
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 9) (Cymru) 2002.
(2) Yn y Gorchymyn hwn mae cyfeiriad at adran yn gyfeiriad at adran yn Neddf Safonau Gofal 2000.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
2 

(1) At ddiben arfer unrhyw bŵ er i wneud gorchmynion, rheoliadau neu reolau neu i baratoi codau ymarfer a'u cyhoeddi yn unig, 30 Ebrill 2002 yw'r diwrnod a bennir i adrannau 56 i 62, 64(2) i (4) a 65 ddod i rym.
(2) 30 Ebrill 2002 yw'r diwrnod a bennir i adran 71 ddod i rym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
25 Ebrill 2002