
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Diddymu) (Cymru) 2002; maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 15 Mai 2002.
2 
Mae Rheoliadau Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002  a Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2002 ) yn cael eu diddymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Mai 2002