Daugleddau 04/03/1993 SN003116
Dee Estuary 23/09/1998 SJ220800
Dyfi 14/03/1995 SN635950
Flatholm 10/03/1993 ST220649
Gronant Dunes / Talacre Warren 29/01/1998 SJ100847
Inner Marsh Farm 11/02/1995 SJ307735
Laugharne and Pendine Burrows 18/02/1990 SN290070
Llyn Alaw 29/03/1985 SH390865
Llyn Syfaddan / Llangorse Lake 09/02/1983 SO133265
Llyn Traffwll 18/02/1986 SH325770
Llynnoedd y Fali / Valley Lakes 22/05/1986 SH310770
Morfa Harlech 25/05/2001 SH570660
Ynys Llanddwyn / Newborough Warren 09/03/1995 SH400640
Pembrey Coast 10/11/1983 SN316054
Pembroke River and Pwll Crochan Flats 04/03/1993 SM940025
Severn Estuary 02/02/1989 ST226758
Shotton Lagoon and Reedbeds 19/10/1999 SJ298709
Sully Island 16/12/1986 ST167670
Teifi Estuary 08/12/1997 SN158502SN785675
Traeth Lafan 24/09/1984 SH630750
Whiteford Burrows and Landimore Marsh 04/04/1984 SS450955
Nodyn: Mae cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr Arolwg Ordnans yn rhoi pwynt o fewn y safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.
ATODLEN 2
Regulation 3(c)


Enw Cyffredin Enw Gwyddonol
Cwtiar Fulica Atra
Hwyaid a Gwyddau (holl rywogaethau pob un ohonynt) Anatidae
Iâr Ddŵ r Gallinula chloropus
Nodyn: Mae'r enw neu'r enwau cyffredin yn cael eu cynnwys fel canllaw yn unig; os bydd unrhyw anghydfod neu achos, rhaid peidio â chymryd yr enw neu'r enwau cyffredin i ystyriaeth.