
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Ehangu Ystyr “Gweithiwr Gofal Cymdeithasol”) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 30 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Gofal Cymru a sefydlwyd o dan adran 54(1) o'r Ddeddf;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000.
3 
At ddibenion y swyddogaeth sydd gan y Cyngor o dan adran 54(3) o'r Ddeddf yn unig mae personau o unrhyw un o'r disgrifiadau yn is-baragraffau (a) i (g) o baragraff (3) o adran 55 o'r Ddeddf i'w trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
25 Ebrill 2002