
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 31 Mai 2002.
2 

(1) Diwygir yr Atodlen i Reoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) 2001 fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 6, mewnosodwch ar ôl is-baragraff (a) “a”, a hepgorwch is-baragraff (c) a'r “ac” o'i flaen.
(3) Yn lle paragraff 8 rhowch—“
8 
Yr wybodaeth sy'n ymwneud ag—
(a) disgyblion sy'n ymadael â'r ysgol, neu'r gyflogaeth neu'r hyfforddiant y mae disgyblion yn dechrau arnynt wrth ymadael â'r ysgol; a
(b) absenoldeb awdurdodedig neu ddiawdurdod disgyblion,y mae'n ofynnol ei chyhoeddi yn llawlyfr yr ysgol yn unol â'r rheoliadau a wnaed o dan adran 537(1) o Ddeddf 1996.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mai 2002