
1 

(1) Teitl y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001, deuant i rym ar 1 Ionawr 2002 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Diwygir Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â rheoliad 3.
3 
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “Directive 95/45/EC”, ychwanegir y geiriau “and Directive 2001/50/EC” ar y diwedd.
4 

(1) Caiff rheoliad 3 o Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2000 ei hepgor.
(2) Yn y darpariaethau a restrir ym mharagraff (3), caiff cyfeiriadau at Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995, i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys i Gymru, eu cymryd fel cyfeiriad at y Rheoliadau hynny fel y maent wedi'u diwygio gan Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2000 a chan y rheoliadau hyn.
(3) Dyma'r darpariaethau y mae paragraff (2) yn cyfeirio atynt—
(a) Diffiniad “permitted colour” yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Jam a Chynhyrchion Tebyg 1981;
(b) Diffiniad “additive” yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984);
(c) Diffiniad “colour” yn Rhan ll o Atodlen 1 (categorïau o ychwanegion bwyd) i Reoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992;
(ch) Diffiniad “colour” yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995); a
(d) Diffiniad “the additives Regulations” yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Rhagfyr 2001