
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2002.
2 
1 Ebrill 2002 yw'r diwrnod a benodir i'r Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 314(4) o Ddeddf Addysg 1996 ddod yn effeithiol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Ionawr 2002