
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 30 Medi 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
2 

(1) Mae Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) cyn y diffiniad o “blwyddyn ysgol” mewnosodwch y canlynol—
 ystyr “athro ysgol” (“school teacher”) yw athro neu athrawes a gyflogir mewn dim mwy na dwy ysgol, gan awdurdod addysg lleol neu gan gorff llywodraethu ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol arbennig sefydledig, ond nid yw'n cynnwys athro neu athrawes a gyflogir o dan gontract cyfnod penodol os yw'r cyfnod yn llai na blwyddyn;”.
(3) Ar ôl rheoliad 9 mewnosodir y rheoliad canlynol—“
10 

(1) Erbyn 30 Tachwedd 2002, rhaid i'r corff llywodraethu sefydlu polisi ysgrifenedig (“y Polisi Rheoli Perfformiad”) yn nodi sut mae gwerthuso athrawon ysgol i gael ei roi ar waith yn yr ysgol.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwerthuso athrawon ysgol” yw'r system o werthuso penaethiaid ac athrawon ysgol eraill a lywodraethir gan reoliadau a wneir o dan adran 49 o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986 (“y Rheoliadau Gwerthuso”).
(3) Os caiff ei gyfarwyddo gan y corff llywodraethu, rhaid i'r pennaeth lunio Polisi Rheoli Perfformiad.
(4) Rhaid i'r corff llywodraethu ystyried a mabwysiadu, gydag addasiadau neu hebddynt, neu wrthod, Polisi Rheoli Perfformiad a lunnir gan y pennaeth yn unol â pharagraff (3).
(5) Rhaid i'r corff llywodraethu adolygu'r Polisi Rheoli Perfformiad bob blwyddyn ysgol.
(6) Yn dilyn adolygiad o'r fath, os gwelant yn dda, bydd y corff llywodraethu'n diwygio'r Polisi Rheoli Perfformiad.
(7) Cyn sefydlu'r Polisi Rheoli Perfformiad yn unol â pharagraff (1), neu ei ddiwygio yn unol â pharagraff (6), rhaid i'r corff llywodraethu sicrhau yr ymgynghorir â phob athro ysgol yn yr ysgol.
(8) Os caiff ei gyfarwyddo gan y corff llywodraethu, rhaid i'r pennaeth ymgynghori â phob athro ysgol arall yn yr ysgol ynghylch llunio Polisi Rheoli Perfformiad neu ddiwygio Polisi Rheoli Perfformiad.
(9) Rhaid i'r pennaeth a'r corff llywodraethu roi'r Polisi Rheoli Perfformiad ar waith.
(10) Rhaid i'r corff llywodraethu drefnu bod copi o'r Polisi Rheoli Perfformiad ar gael i'w archwilio yn yr ysgol ar unrhyw adeg resymol—
(a) gan unrhyw athro ysgol a gyflogir yn yr ysgol;
(b) gan unrhyw berson sy'n ymwneud ag arolygu gweithredu'r system gwerthuso athrawon ysgol;
(c) gan unrhyw werthuswr a benodir yn unol â'r Rheoliadau Gwerthuso.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mai 2002