
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2001.
(2) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 (“y prif Reoliadau”) yn cael eu diwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y Rheoliadau hyn.
3 
Mae rheoliad 2(1) o'r prif Reoliadau (dehongli) yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) mae'r diffiniad o “general anaesthesia list” yn cael ei hepgor;
(b) yn y diffiniad o “treatment” mae'r geiriau “general anaesthesia and” yn cael eu dileu.
4 
Mae rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (rhestr ddeintyddol) yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) ar ddiwedd paragraff 2(b)(ii) mae'r gair “and” yn cael ei fewnosod;
(b) ar ddiwedd paragraff 2(b)(iii) mae'r gair “and” yn cael ei ddileu;
(c) mae paragraff 2(b)(iv) yn cael ei hepgor.
5 
Mae rheoliad 5D o'r prif Reoliadau (rhestr anaesthesia gyffredinol) yn cael ei hepgor.
6 
Mae rheoliad 5E o'r prif Reoliadau (dileu cofnodion o'r rhestr anaesthesia gyffredinol neu ei diwygio) yn cael ei hepgor.
7 

(1) Mae Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (telerau gwasanaeth deintyddion) yn cael ei diwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff 4(3)(g) (trefniant gofal parhaus) mae'r geiriau “general anaesthesia or” yn cael eu dileu.
(3) Ym mharagraff 16 (3)(c) (cymysgu gwasanaethau deintyddol cyffredinol a thriniaeth gofal preifat) mae'r geiriau “ in which case the treatment shall be provided wholly under general dental services or wholly privately” yn cael eu dileu.
(4) Mae paragraff 17 (triniaeth achlysurol) yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yn is-baragraff 2(c) mae'r geiriau “except that, where a general anaesthetic is used, there shall be no limit as to the number of deciduous teeth that may be extracted” yn cael eu dileu;
(b) mae is-baragraff (2)(p) yn cael ei hepgor.
(5) Yn lle paragraff 21 (anaesthesia gyffredinol a thawelyddu) rhoddir—“
21 

(1) Where a dentist undertakes, in the course of providing general dental services, any procedure for which sedation of the patient is necessary he shall remain with the patient, and arrange for another person with suitable training and experience to remain with the patient, throughout the procedure.
(2) In this paragraph “a person with suitable training and experience” means a person who has received such training and experience as to be capable of assisting the dentist in monitoring the clinical condition of the patient and in the event of an emergency.”.
(6) Mae paragraff 33A (adeiladau: anaesthesia gyffredinol) yn cael ei hepgor.
(7) Mae paragraff 40 (anaesthetigau cyffredinol) yn cael ei hepgor.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Rhagfyr 2001