
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Gofal (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 19 Chwefror 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
2 

(1) Yn y Rheoliadau Cynllun Tir Gofal (Land in Care) (Cymru) 1999 (“y prif Reoliadau”) gwneir y newidiadau canlynol i'r diffiniadau:—
(a) yn lle'r diffiniad o “the Commission Regulation”, mewnosoder y canlynol:—“
 “the Commission Regulation” (Rheoliad y Comisiwn) means Commission Regulation (EC) No. 1750/99 laying down detailed rules for the application of the Council Regulation;”
(b) yn lle'r diffiniad o “the Council Regulation”, mewnosoder y canlynol:—“
 “the Council Regulation” (Rheoliad y Cyngor) means means Council Regulation (EEC) No. 1257/99) on support for rural development from the European Agricultural Guidance and Guarantee Fund and amending certain Regulations and repealing others;”
(c) yn lle paragraff (b) o'r diffiniad o “agri-environment scheme” (cynllun amaeth-amgylchedd) mewnosoder y canlynol:—“
(b) approved by the Commission of the European Communities under Article 43 of the Council Regulation as part of a Rural Development Plan drawn up pursuant to the Council Regulation;”
(d) yn y diffiniad o “eligible person” (person cymwys) gwneir y newidiadau canlynol i'r cyfeiriadau at erthyglau yn Rheoliad y Comisiwn:
 “Article 31” yn lle “Article 10”;
 “Article 48(2)” yn lle “Article 20(2)”; ac
 “Article 48(3)” yn lle “Article 20(3)”.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y prif Reoliadau sy'n dwyn y rhif hwnnw.
3 

(1) Yn rheoliad 3(6) (Y pŵer i wneud cytundebau), rhodder “Article 20” yn lle “Article 13”.
(2) Yn rheoliad 8(4) (Hysbysu newid meddiannaeth), rhodder “Article 29” yn lle “Article 11” ac “Article 30” yn lle “Article 12”.
(3) Ym mharagraffau (1), (4) a (6) o reoliad 11 (Dal cymorth yn ôl a'i adennill), rhodder “Article 48” yn lle “Article 20” ac “Article 20(2)”.
(4) Yn rheoliad 12(1) a (2) (Adennill llog), rhodder “Article 48(1)” yn lle “Article 20(1)”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Chwefror 2001