
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru) (Rhoi Swyddogaeth) 2001 a daw i rym ar 31 Rhagfyr 2001.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ACCAC” (“ACCAC”) yw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru; ac
 ystyr “Deddf 1997” (“the 1997 Act”) yw Deddf Addysg 1997.
3 

(1) Mewn perthynas â chymwysterau o'r fath a bennir ym mharagraff (2) isod, rhoir y swyddogaeth o fewn paragraff (gg) o adran 24(2) o Ddeddf 1997 i ACCAC.
(2) Y cymwysterau hynny yw pob cymhwyster allanol ar wahân i Gymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol.
(3) Mae'r swyddogaeth a roddir gan yr erthygl hon yn cael ei rhoi i fod yn arferadwy gan ACCAC yn unig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Rhagfyr 2001