
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn effeithiol mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2001 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Yn lle is-adran (12) o adran 32 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 rhoddir—“
(12) In relation to Wales, in this section and in section 33 below, “relevant special grant” means the special grant payable in accordance with the special grant report (Special Grant Report (No 2) (Wales) 2001) approved by the National Assembly for Wales pursuant to section 88B of the Act on 6th February 2001.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau
23 Chwefror 2001