
1 
—Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) (Cymru) 2001.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Rhagfyr 2001.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 

(1) Diwygir Atodlen 1 i Reoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2001fel a ganlyn:
(2) Ar ôl paragraff 5 mewnosodir“
5A 
Bord na Móna Firepak briquettes (sy'n cael eu marchnata hefyd fel Arigna Special coal briquettes), a weithgynhyrchir gan Bord na Móna Fuels Limited, Newbridge, County Kildare, Iwerddon—
(a) sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 50 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 20 i 40 y cant o'r cyfanswm pwysau) glo meddal (sef rhyw 10 i 30 y cant o'r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres;
(c) sy'n frics glo ar siâp gobennydd ac sy'n pwyso 50 gram ar gyfartaledd; ac
(ch) nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Rhagfyr 2001