
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 30 Gorffennaf 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4(1) yn lle “y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Mai 2000 ac yn gorffen ar 31 Gorffennaf 2002” rhoddir “y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Mai 2000 ac yn gorffen ar 31 Rhagfyr 2002”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Mehefin 2002